Josephus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ml:ജോസെഫസ്
Llinell 45: Llinell 45:
[[ko:플라비우스 요세푸스]]
[[ko:플라비우스 요세푸스]]
[[la:Flavius Iosephus]]
[[la:Flavius Iosephus]]
[[ml:ജോസെഫസ്]]
[[nl:Flavius Josephus]]
[[nl:Flavius Josephus]]
[[nn:Josefus]]
[[nn:Josefus]]

Fersiwn yn ôl 02:11, 9 Rhagfyr 2009

Llun dychmygol o Josephus, o gyfieithiad Saesneg William Whiston o'i weithiau.

Hanesydd Iddewig yn ysgrifennu mewn Groeg oedd Josephus, Groeg: Ιώσηπος (Iosepos), (37 – ar ôl 100 OC). Pan ddaeth yn ddinesydd Rhufeinig, cymerodd yr enw Titus Flavius Josephus.

Roedd Josephus yn fab i offeiriad o'r enw Matthias. Ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid yn y rhyfel rhwng 66 a 73, ac roedd yn arweinydd yn ardal Galilea. Pan roddwyd caer Yodfat dan warchae gan y Rhufeiniaid yn 67, penderfynodd y garsiwn Iddewig eu lladd eu hunain yn hytrach nag ildio. Fodd bynnag, ildiodd Josephus ac un o'i filwyr i'r Rhufeiniaid, er bod yr union amgylchiadau yn aneglur. Cymerwyd ef yn garcharor, ac ymddengys iddo ennill ffafr yr arweinwyr Rhufeinig, Flavius Vespasian a'i fab Titus. Rhyddhawyd ef yn 69.

Cyhaeddodd i Rufain yn 71 gyda Titus, a gwnaed ef yn ddinesydd Rhufeinig. Rhoddwyd pensiwn iddo hefyd, ac yn Rhufain dan nawdd Vespasian a Titus yr ysgrifennodd ei weithiau hanesyddol. Credir iddo briodi bedair gwaith i gyd; lladdwyd ei wraig gyntaf a'i rieni yn ystod y gwarchae ar Jerusalem. Cofnodir tri mab iddo, Flavius Hyrcanus, Flavius Justus a Simonides Agrippa.

Gweithiau

Cyfieithiad Cymraeg

  • Gweithiau Flavius Josephus: cyfieithedig o'r Groeg a'r Hebraeg ... gan William Whiston; at yr hyn yr ychwanegwyd parhad o hanes yr Iuddewon hyd y dydd hwn gan Dr. Bradshaw a'r Parch J. Mills (Caernarfon : H. Humphreys, 1860).