Y Ddraig Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes: Uchafswm Limit = 20 ar Restr Wicidata; ayb, replaced: Glyndŵr → Glyn Dŵr using AWB
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Welsh Dragon (Y Ddraig Goch).svg|bawd|Y Ddraig Goch]]
[[Delwedd:Welsh Dragon (Y Ddraig Goch).svg|bawd|Y Ddraig Goch]]
Prif symbol cenedlaethol [[Cymru]] yw'r '''Ddraig Goch''' sydd i'w weld ar [[Baner Cymru|faner genedlaethol y wlad]] (a adnabyddir ar lafar fel "Y Ddraig Goch"). Ceir sawl chwedl am y Ddraig Goch, o'r [[Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]] ymlaen. Cysylltir y ddraig â [[Dinas Emrys]] yn [[Eryri]] ac mae ei gwreiddiau fel symbol o'r [[Cymry]] a'u gwlad yn hen.
:''Gweler hefyd [[Baner Cymru]]''.
'''Y Ddraig Goch''' yw prif symbol cenedlaethol [[Cymru]], sydd i'w weld ar [[Baner Cymru|faner genedlaethol y wlad]] (a adnabyddir ar lafar fel "Y Ddraig Goch"). Ceir sawl chwedl am y Ddraig Goch, o'r [[Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]] ymlaen. Cysylltir y ddraig â [[Dinas Emrys]] yn [[Eryri]] ac mae ei gwreiddiau fel symbol o'r [[Cymry]] a'u gwlad yn hen.


==Chwedloniaeth==
==Chwedloniaeth==
Llinell 15: Llinell 14:


==Hanes==
==Hanes==
=== Y Rhufeiniaid ===
Credai rhai bod y ddraig yng Nghymru yn dyddio'n ôl i faner [[Macsen Wledig]], a oedd yn dangos draig borffor yn ôl y milwr a'r hanesydd [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] [[Ammianus Marcellinus]]. Roedd y ddraig ({{iaith-la|draco}}) yn arwyddlun cyffredin ar faneri [[cohort]]iau'r lluoedd Rhufeinig ers yr 2g, a chafodd ei benthyg o bosib oddi ar y [[Parthia]]id. Cafodd y fath faner ei gwnïo ar ffurf [[hosan wynt]], a'i phen agored o ddefnydd caled yn debyg i ben draig a'r gwynt yn ymdonni ar hyd y gynffon, a wneid yn aml o [[sidan]], gan symud y ddraig megis [[neidr]].<ref>[[David Jones (bardd ac arlunydd)|David Jones]], ''The Dying Gaul and Other Writings'' (Llundain: Faber & Faber, 2017 [1978]), tt. 109–110.</ref>

=== Yr Oesoedd Canol ===
Gelwir sawl arwr yn "ddragon" fel trosiad am ryfelwr nerthol yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol. Ceir enghraifft yn enw [[Uthr Bendragon]], tad Arthur.
Gelwir sawl arwr yn "ddragon" fel trosiad am ryfelwr nerthol yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol. Ceir enghraifft yn enw [[Uthr Bendragon]], tad Arthur.


Gorymdeithiodd byddin [[Owain Glyn Dŵr]] dan faner yn cynnwys draig aur ar gefndir gwyn pan ymosododd ar [[Castell Caernarfon|gastell Caernarfon]] yn [[1401]].
Gorymdeithiodd byddin [[Owain Glyn Dŵr]] dan faner yn cynnwys draig aur ar gefndir gwyn pan ymosododd ar [[Castell Caernarfon|gastell Caernarfon]] yn [[1401]].


=== Y Tuduriaid ===
Pan laniodd [[Harri Tudur]] ym Mhenfro yn [[1485]], cododd baner gyda llun o ddraig goch [[Cadwaladr Fendigaid]] ar faes gwyrdd a gwyn arno, a ddaeth i gynrychioli Tŷ'r Tuduriaid, a raliodd nifer o Gymry ato ar ei ffordd i [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]]. Cynwyswyd y Ddraig Goch yn [[arfbais]] y [[Tuduriaid]] wedyn.
Pan laniodd [[Harri Tudur]] ym Mhenfro yn [[1485]], cododd baner gyda llun o ddraig goch [[Cadwaladr Fendigaid]] ar faes gwyrdd a gwyn arno, a ddaeth i gynrychioli Tŷ'r Tuduriaid, a raliodd nifer o Gymry ato ar ei ffordd i [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]]. Cynwyswyd y Ddraig Goch yn [[arfbais]] y [[Tuduriaid]] wedyn.


