Afon Dniester: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: ca:Dnister; cosmetic changes |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: id:Sungai Dniester |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
[[hr:Dnjestar]] |
[[hr:Dnjestar]] |
||
[[hu:Dnyeszter]] |
[[hu:Dnyeszter]] |
||
[[id:Sungai Dniester]] |
|||
[[it:Nistro]] |
[[it:Nistro]] |
||
[[ja:ドニエストル川]] |
[[ja:ドニエストル川]] |
Fersiwn yn ôl 18:21, 5 Rhagfyr 2009
Afon fawr yn nwyrain Ewrop yw Afon Dniester (Wcreineg: Дністер, Dnister; Rwmaneg, Nistru).
Gorwedd tarddle'r afon yn Wcráin, ger Drohobych, ym mynyddoedd Carpathia yn agos i'r ffin â Gwlad Pwyl, ac mae'n llifo oddi yno i aberu yn y Môr Du. Am ran o'i chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng Wcrain a Moldofa, ac wedyn mae'n llifo yn ei blaen trwy Foldofa am 398 km, gan orwedd rhwng rhan fwyaf y wlad a Transnistria. Yn is i lawr mae'n ffurfio'r ffin rhwng Moldofa a Wcrain eto, ac wedyn yn llifo trwy Wcrain i'r Môr Du, lle mae ei haber yn ffurfio Liman Dniester. Ei hyd yw 1,362 km (846 milltir).
Yn ei rhan isaf, mae ei glan orllewinol yn uchel a mynyddig tra bod ei glan ddwyreiniol yn wastadir isel. Mae'r afon yn llunio'r ffin de facto y steppe Asiaidd. Ei phrif lednentydd yw'r afonydd Răut a Bîc.
Yn yr Henfyd, ystyrid yr afon yn brif afon y Sarmatia Ewropeaidd, a chyfeirir ati yng ngwaith sawl awdur Clasurol, yn cynnwys Herodotus.
Dolen allanol