Tasmania: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 13: Llinell 13:


== Anifeiliaid brodorol ==
== Anifeiliaid brodorol ==
* Y [[Teigr Tasmanaidd|thylasin]] (''thylasin'') – nas gwelwyd ers [[1936]].
* Y [[thylasin|Teigr Tasmanaidd]] (''thylasin'') – nas gwelwyd ers [[1936]].
* Y [[Diafol Tasmanaidd]]
* Y [[Diafol Tasmanaidd]]



Fersiwn yn ôl 18:58, 22 Rhagfyr 2009

Map o Dasmania

Ynys a thalaith yng Nghymanwlad Awstralia (neu Awstralia) yw Tasmania. Mae cyfandir Awstralia yn gorwedd i’r gogledd o’r ynys a'r Antarctig i’r de ohoni. I'r dwyrain, rhwng yr ynys a Seland Newydd, ceir Môr Tasman. Cafodd ei enwi ar ôl y fforiwr o'r Iseldiroedd, Abel Janszoon Tasman. Tasmania yw'r chweched ar hugain fwyaf o ynysoedd y byd yn ddaearyddol. Mae 484,700 o bobl yn byw yn Nhasmania (Mawrth 2005, ABS).

Prifddinas Tasmania yw Hobart. Mae dinasoedd eraill yn cynnwys Launceston yn y gogledd a Devonport a Burnie yn y gogledd-orllewin.

Hanes Tasmania

Cyrhaeddodd y bobl gyntaf Dasmania rhwng tua 29,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ôl.

Sefydlodd llywodraeth Prydain Fawr y drefedigaeth gosbol gyntaf ar yr ynys yn 1803, yn Hobart. Roedd y gwladychwyr cyntaf gan amlaf yn garcharion a'u gwarchodwyr, a weithiai i ddatblygu diwydiant ac amaeth. Mae'r trefedigaethau cosbol eraill yn cynnwys Port Arthur a Macquarie Harbour.

Chwaraeon

Chwaraeon mwyaf poblogaidd Tasmania yw criced a phêl-droed rheolau Awstralaidd.

Anifeiliaid brodorol

Enwogion Tasmania

Taleithiau a thiriogaethau Awstralia

Baner Awstralia

De Awstralia | De Cymru Newydd | Gorllewin Awstralia | Queensland | Tasmania | Tiriogaeth y Gogledd | Tiriogaeth Prifddinas Awstralia | Victoria

Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.