A55: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3400373 (translate me)
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
[[Delwedd:A55 Penmaen-bach.JPG|250px|bawd|Twnneli'r Penmaen-bach ar yr A55, ger [[Penmaenmawr]].]]
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
[[Delwedd:A55 at Warren Mountain.jpg|250px|bawd|Yr A55 yn nwyrain [[Clwyd]].]]
}}

[[Delwedd:A55 Penmaen-bach.JPG|250px|bawd|chwith|Twnneli'r Penmaen-bach ar yr A55, ger [[Penmaenmawr]].]]
[[Delwedd:A55 at Warren Mountain.jpg|250px|bawd|chwith|Yr A55 yn nwyrain [[Clwyd]].]]


Mae'r briffordd '''A55''' yn ffordd ddeuol yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]], sy'n cysylltu dinas [[Caer]], [[Lloegr]] a thref [[Caergybi]], [[Môn]].
Mae'r briffordd '''A55''' yn ffordd ddeuol yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]], sy'n cysylltu dinas [[Caer]], [[Lloegr]] a thref [[Caergybi]], [[Môn]].

Fersiwn yn ôl 09:26, 26 Hydref 2018

A55
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1922 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3°N 3.7°W Edit this on Wikidata
Hyd87 milltir Edit this on Wikidata
Map
Twnneli'r Penmaen-bach ar yr A55, ger Penmaenmawr.
Yr A55 yn nwyrain Clwyd.

Mae'r briffordd A55 yn ffordd ddeuol yng Ngogledd Cymru, sy'n cysylltu dinas Caer, Lloegr a thref Caergybi, Môn.

Hanes

Roedd y Rhufeiniad wedi adeiladu ffordd ar draws Gogledd Cymru er mwyn cysylltu eu caerau yng Nghaer (Deva) a Chaernarfon (Segontiwm) - ond prin iawn bod y ffordd bresennol yn dilyn yr un llwybr. Yn wir, roedd pentiroedd y Penmaen-bach a Phen-y-clip ym Mhenmaenmawr wedi trechu'r teithwyr cynnar, gyda'r llwybr dros Fwlch y Ddeufaen yn rhoi llwybr mwy diogel at Eryri.

Mae hanes yr A55 yn dechrau gyda Thomas Telford. Pan gomisiynwyd ef i adeiladu'r A5 o Lundain i Gaergybi, gofynwyd hefyd iddo wella'r ffordd o Gonwy ar draws yr arfordir at ei ffordd newydd, gan gynnwys pontio'r Afon Conwy. Adeiladodd Telford Pont Grog Conwy, a agorwyd yn 1826, fel y bont gyntaf ar draws yr afon yn y fan yma, llawer is na phontydd blaenorol, ac roedd hefyd wedi adeiladu ei ffordd dros lethrau'r ddau bentir peryglus. Roedd hwn felly wedi agor i fyny llwybr yr A55 presennol i deithio o Gaer i Fangor trwy Conwy.

Yn y 1930au, gwellwyd ffordd Telford pan adeiladwyd yn sylweddol i leddfu'r siwrnai dros bentiroedd y Penmaen-bach (un twnel) a Phen-y-clip (dau dwnel a phont dros rhan o'r môr), ym Mhenmaenmawr. Yn 1959, agorwyd pont newydd ar draws Afon Conwy wrth ymyl y bont grog.

Y Ffordd Fodern

Rhwng y 1960au a'r 1980au, mewn cyfres o ffyrdd osgoi, gwelliannau bychan a pheirianeg sifil mwy sylweddol, gwellwyd y cyfan o'r ffordd i fod yn ffordd ddeuol, Gwibffordd Gogledd Cymru. Fel rhan o'r gwaith hwn, adeiladwyd twnel dan y môr fel ffordd amgen i groesi Afon Conwy ac osgoi tagfeydd traffig yn nhref Conwy, ac adeiladwyd twnelau mwy sylweddol drwy'r ddau pentir.

Yn 2001, fel rhan o gynllun Cynllun Cyllid Preifat, ymestynwyd yr ffordd i gynnwys Pont Britannia (a rifwyd yr A5 cyn hynny) ac ar draws Ynys Môn, fel ffordd ddeuol ar draws yr ynys i osgoi pentrefi yr A5.

Mae'r A55 gyfan bellach wedi ei ddynodi yn rhan o'r Ffordd Ewropeaidd E22 (Caergybi - Leeds - Amsterdam - Hamburg - Malmö - Riga - Moscow - Perm - Ekaterinburg - Ishim).