Cymraeg Canol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Edricson (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:08, 19 Medi 2006

Mae Cymraeg Canol yn enw cyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o'r 12fed i'r 14fed ganrif. Llawer o lawysgrifau sydd ar gael o'r amser yma, yn cynnwys y Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch a Chyfraith Hywel Dda.

Nid llên tradoddiadol yn unig a ysgrifennwyd yng nghyfnod Cymraeg Canol — mae yn y llawysgrifau llawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y Ffrangeg a'r Lladin.

Gellir gwahaniaethu rhwng Cymraeg Canol Cynnar a Chymraeg Canol Diweddar. Mae testunau hynaf, e. e. rheini'r Cynfeirdd, yn dod o cyfnod Hen Gymraeg, ond wedi caffael nodweddion yr iaith diweddaraf yn ystod eu trosglwyddiad, felly mae rhaid neilltuoli rhwng y dau elfen.

Yn Gymraeg Canol a ysgrifenwyd y Pedeir Keinc y Mabinogi a chwedlau eraill cylch Brenin Arthur.

Argraff

Doedd ddim yn y cyfnod Cymraeg Canol argraff safonol fel yn yr iaith gyfoes. Dyna rai nod amgen argaff Cymraeg Canol nad ydy'n bresennol yn yr iaith heddiw:

  • Defnyddir k a c ill dau am y son [k] (dim ond c sydd yn Gymraeg Cyfoes)
  • Ni nodir y treiglad meddal a newidiadau cytseiniad rhwng llafariaid sydd wedi darfod yn y Frythoneg (gw. yr erthygl yma)
  • Does dim modd safonol nodi'r treiglad trwynol: gellir gweld sillafiadau fel yg gwlad, y ngwlad a. a.
  • Gall y llythyren u olygu f heddiw, yn arbennig rhwng llafariaid, felly ystauell, niuer. Defnyddiwyd y llythyren f am y ff heddiw.

Gramadeg

Seineg a seinyddiaeth

Roedd seiniau Cymraeg Canol yn debyg yn rhesymol i seiniau Cymraeg Modern. Yr unig eithriad ydy'r sain a ysgrifennir fel u: [ü] fel yn yr Almaeneg neu'r Ffrangeg oedd hynny, nid sain [ɨ], [i] y tafodieithoedd cyfoes.

Yn rhai testun Cymraeg Canol y wynebir nodweddion tafodieithodd sydd yn debyg i'r rheini a oes heddiw: e. e. gall y sain [j] gael ei golli rhwng cytsain a llafariad, fel yn llawer o dafodieithoedd y De. Gall [x] (ch) gael ei newid i [h] hefyd.


Morffoleg

Mae Cymraeg Canol yn nes i'r hen ieithoedd Celtaidd eraill, e. e. Hen Wyddeleg, yn y morffoleg. Er enghraifft, ceir y terfyniadau -wŷs, -ws, -es, -as , ar gyfer trydydd person unigol yr amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal â'r ffurf –odd. Ceir hefyd ffurf 3un gorffennol kigleu o'r ferf clywed, sydd yn oesol iawn ac yn cyfateb i'r Hen Wyddeleg -cúala o'r ferf ro-cluinethar, 'clywodd'.

Ceir yn Gymraeg Canol mwy o ffurfiau lluosog yr ansoddeiriau nad yn yr iaith gyfoes, e. e. cochion.

Roedd terfyniad lluosog enw -awr yn eang iawn yn Gymraeg Canol, ond cafodd ei ailosod gan y terfyniad -au.

Cystrawen

Fel yn y Gymraeg cyfoes ysgrifenedig, oedd yn Gymraeg Canol nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (Gwelodd y brenhin gastell) yn unig, ond y drefn annormal a'r drefn gymysg hefyd (Y brenhin a welodd gastell). Awgrymodd y drefn gymysg bwyslais ar y goddrych. Y gwahân rwhng y ddwy oedd hynny: daeth yr elfen negyddol ny o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, basai Ny urenhin a welodd gastell yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn annormal (felly, Brenhin ny welodd gastell = Welodd y brenin ddim castell).

Llyfryddiaeth

Gramadegau

D. Simon Evans Gramadeg Cymraeg Canol (yn Saesneg: A Grammar of Middle Welsh)



 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.