Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: id:Asimilasi (linguistik) |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: nds-nl:Assimilasie (sproakleer) |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
[[lt:Asimiliacija (kalbotyra)]] |
[[lt:Asimiliacija (kalbotyra)]] |
||
[[mk:Едначење по звучност]] |
[[mk:Едначење по звучност]] |
||
[[nds-nl:Assimilasie (sproakleer)]] |
|||
[[nl:Assimilatie (taalkunde)]] |
[[nl:Assimilatie (taalkunde)]] |
||
[[pl:Asymilacja fonetyczna]] |
[[pl:Asymilacja fonetyczna]] |
Fersiwn yn ôl 23:08, 8 Rhagfyr 2009
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw cymathiad.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn gymathiad blaen. Enghraifft o gymathiad blaen yn y Gymraeg yw simme a glywir ar lafar yn y gorllewin am simne. Yma mae'r m wedi troi'r n sy'n ei dilyn yn m hefyd.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn gymathiad ôl. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw tac-cu, a glywir yn aml am tad-cu yn y de. Yma mae'r c yn y cu wedi troi'r d ar ddiwedd tad yn c; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae campunt, a glywir yn gyffredin ar lafar am canpunt, yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r p yn punt wedi dylanwadu ar y llythyren n flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn m. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw bwgwth am bygwth.