Afon Elwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
categori |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Afon Elwy o ddiddordeb archaeolegol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r Palaeolithig a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn [[Neanderthal]] mewn ogof yn Bont-newydd. |

[[Categori:Afonydd Cymru]] |
[[Categori:Afonydd Cymru|Elwy]] |
||
[[en:River Elwy]] |
[[en:River Elwy]] |
Fersiwn yn ôl 14:27, 22 Medi 2006
Mae Afon Elwy yn afon yng ngogledd Cymru sy'n rhedeg i mewn i Afon Clwyd. Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref Llanrwst. Fodd bynnag dim ond o bentref Llangernyw ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn Llangernyw mae tair afon fechan, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn cyfarfod i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref Llanfair Talhaiarn ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae Afon Aled, sy'n tarddu o Lyn Aled yn ymuno â hi.
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy Llanelwy. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a Rhuddlan, ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.
Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Afon Elwy o ddiddordeb archaeolegol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r Palaeolithig a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn Neanderthal mewn ogof yn Bont-newydd.