=== Yr oes fodern ===
O ddechrau'r [[19g]] ymlaen, daeth y Ddraig Goch i fri cenedlaethol eto ac fe;i defnyddwyd gan sawl cymdeithas gwladgarol ac fel arwydd cyffredinol o Gymru a'r Cymry.
O ddechrau'r [[19g]] ymlaen, daeth y Ddraig Goch i fri cenedlaethol eto ac fe;i defnyddwyd gan sawl cymdeithas gwladgarol ac fel arwydd cyffredinol o Gymru a'r Cymry.


Yn [[1953]], mabwysiadodd y [[Swyddfa Gymreig]] yr arwyddair "Y ddraig goch ddyry cychwyn" ar ei arwyddlun brenhinol. Ni wyddys pwy a gynghorodd y Swyddfa Gymreig i wneud hynny, ond mae'r llinell, sy'n dod o gerdd gan y bardd [[Deio ab Ieuan Du]], yn cyfeirio at darw yn hytrach na draig, a'r "cychwyn" yw'r weithred o genhedlu gyda buwch yn yr un cae.
Yn [[1953]], mabwysiadodd y [[Swyddfa Gymreig]] yr arwyddair "Y ddraig goch ddyry cychwyn" ar ei arwyddlun brenhinol. Ni wyddys pwy a gynghorodd y Swyddfa Gymreig i wneud hynny, ond mae'r llinell, sy'n dod o gerdd gan y bardd [[Deio ab Ieuan Du]], yn cyfeirio at darw yn hytrach na draig, a'r "cychwyn" yw'r weithred o genhedlu gyda buwch yn yr un cae.

== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}


== Dolenni allanol ==
== Dolenni allanol ==
* [http://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/flag/ BBC Wales]
* [http://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/flag/ BBC Wales]


{{DEFAULTSORT:Draig Coch}}
==Gweler hefyd==
[[Categori:Creaduriaid herodrol]]
*[[Baner Cymru]]
[[Categori:Dreigiau|Coch]]
*[[Draig]]
[[Categori:Herodraeth Cymru]]

[[Categori:Symbolau cenedlaethol Cymru|Draig Goch]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig|Ddraig Goch]]
[[Categori:Symbolau cenedlaethol Cymru]]
[[Categori:Dreigiau|Ddraig Goch]]

Fersiwn yn ôl 10:47, 16 Tachwedd 2018

Y Ddraig Goch

Prif symbol cenedlaethol Cymru yw'r Ddraig Goch sydd i'w weld ar faner genedlaethol y wlad (a adnabyddir ar lafar fel "Y Ddraig Goch"). Ceir sawl chwedl am y Ddraig Goch, o'r Oesoedd Canol Cynnar ymlaen. Cysylltir y ddraig â Dinas Emrys yn Eryri ac mae ei gwreiddiau fel symbol o'r Cymry a'u gwlad yn hen.

Chwedloniaeth

Cofeb Gymreig Brwydr Coedwig Mametz

Chwedl Lludd a Llefelys

Yn y chwedl Cymraeg Canol Cyfranc Lludd a Llefelys, a gyfrifir fel rheol yn un o'r Mabinogion, mae'r ddraig goch yn ymladd â draig wen sy'n ceisio goresgyn Ynys Brydain. Mae sgrechiadau'r ddraig honno yn peri i wragedd feichiog golli eu plant ac yn troi anifeiliad a phlanhigion yn anffrwythlon. Â Lludd, brenin y Brythoniaid, i geisio cymorth ei frawd doeth Llefelys yn Ffrainc. Mae Llefelys yn dweud wrtho i gloddio twll yng nghanol Ynys Brydain, ei lenwi â medd, a'i orchuddio â llen. Gwna Lludd hyn, ac mae'r ddwy ddraig yn yfed y fedd ac yn syrthio i gysgu. Mae Lludd yn eu dwyn a'u carcharu, wedi eu lapio yn y llen o hyd, yn Ninas Emrys yn Eryri.

