Ysgol Syr Thomas Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B →Eisteddfod Ysgol: Golygu cyffredinol (manion), replaced: i fewn → i mewn using AWB |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
=== Gwisg Ysgol === |
=== Gwisg Ysgol === |
||
Mae'n rhaid i ddisgyblion wisgo crys-T glas golau hefo y bathodyn, siwmper glas tywyll, trowsus neu sgert ddu ac esgidiau du. |
Mae'n rhaid i ddisgyblion wisgo crys-T glas golau hefo y bathodyn, siwmper glas tywyll, trowsus neu sgert ddu ac esgidiau du. Ar gyfer y chweched dosbarth bydd rhaid gwisgo siwmper ddu, crys gwyn, tei, trowsus neu sgert ddu ac esgidiau du. |
||
=== Gwisg Ymarfer Corff === |
=== Gwisg Ymarfer Corff === |
Fersiwn yn ôl 12:18, 22 Hydref 2018
Ysgol uwchradd gyfun dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gyrion Amlwch, ar Ynys Môn, yw Ysgol Syr Thomas Jones. Lleolir yr ysgol ym Mhentrefelin, ychydig i'r gogledd-orllewin Amlwch. Y prifathro presennol ydy Aaron Bailey, a ddaeth yn brifathro yr ysgol ym Medi 2013.
Ystadegau
Mae 508 o blant yn yr ysgol a tua 50 o athrawon. Presenoldeb blynyddol yr ysgol ar gyfartaledd yw 94.9%. Mae tua 32 ystafell ddysgu yn yr ysgol.
Hanes yr Ysgol
Cafodd yr ysgol ei hadeiladu 5 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond ar y pryd, bwriad Syr Thomas Jones oedd adeiladu ysbyty. Roedd yn meddwl y byddai yna drydedd ryfel byd. Dyna'r rheswm pam fod y coridorau mor llydan - er mwyn i gwlau ysbyty gael teithio o un pen yr 'ysbyty' i'r llall. Mae yna dwneli o dan yr ysgol sy'n mynd am filltiroedd rhag ofn i'r gelyn fomio.[angen ffynhonnell]
Traddodiadau
Yn yr ysgol mae llawer o ddigwyddiadau bob blwyddyn:
- Ar ddechrau pob blwyddyn mae seremoni wobrwyo yn cael ei gynnal
- Pob Nadolig mae na 'Santa Run' lle mae'r plant a rhai athrawon yn rhedeg neu gerdded 1 milltir, mae pawb yn gallu prynu siocled poeth a bisgedi.
- Mae yr ysgol yn casglu arian i Comic Relief neu 'Sport Relief'
- Mae eisteddfod ysgol yn cael ei gynnal pob blwyddyn.
Gwisg
Gwisg Ysgol
Mae'n rhaid i ddisgyblion wisgo crys-T glas golau hefo y bathodyn, siwmper glas tywyll, trowsus neu sgert ddu ac esgidiau du. Ar gyfer y chweched dosbarth bydd rhaid gwisgo siwmper ddu, crys gwyn, tei, trowsus neu sgert ddu ac esgidiau du.
Gwisg Ymarfer Corff
Gwisg ymarfer corff yw, yn y Gaeaf; legginhs du, esgidiau pêl-droed, sanau hir glas, siwmper glas a crys-t gwyn. Yn yr haf; crys-t gwyn, leggins du, a threinyrs rhedeg.
Eisteddfod yr Urdd
Pob blwyddyn mae na eisteddfod cylch a eisteddfod sir yn yr ysgol. Mae'n gyfle i'r disgyblion ganu, adrodd a dawnsio.
Eisteddfod Ysgol
Mae'r ysgol yn cynnal ei Eisteddfod ei hun bob blwyddyn hefyd. Mae'r disgyblion ac athrawon wedi'i rhannu i mewn i dair grwp; Eilian, Eleth a Padrig. Mae'r Eisteddfod yn cymryd diwrnod cyfan ar gyfer yr holl weithgareddau cyn i'r Prifathro gyhoeddi'r canlyniadau. Mae cyfle i ddisgyblion gymeryd rhan mewn cystadlaethau canu, adrodd, dawnsio ac ati.
Cyn-ddisgyblion enwog
- Gruffydd Wyn Roberts (canwr a gystadlodd ar Britain's Got Talent)
Ysgolion cynradd yng nhylgylch yr ysgol
- Ysgol Amlwch
- Ysgol Goronwy Owen, Benllech
- Ysgol Cemaes
- Ysgol Garreglefn, Amlwch
- Ysgol Gymuned Llanfechell
- Ysgol Moelfre
- Ysgol Penysarn
- Ysgol Rhosybol