Elmet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: gl:Elmet
map
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Britain 500 CE.png|bawd|de|300px|Teyrnasoedd Brythoneg Ôl-Rufeinig posibl]]
[[Delwedd:Britain 500 CE.png|bawd|de|300px|Teyrnasoedd Brythoneg Ôl-Rufeinig posibl]]
{{Brythoniaid}}
Teyrnas [[Brythoniaid|Frythonig]] ôl-Rufeinig oedd '''Elmet''' (Cymraeg Diweddar: '''[[Elfed]]''') a adwaenid yng [[Cymru'r Oesoedd Canol|Nghymru'r Oesoedd Canol]] fel un o deyrnasoedd [[yr Hen Ogledd]].<ref>''Gwyddoniadur Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 330.</ref> Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn [[Swydd Efrog]] yn ngogledd [[Lloegr]], yn yr ardal o gwmpas dinas [[Leeds]]. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod [[Afon Sheaf]] yn ffin iddi yn y de, ac [[Afon Wharfe]] yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar [[Deira]] ac yn y de ar [[Mercia]].

Fersiwn yn ôl 23:49, 28 Hydref 2009

Teyrnasoedd Brythoneg Ôl-Rufeinig posibl
Tiriogaethau Prydain 500-700

Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet (Cymraeg Diweddar: Elfed) a adwaenid yng Nghymru'r Oesoedd Canol fel un o deyrnasoedd yr Hen Ogledd.[1] Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yn ngogledd Lloegr, yn yr ardal o gwmpas dinas Leeds. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.

Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").

Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".

Ceir cyfeiriad at Elmet mewn arysgrif ar garreg fedd gynnar yn Llanaelhaearn yng Ngwynedd, "ALIOTVS ELMETIACOS HIC IACET", neu "Yma y gorwedd Aliortus o Elmet".

Cadwyd dwy gerdd yn Llyfr Taliesin i Gwallog ap Llaennog, oedd yn frenin Elfed tua diwedd y 6ed ganrif. Er bod testunau'r ddwy gerdd i'w cael yng nghanol y canu a dderbynnir fel cerddi dilys y Taliesin hanesyddol does dim sicrwydd eu bod yn waith y bardd hwnnw. Mae un o'r cerddi yn fawl i Wallog sy'n rhestru ei fuddugoliaethau ac mae'r llall yn farwnad iddo. Mae'r iaith yn ddigon astrus.[2]

Brenhinoedd Elmet

Cyfeiriadau

  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 330.
  2. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, tt. xxxvi-xxxix a cherddi XI a XII.

Llyfryddiaeth

  • David Rollason, Northumbria, 500-1100, Cambridge University Press (2003)
  • Christopher A Snyder, The Britons, Blackwell Publishing (2003)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; adargraffiad 1977)