Afon Dyfi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Mae'r ddelwedd bellach ar Wicidata
Llinell 6: Llinell 6:
==Llednentydd==
==Llednentydd==
Rhoddir isod pob un o [[Afon|lednentydd]] Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber.
Rhoddir isod pob un o [[Afon|lednentydd]] Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber.
[[Delwedd:DyfiValley.jpg|250px|bawd|chwith|Afon Dyfi i'r gogledd o Fachynlleth]]


;Chwith
;Chwith

Fersiwn yn ôl 09:35, 26 Hydref 2018

Afon Dyfi
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6004°N 3.8567°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Leri, Afon Llyfnant, Afon Einion Edit this on Wikidata
Hyd48 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Un o afonydd gorllewin canolbarth Cymru yw Afon Dyfi. Mae'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi.

Llednentydd

Rhoddir isod pob un o lednentydd Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber.

Chwith
Dde
  • Nant y Cafn
  • Afon Pumryd
  • Nant Esgyll
  • Afon Cywarch
  • Afon Cerist
  • Afon Angall
    • Afon Caws
    • Nant Maes y Gamfa
  • Nant Llwydo
  • Nant (neu Afon) Ceirig
  • Nant Ffrydlas
    • Nant Cwm yr Wden
  • Afon Dulas
    • Nant Ceiswyn
    • Nant Esgair-neirian
    • Nant Glegyrch
    • Nant y Goedwig
    • Nant y Darren
    • Nant Lliwdy
  • Afon Rhonwydd
    • Nant Cwm Breichiau
    • Afon Alys (Alice ar y map)
    • Nant Cwm Ffernol
  • Nant Cwm Sylwi

Hanes a thraddodiadau

Ger Machynlleth mae ffrwd afon Dulas yn aberu yn Afon Dyfi: credir mai hwn yw lleoliad yr Abercuawg enwog y cyfeirir at ganu'r cogau yno yn y gerdd 'Claf Abercuawg', sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.

Rhywle ar lan aber yr afon y cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi yn 1216 a welodd Llywelyn Fawr yn derbyn gwrogaeth tywysogion ac arglwyddi'r de.

Hen bennill

Mae un o'r Hen Benillion yn sôn am Afon Dyfi:

Blewyn glas ar afon Dyfi
A hudodd lawer buwch i foddi;
Lodes wen a'm hudodd innau
O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.[1]

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato