Cymhareb pŵer i bwysau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: hr:Specifična snaga
Pjacobi (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 49: Llinell 49:
[[Categori:Peirianneg]]
[[Categori:Peirianneg]]


[[de:Leistungsgewicht]]
[[de:Massebezogene Leistung]]
[[en:Power-to-weight ratio]]
[[en:Power-to-weight ratio]]
[[fr:Puissance massique]]
[[fr:Puissance massique]]

Fersiwn yn ôl 07:09, 11 Rhagfyr 2009

Pŵer Penodol

Cymhareb pŵer i pwysau (pŵer penodol) (Saesneg: power to weight ratio) yw'r cyfrifiad a ddefnyddir yn aml yn gymhwsol ar foduron a peiriannau symudol eraill i alluogi cymharu un uned (cynllun) gyda un arall. to another. Mae cymhareb pŵer i pwysau yn fesuriad o gwir berfformiad unrhyw fodur.

Fformiwla cymhareb pŵer i pwysau (pŵer penodol) ar gyfer modur ydy:
PŴER a gynhyrchir gan y modur wedi ei rannu gan BWYSAU y modur.

System Saesneg unedau mesur yw marchnerth y pwys (hp/lb) fel arfer
System Metrig unedau mesur yw marchnerth y cilogram (hp/kg) fel arfer
Defnyddir watiau, neu kW (cilowatiau), yn lle marchnerth yn aml (Cyfnewidiad: 745.7 wat/hp).

Oherwydd mai cymhareb ydy hyn, mae'r enwadur wastad yn unigol (1 lb neu 1 kg), fel yn yr esiampl golynol: 250 hp (pŵer modur)/1,000 lb (pwysau modur) = 0.25 hp/lb pŵer penodol (modur car) 70,000 hp (pŵer tyrbin)/700 lb (pwysau tyrbin) = 100 hp/lb pŵer penodol (gwennol ofod) Nodir: Wrth edrych ar gymhareb pŵer i pwysau (pŵer penodol), y mwyaf yw'r gorau.


Llwytho Pŵer

Defnyddir Cymhareb pwysau i pŵer (llwytho pŵer) yn aml gyda awyrannau, ceir a cherbydau yn gyffredinol, i alluogi cymharu perfformiad un cerbyd gyda'r llall. Cymhareb pwysau i pŵer yw'r mesuriad o allu cyflymu (potensial) unrhyw gerbyd tîr neu berfformiad dringo unrhyw awyren neu long ofod.

Cymhareb pwysau i pŵer (llwytho pŵer) ar gyfer cerbyd ydy: Pwysau'r cerbyd wedi ei rannu gyda'r pŵer a gynhyrchir gan y modur:

System Saesneg unedau mesur yw pwys y marchnerth (lb/hp) fel arfer
System Metrig unedau mesur yw cilogram y marchnerth (kg/hp) fel arfer
Defnyddir watiau, neu kW (cilowatiau), yn lle marchnerth yn aml (Cyfnewidiad: 745.7 wat/hp).

Oherwydd mai cymhareb ydy hyn, mae'r enwadur wastad yn unigol (1 hp neu 1 kW) fel yn yr esiampl golynol:
3,122 lb (pwysau car)/145 hp (pŵer modur) = 21.5 lb/hp (car) llwytho pŵer
2,450 lb (pwysau awyren)/160 hp (pŵer modur) = 15.3 lb/hp (9.25 kg/kW) (awyren) llwytho pŵer
Nodir: Wrth edrych ar gymhareb pŵer i pwysau (pŵer penodol), y lleiaf yw'r gorau.

Defnydd tu allan i beirianneg

Defnyddir y gymhareb yn aml mewn chwaraeon i fesur y pŵer a ellir chwaraewr ei allanoli. Mae hyn yn arbennig o bwys gyda dringwyr yn seiclo, bydd gan y seiclwyr sydd gyda'r gymhareb pŵer i pwysau gorau fantais aruthrol yn y mynyddoedd pan fyddent yn dringo fyny allt bydd disgyrchiant yn fwy o ffactor yn eu perfformiad. Caiff pŵer seiclwyr ei fesur men watiau a bydd seiclwr da allanoli pŵer o dros 500 wat ond bydd hwn yn mynd i wastraff os byddent yn pwyso gormod.