Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B iaith |
Cam gywirwyd y darn, yn drychinebus gan newid yr ystyr yn llwyr. Dim o'i le gyda "Roedd", Glen. |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Maypole Sweden.jpg|bawd|dde|250px|[[Y Fedwen Fai]] neu'r Fedwen Haf]] |
[[Delwedd:Maypole Sweden.jpg|bawd|dde|250px|[[Y Fedwen Fai]] neu'r Fedwen Haf]] |
||
[[Delwedd:Maypoles.jpg|bawd|dde|250px|Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, [[Pennsylvania]]]] |
[[Delwedd:Maypoles.jpg|bawd|dde|250px|Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, [[Pennsylvania]]]] |
||
Hen ŵyl ddechrau'r haf ydyw '''Calan Mai''' (hefyd a elwir '''Gŵyl Calan Mai''', neu'r hen enw Cymreig o '''Calan Haf''') sef 1 Mai. |
Hen ŵyl ddechrau'r haf ydyw '''Calan Mai''' (hefyd a elwir '''Gŵyl Calan Mai''', neu'r hen enw Cymreig o '''Calan Haf''') sef 1 Mai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r [[Celtiaid]], a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd '''Bealtaine''', neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw [[Belenos]] ([[Beli Mawr]] i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng [[Gŵyl Fair|Gŵyl y Canhwyllau]] (1 Chwefror) ac [[Alban Hefin]] (21 Mehefin). Roedd [[dawnsio haf]] a [[Codi'r Fedwen|chodi'r fedwen]] (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd. |
||
Yn y [[Sanas Cormac]] dywedir fod gan y [[derwydd]]on le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau. |
Yn y [[Sanas Cormac]] dywedir fod gan y [[derwydd]]on le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau. |
Fersiwn yn ôl 08:06, 11 Tachwedd 2009
Hen ŵyl ddechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir Gŵyl Calan Mai, neu'r hen enw Cymreig o Calan Haf) sef 1 Mai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid, a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Roedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.
Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.
Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.
Yn ôl y Mabinogi arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.
Traddodiadau
- Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.
- Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.
- Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.
- Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.
Gweler hefyd:
Ffynonellau:
- Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
- Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.