Fforest Clud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau) Dolen i Casgob |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Pwyntiau uchaf Fforest Clud yw'r [[Rhos Fawr]], [[llwyfandir]] eang o laswellt a [[grug]] sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, Y Domen Ddu (''Black Mixen'' yn Saesneg), bron ar y ffin â [[Swydd Henffordd]] yn [[Lloegr]]. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf. |
Pwyntiau uchaf Fforest Clud yw'r [[Rhos Fawr]], [[llwyfandir]] eang o laswellt a [[grug]] sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, Y Domen Ddu (''Black Mixen'' yn Saesneg), bron ar y ffin â [[Swydd Henffordd]] yn [[Lloegr]]. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf. |
||
Yn ôl traddodiad [[llên gwerin Cymru|llên gwerin]] lleol, bu [[draig]] yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair [[eglwys]] i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi [[Cefnllys|Llanfihangel Cefn-llys]], [[Llanfihangel Rhydieithon]], [[Llanfihangel Nant Melan]] a [[Llanfihangel Casgob]], i'r [[archangel]] Sant [[Mihangel]], sy'n gorchfygu'r ddraig yn y [[Beibl]]. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys.<ref>[http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm "St Michael and the Dragon of Radnor Forest"] ar wefan yr [[Eglwys yng Nghymru]] ([[Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu]])</ref> |
Yn ôl traddodiad [[llên gwerin Cymru|llên gwerin]] lleol, bu [[draig]] yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair [[eglwys]] i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi [[Cefnllys|Llanfihangel Cefn-llys]], [[Llanfihangel Rhydieithon]], [[Llanfihangel Nant Melan]] a [[Casgob|Llanfihangel Casgob]], i'r [[archangel]] Sant [[Mihangel]], sy'n gorchfygu'r ddraig yn y [[Beibl]]. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys.<ref>[http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm "St Michael and the Dragon of Radnor Forest"] ar wefan yr [[Eglwys yng Nghymru]] ([[Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu]])</ref> |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 21:24, 27 Hydref 2018
Rhos Fawr Fforest Clud | |
---|---|
Llun | Llethrau uchaf Rhos Fawr |
Uchder | 660m / 2,165 troedfedd |
Lleoliad | Canolbarth Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cramen garreg o ucheldir yn nwyrain canolbarth Cymru yw Fforest Clud (Saesneg: Radnor Forest). Gelwir yr ucheldir yn 'fforest' am ei fod yn dir agored a osodwyd o'r neilltu ar gyfer hela gan arglwyddi lleol yn yr Oesoedd Canol. Roedd yn ffurfio calon yr ardal ddaearyddol ganoloesol a adwaenid fel Rhwng Gwy a Hafren.
Ar 22 Mehefin, 1402, cafodd Owain Glyndŵr fuddugoliaeth fawr ar y Saeson ym Brwydr Bryn Glas, ar odre ogleddol Fforest Clud.
Pwyntiau uchaf Fforest Clud yw'r Rhos Fawr, llwyfandir eang o laswellt a grug sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, Y Domen Ddu (Black Mixen yn Saesneg), bron ar y ffin â Swydd Henffordd yn Lloegr. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf.
Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefn-llys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nant Melan a Llanfihangel Casgob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys.[1]