Mewnfudo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: az:İmmiqrasiya |
B robot yn ychwanegu: hi:आव्रजन |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[fi:Maahanmuutto]] |
[[fi:Maahanmuutto]] |
||
[[fr:Immigration]] |
[[fr:Immigration]] |
||
[[hi:आव्रजन]] |
|||
[[hr:Doseljeništvo]] |
[[hr:Doseljeništvo]] |
||
[[id:Imigrasi]] |
[[id:Imigrasi]] |
Fersiwn yn ôl 11:56, 9 Tachwedd 2009
Mewnfudo yw symud i mewn i wlad i fyw ynddi, gan unigolyn neu unigolion o wlad arall. Oherwydd y problemau cymdeithasol sy'n gallu codi pan fo nifer fawr o bobl yn mewnfudo mae'n bwnc llosg mewn sawl gwlad.
Mewn cyd-destun Prydeinig, ac yn arbennig yn achos Lloegr, mae nifer o bobl yn pryderu am y mewnfudo o wledydd Asiaidd a'r Caribî. Mae hynny wedi bod yn faes ffrwythlon i fudiadau asgell-dde fel y BNP a UKIP sy'n ceisio elwa ar hiliaeth. Mae ymateb llywodraeth Prydain i hyn wedi amrywio dros y blynyddoedd. Dadleuodd Tony Blair fod angen rheoli mewnfudo, yn arbennig yn achos ceiswyr noddfa. Cymhlethir y sefyllfa gan y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a'r alwad am gyflwyno cardiau cydnabod.
Yng Nghymru mae'r ymateb yn wahanol. Y pryder yng Nghymru yw bod nifer o fewnduwyr o Loegr yn symud i mewn i'r Fro Gymraeg gan beryglu dyfodol yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd olaf trwy beidio cymathu â'r gymuned a chodi prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Yn wahanol i Loegr mae'r ymateb cryfaf i'r sefyllfa yn dod o'r asgell-chwith genedlaetholgar yn hytrach na'r asgell-dde. Un o'r grwpiau amlycaf yn y cyd-destun hwn yw'r mudiad Cymuned.
Mewnfudo o Gymru i America
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd mewnfudo o Gymru i America. Symudodd llawer o Grynwyr Cymreig i Bennsylvania.