Ffordd y Sidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: sl:Svilna cesta |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: tl:Daan ng Sutla |
||
Llinell 69: | Llinell 69: | ||
[[ta:பட்டுப் பாதை]] |
[[ta:பட்டுப் பாதை]] |
||
[[th:เส้นทางสายไหม]] |
[[th:เส้นทางสายไหม]] |
||
[[tl: |
[[tl:Daan ng Sutla]] |
||
[[tr:İpek Yolu]] |
[[tr:İpek Yolu]] |
||
[[ug:يىپەك يولى]] |
[[ug:يىپەك يولى]] |
Fersiwn yn ôl 22:02, 8 Tachwedd 2009
Defnyddir yr enw Ffordd y Sidan neu Llwybr y Sidan am y rhwydwaith o ffyrdd a ddefnyddid ar gyfer masnach rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Defnyddid y rhain yn arbennig i gludo sidan o Tsieina i'r gorllewin. Defnyddid y llwybrau hyn o'r cyfnod clasurol hyd yn ddiweddar yn y Canol Oesoedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r term "Ffordd y Sidan" (Seidenstraße) oedd y daearyddwr Almaenig Ferdinand von Richthofen yn 1877.
Roedd dwy gangen i'r ffordd trwy ganolbarth Asia o ganolfannau masnachol Gogledd Tsieina. Roedd y gangen ogleddol yn arwain i ddwyrain Ewrop heibio penrhyn y Crimea a'r Môr Du. Roedd y gangen ddeheuol yn arwain trwy Turkestan-Khorasan ac Iran ar draws Mesopotamia i Antiochia a'r Môr Canoldir. Roedd y dinasoedd adnabyddus ar Ffordd y sidan yn cynnwys Damascus, Baghdad, Isfahan, Merv, Caergystennin, Balkh, Samarcand, Tashkent, Kashgar, Ürümqi, Xi'an a Hotan.
Yr Ewropead cyntaf i ddilyn Ffordd y Sidan cyn belled a Tsiena, yn ôl pob tebyg, oedd y masnachwr Eidalaidd Marco Polo.