Prestatyn (cwmwd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB
→‎top: Gwybodlen Sir Ddinbych using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}

[[Cwmwd]] canoloesol yn [[y Berfeddwlad]] ar arfordir gogledd-ddwyrain [[Cymru]] oedd cwmwd '''Prestatyn'''. Gyda chymydau [[Rhuddlan (cwmwd)|Rhuddlan]] a [[Cwnsyllt]], roedd yn un o dri chwmwd [[cantref]] [[Tegeingl]].
[[Cwmwd]] canoloesol yn [[y Berfeddwlad]] ar arfordir gogledd-ddwyrain [[Cymru]] oedd cwmwd '''Prestatyn'''. Gyda chymydau [[Rhuddlan (cwmwd)|Rhuddlan]] a [[Cwnsyllt]], roedd yn un o dri chwmwd [[cantref]] [[Tegeingl]].



Fersiwn yn ôl 06:13, 23 Hydref 2018

Prestatyn (cwmwd)
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.331°N 3.405°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd canoloesol yn y Berfeddwlad ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru oedd cwmwd Prestatyn. Gyda chymydau Rhuddlan a Cwnsyllt, roedd yn un o dri chwmwd cantref Tegeingl.

Gorweddai'r cwmwd yng ngogledd Tegeingl, yn llain hir o dir ar yr arfordir, gan ymestyn o lannau afon Clwyd yn y gorllewin (ger Y Rhyl a Rhuddlan heddiw) hyd Y Parlwr Du a chyffiniau Ffynnongroyw yn y dwyrain. Ffiniai â chymydau Cwnsyllt (Coleshill) a Rhuddlan, yn yr un cantref, ac â chwmd Is Dulas, cantref Rhos, i'r gorllewin.

Diserth oedd canolfan y cwmwd. Roedd o bwys strategol am ei fod yn gorwedd ar y llwybr arfordirol i gyfeiriad Gwynedd o gyfeiriad Lloegr.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu'r rhan yma o'r wlad ym meddiant Mercia am gyfnod, fel y tyst amryw o'r enwau lleoedd o darddiad Saesneg o hyd, yn cynnwys yr enw Prestatyn ei hun. Fe'i adenillwyd gan y Cymry dan Owain Gwynedd a daeth yn rhan o gantref Tegeingl. Codwyd Castell Prestatyn gan un o arglwyddi Normanaidd y Mers yn y 12g ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan Owain Gwynedd.

Am lawer o'r amser bu ym meddiant brenhinoedd a thywysogion Gwynedd, ond yn y 1280au fe'i meddianwyd gan goron Lloegr a daeth yn rhan o'r Sir y Fflint newydd. Heddiw mae rhan orllewinol yr hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych a'r rhan arall yn Sir y Fflint.

Gweler hefyd