Geiseric: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Genseric.jpg|bawd|240px|Geiseric yn cipio Rhufain]] |
|||
Brenin llwyth Almaenig y [[Fandaliaid]] oedd '''Geiseric''' (tua [[389]] - [[25 Ionawr]] [[477]]). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid. |
Brenin llwyth Almaenig y [[Fandaliaid]] oedd '''Geiseric''' (tua [[389]] - [[25 Ionawr]] [[477]]). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid. |
||
Fersiwn yn ôl 07:43, 24 Rhagfyr 2009
Brenin llwyth Almaenig y Fandaliaid oedd Geiseric (tua 389 - 25 Ionawr 477). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid.
Roedd Genseric yn fab i'r brenin Godigisel, a ganed ef tua 389, mae'n debyg yn ardal Llyn Balaton yn Hwngari. Daeth i'r orsedd yn 427 neu 428. Yn 429 cymerodd fantais o anghydfod yn yr Ymerodraeth Rufeinig i groesi i Ogledd Affrica gyda 80,000 o wŷr. Gosodasanr warchae ar ddinas Hippo Regius, lle bu Sant Awstin farw yn Awst 430 yn ystod y gwarchae. Gwnaed heddwch a'r Rhufeiniaid am gyfnod, ond yn 439 cipiodd Geiseric ddinas Carthago.
Tyfodd Teyrnas y Fandaliaid a'r Alaniaid yn deyrnas gref yn ystod teyrnasiad Geiseric. Yn 455 cipiwyd dinas Rhufain ganddynt. Dywedir i'r Pab Leo Fawr gyfarfod Geiseric tu allan i'r ddinas a'i berswadio i beidio niweidio'r trigolion, ond anrheithiwyd y ddinas. Bu farw Geiseric yn 477, a dilynwyd ef gan ei fab Huneric.