Ffordd y Sidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: my:ပိုးလမ်း |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: ko:비단길 |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[kaa:Ullı jipek jolı]] |
[[kaa:Ullı jipek jolı]] |
||
[[kk:Жібек Жолы]] |
[[kk:Жібек Жолы]] |
||
[[ko: |
[[ko:비단길]] |
||
[[ku:Riya Hevrîşimê]] |
[[ku:Riya Hevrîşimê]] |
||
[[la:Via Sericaria]] |
[[la:Via Sericaria]] |
Fersiwn yn ôl 08:34, 26 Tachwedd 2009
Defnyddir yr enw Ffordd y Sidan neu Llwybr y Sidan am y rhwydwaith o ffyrdd a ddefnyddid ar gyfer masnach rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Defnyddid y rhain yn arbennig i gludo sidan o Tsieina i'r gorllewin. Defnyddid y llwybrau hyn o'r cyfnod clasurol hyd yn ddiweddar yn y Canol Oesoedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r term "Ffordd y Sidan" (Seidenstraße) oedd y daearyddwr Almaenig Ferdinand von Richthofen yn 1877.
Roedd dwy gangen i'r ffordd trwy ganolbarth Asia o ganolfannau masnachol Gogledd Tsieina. Roedd y gangen ogleddol yn arwain i ddwyrain Ewrop heibio penrhyn y Crimea a'r Môr Du. Roedd y gangen ddeheuol yn arwain trwy Turkestan-Khorasan ac Iran ar draws Mesopotamia i Antiochia a'r Môr Canoldir. Roedd y dinasoedd adnabyddus ar Ffordd y sidan yn cynnwys Damascus, Baghdad, Isfahan, Merv, Caergystennin, Balkh, Samarcand, Tashkent, Kashgar, Ürümqi, Xi'an a Hotan.
Yr Ewropead cyntaf i ddilyn Ffordd y Sidan cyn belled a Tsiena, yn ôl pob tebyg, oedd y masnachwr Eidalaidd Marco Polo.