Nennius

Mae Nennius yn ail-gydio yn y chwedl yn ei Historia Brittonum (tua dechrau'r 9g). Mae'r dreigiau dan Ddinas Emrys o hyd pan ddaw'r brenin Gwrtheyrn yno, ar ffo ar ôl Brad y Cyllyll Hirion, a cheisio codi castell. Ond mae'n syrthio bob nos. Ymgynghora Gwrtheyrn a'i ddoethion, sy'n ei gynghori i gael hyd i fachgen heb dad naturiol, a'i aberthu ar y graig. Mae negeswyr Gwrtheyrn yn cael hyd i fachgen (a enwir yn Fyrddin mewn fersiynau diweddarach) yng Nghaerfyrddin. Ar ôl clywed am ei dynged, mae'r bachgen rhyfeddol yn dweud wrth Wrtheyrn gwir ystyr y dreigiau sy'n ei boeni. Mae Gwrtheyrn yn cloddi'r graig ac yn rhyddhau'r dreigiau. Maent yn parhau i gwffio nes bod y ddraig goch wedi gorchfygu'r ddraig wen. Yna mae'r bachgen yn esbonio wrth y brenin fod y ddraig wen yn cynrychioli'r Eingl-Sacsoniaid (cyndeidiau'r Saeson) a bod y ddraig goch yn cynrychioli'r Brythoniaid, cyndeidiau'r Cymry.

Sieffre o Fynwy a'r brudiau

Ceir ymhelaethiad rhamantus ar yr un chwedl gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae (dechrau'r 12eg ganrif), lle portreadir y ddraig goch fel arwydd sy'n darogan dyfodiad Arthur fel Mab Darogan. Ceir nifer o gyfeiriadau at y ddraig yng ngherddi brud y cyfnod yn ogystal.

Hanes

Y Rhufeiniaid

Credai rhai bod y ddraig yng Nghymru yn dyddio'n ôl i faner Macsen Wledig, a oedd yn dangos draig borffor yn ôl y milwr a'r hanesydd Rhufeinig Ammianus Marcellinus. Roedd y ddraig (Lladin: draco) yn arwyddlun cyffredin ar faneri cohortiau'r lluoedd Rhufeinig ers yr 2g, a chafodd ei benthyg o bosib oddi ar y Parthiaid. Cafodd y fath faner ei gwnïo ar ffurf hosan wynt, a'i phen agored o ddefnydd caled yn debyg i ben draig a'r gwynt yn ymdonni ar hyd y gynffon, a wneid yn aml o sidan, gan symud y ddraig megis neidr.[1]

Yr Oesoedd Canol

Gelwir sawl arwr yn "ddragon" fel trosiad am ryfelwr nerthol yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol. Ceir enghraifft yn enw Uthr Bendragon, tad Arthur.

Gorymdeithiodd byddin Owain Glyn Dŵr dan faner yn cynnwys draig aur ar gefndir gwyn pan ymosododd ar gastell Caernarfon yn 1401.

Y Tuduriaid

Pan laniodd Harri Tudur ym Mhenfro yn 1485, cododd baner gyda llun o ddraig goch Cadwaladr Fendigaid ar faes gwyrdd a gwyn arno, a ddaeth i gynrychioli Tŷ'r Tuduriaid, a raliodd nifer o Gymry ato ar ei ffordd i Faes Bosworth. Cynwyswyd y Ddraig Goch yn arfbais y Tuduriaid wedyn.

Yr oes fodern

O ddechrau'r 19g ymlaen, daeth y Ddraig Goch i fri cenedlaethol eto ac fe;i defnyddwyd gan sawl cymdeithas gwladgarol ac fel arwydd cyffredinol o Gymru a'r Cymry.

Yn 1953, mabwysiadodd y Swyddfa Gymreig yr arwyddair "Y ddraig goch ddyry cychwyn" ar ei arwyddlun brenhinol. Ni wyddys pwy a gynghorodd y Swyddfa Gymreig i wneud hynny, ond mae'r llinell, sy'n dod o gerdd gan y bardd Deio ab Ieuan Du, yn cyfeirio at darw yn hytrach na draig, a'r "cychwyn" yw'r weithred o genhedlu gyda buwch yn yr un cae.

Cyfeiriadau

  1. David Jones, The Dying Gaul and Other Writings (Llundain: Faber & Faber, 2017 [1978]), tt. 109–110.

Dolenni allanol