Afon Dyfi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle |
|||
⚫ | |||
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}} |
|||
}} |
|||
Un o [[afon]]ydd gorllewin canolbarth [[Cymru]] yw '''Afon Dyfi'''. Mae'n tarddu yng [[Creiglyn Dyfi|Nghreiglyn Dyfi]] wrth droed [[Aran Fawddwy]] ac yn llifo i'r môr ger [[Aberdyfi]]. |
Un o [[afon]]ydd gorllewin canolbarth [[Cymru]] yw '''Afon Dyfi'''. Mae'n tarddu yng [[Creiglyn Dyfi|Nghreiglyn Dyfi]] wrth droed [[Aran Fawddwy]] ac yn llifo i'r môr ger [[Aberdyfi]]. |
||
==Llednentydd== |
==Llednentydd== |
||
Rhoddir isod pob un o [[Afon|lednentydd]] Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber. |
Rhoddir isod pob un o [[Afon|lednentydd]] Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber. |
||
⚫ | |||
;Chwith |
;Chwith |
||
Llinell 9: | Llinell 12: | ||
*Nant Cerddin |
*Nant Cerddin |
||
*[[Afon Dugoed]] |
*[[Afon Dugoed]] |
||
**[[Delwedd:Descent of the Dovey.jpeg|alt= Cwymp yr Afon Dyfi, 1815, gan John George Wood, 1768-1838|bawd|251x251px|Cwymp yr Afon Dyfi, 1815, gan John George Wood, 1768-1838]]Afon Clywedog |
**[[Delwedd:Descent of the Dovey.jpeg|alt= Cwymp yr Afon Dyfi, 1815, gan John George Wood, 1768-1838|bawd|chwith|251x251px|Cwymp yr Afon Dyfi, 1815, gan John George Wood, 1768-1838]]Afon Clywedog |
||
**Nant Saeson |
**Nant Saeson |
||
**Afon Tafolog |
**Afon Tafolog |
Fersiwn yn ôl 09:35, 26 Hydref 2018
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6004°N 3.8567°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Llednentydd | Afon Leri, Afon Llyfnant, Afon Einion |
Hyd | 48 cilometr |
Un o afonydd gorllewin canolbarth Cymru yw Afon Dyfi. Mae'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi.
Llednentydd
Rhoddir isod pob un o lednentydd Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber.
- Chwith
- Afon Rhiwlech
- Nant Cerddin
- Afon Dugoed
- Afon Clywedog
- Nant Saeson
- Afon Tafolog
- Afon Llinau
- Nant Coegen
- Afon Twymyn
- Nant Ddeiliog
- Crygnant
- Ffernant
- Afon Dulas
- Afon Crewi
- Afon Carog
- Afon Hengwm
- Afon Llyfnant
- Afon Einion
- Afon Clettwr
- Afon Leri
- Dde
- Nant y Cafn
- Afon Pumryd
- Nant Esgyll
- Afon Cywarch
- Afon Cerist
- Afon Angall
- Afon Caws
- Nant Maes y Gamfa
- Nant Llwydo
- Nant (neu Afon) Ceirig
- Nant Ffrydlas
- Nant Cwm yr Wden
- Afon Dulas
- Nant Ceiswyn
- Nant Esgair-neirian
- Nant Glegyrch
- Nant y Goedwig
- Nant y Darren
- Nant Lliwdy
- Afon Rhonwydd
- Nant Cwm Breichiau
- Afon Alys (Alice ar y map)
- Nant Cwm Ffernol
- Nant Cwm Sylwi
Hanes a thraddodiadau
Ger Machynlleth mae ffrwd afon Dulas yn aberu yn Afon Dyfi: credir mai hwn yw lleoliad yr Abercuawg enwog y cyfeirir at ganu'r cogau yno yn y gerdd 'Claf Abercuawg', sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.
Rhywle ar lan aber yr afon y cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi yn 1216 a welodd Llywelyn Fawr yn derbyn gwrogaeth tywysogion ac arglwyddi'r de.
Hen bennill
Mae un o'r Hen Benillion yn sôn am Afon Dyfi:
- Blewyn glas ar afon Dyfi
- A hudodd lawer buwch i foddi;
- Lodes wen a'm hudodd innau
- O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 418.