Brwydr Mechain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
erthygl newydd
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Brwydr rhwng [[Bleddyn ap Cynfryn]] a dau fab [[Gruffydd ap Llywelyn]] oedd '''Brwydr Mechain''' a ymladdwyd yn y flwyddyn [[1070]] yng [[Cantref|nghantref]] [[Mechain]] yn [[Teyrnas Powys|nheyrnas Powys]].
Brwydr rhwng [[Bleddyn ap Cynfyn]] a dau fab [[Gruffydd ap Llywelyn]] oedd '''Brwydr Mechain''' a ymladdwyd yn y flwyddyn [[1070]] yng [[Cantref|nghantref]] [[Mechain]] yn [[Teyrnas Powys|nheyrnas Powys]].

Yr oedd Bleddyn yn fab i [[Cynfyn ap Gwerstan]] o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd [[Gruffydd ap Llywelyn]] gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan [[Harold Godwinson]] yn [[1063]], rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd [[Rhiwallon ap Cynfyn|Rhiwallon]] wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn [[1067]] ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y [[Normaniaid]] yn [[Henffordd]], yna yn [[1068]] gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.

Fersiwn yn ôl 07:23, 14 Tachwedd 2009

Brwydr rhwng Bleddyn ap Cynfyn a dau fab Gruffydd ap Llywelyn oedd Brwydr Mechain a ymladdwyd yn y flwyddyn 1070 yng nghantref Mechain yn nheyrnas Powys.

Yr oedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd Gruffydd ap Llywelyn gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan Harold Godwinson yn 1063, rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd Rhiwallon wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn 1067 ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y Normaniaid yn Henffordd, yna yn 1068 gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.

Fe geisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth.