Flavius Augustus Honorius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dyddiadau |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata |
|||
| fetchwikidata=ALL |
|||
| onlysourced=no |
|||
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth |
|||
| dateformat = dmy |
|||
}} |
|||
[[Delwedd:Jean-Paul Laurens - The Byzantine Emperor Honorius - 1880.jpg|bawd|''Yr Ymerawdwr Bysantaidd Honorius'', gan [[Jean-Paul Laurens]] (1880). Daeth Honorius yn "Augustus" ar [[23 Ionawr]] [[393]], yn naw oed.]] |
[[Delwedd:Jean-Paul Laurens - The Byzantine Emperor Honorius - 1880.jpg|bawd|''Yr Ymerawdwr Bysantaidd Honorius'', gan [[Jean-Paul Laurens]] (1880). Daeth Honorius yn "Augustus" ar [[23 Ionawr]] [[393]], yn naw oed.]] |
||
Fersiwn yn ôl 15:44, 28 Hydref 2018
Flavius Augustus Honorius | |
---|---|
Ganwyd | 9 Medi 384 Caergystennin, Istanbul |
Bu farw | 15 Awst 423 Ravenna |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Western Roman emperor, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Theodosius I |
Mam | Aelia Flaccilla |
Priod | Maria, Thermantia |
Llinach | Llinach Theodosius |
Roedd Flavius Honorius (9 Medi 384 – 15 Awst 423) yn Ymerawdwr Rhufeinig (393–395) ac yna'n Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab ieuengaf i Theodosius I a'i wraig gyntaf Aelia Flaccilla. Cyhoeddwyd Honorius yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad, ar 23 Ionawr 393, yn naw oed. Ar farwolaeth ei dad yn Ionawr 395 rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddo ef a'i frawd Arcadius, a ddaeth yn ymerawdwr yn y dwyrain.
Yn ystod y rhan gyntaf o'i deyrnasiad, roedd Honorius yn dibynnu ar y cadfridog Fandalaidd Stilicho. Priododd ferch Stilicho, Maria. Pan ymosododd y Fisigothiaid ar yr Eidal yn 402, symudodd Honorius y brifddinas i Ravenna. Yn ystod ei deyrnasiad bu nifer o wrthryfeloedd ac ymgeisiadau i gipio'r orsedd, ynghyd ag ymosodiadau gan y barbariaid. Yn 408 cymerwyd Stilicho i'r ddalfa a'i ddienyddio. Yn 410 cipiwyd Rhufain gan Alaric I, brenin y Fisigothiaid.
Bu farw Honorius yn 423, heb adael etifedd. Y flwyddyn ddilynol enwebodd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Theodosius II, ei gefnder Valentinian III, mab Galla Placidia a Constantius III, yn ymerawdwr yn y gorllewin.
Rhagflaenydd: Theodosius I |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Valentinian III |