William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B dileu'r cysylltiadau interwiki am "Cristnogaeth" |
B William Williams Pantycelyn wedi'i symud i William Williams (Pantycelyn): cysondeb (gweler Rhestr awduron Cymraeg (1600-heddiw)) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:25, 27 Medi 2006
William Williams (1717-11 Ionawr 1791) Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith. Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.
- Enw barddol: "Pantycelyn"
- Llysenw: "Y Pêr Ganiedydd"
Llyfryddiaeth
- Aleluia (1742-49)
- Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr (1762)
- Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763-69)
- Gloria in Excelsis (1771-72)
- Golwg ar Deyrnas Crist (1756)
- Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764)
- Pantheologia, neu hanes holl grefyddau'r byd (1762)
- Crododil Afon yr Aifft (1767)
- Hanes Bywyd a Marwolaeth Tri Wyr o Sodom a'r Aifft (1768)
- Drws y Society Profiad (1777)
- Cyfarwyddwr Priodas (1777)
Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn Derec Llwyd Morgan (gol.), Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991)
Cyfeirnodion ar y we