Afon Elwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle |
|||
⚫ | |||
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}} |
|||
⚫ | |||
}} |
|||
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] sy'n aberu yn [[Afon Clwyd]] yw '''Afon Elwy'''. Mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]] yn bennaf. |
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] sy'n aberu yn [[Afon Clwyd]] yw '''Afon Elwy'''. Mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]] yn bennaf. |
||
Llinell 6: | Llinell 7: | ||
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy [[Llanelwy|Lanelwy]]. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a [[Rhuddlan]], ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd. |

Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Elwy o ddiddordeb [[archaeoleg]]ol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r [[Palaeolithig]] a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn [[Neanderthal]] mewn [[Ogof Pontnewydd|ogof ym Mhont-newydd]]. |

Fersiwn yn ôl 03:46, 23 Hydref 2018
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2833°N 3.45°W |
Aber | Afon Clwyd |
Afon yng ngogledd Cymru sy'n aberu yn Afon Clwyd yw Afon Elwy. Mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol Conwy yn bennaf.
Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref Llanrwst. Fodd bynnag dim ond o bentref Llangernyw ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn ymyl Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref Llanfair Talhaiarn ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae Afon Aled, sy'n tarddu o Lyn Aled yn ymuno â hi.
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy Lanelwy. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a Rhuddlan, ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.
Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Elwy o ddiddordeb archaeolegol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r Palaeolithig a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn Neanderthal mewn ogof ym Mhont-newydd.