Islam yn ôl gwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau)
Jotterbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 24: Llinell 24:
[[en:List of countries by Muslim population]]
[[en:List of countries by Muslim population]]
[[es:Anexo:Islam por países]]
[[es:Anexo:Islam por países]]
[[fr:Liste des Pays par population musulmane]]
[[fr:Liste des Pays avec population musulmane]]
[[id:Islam menurut negara]]
[[id:Islam menurut negara]]
[[ml:ജനസംഖ്യ അനുസരിച്ചുള്ള മുസ്ലീം രാഷ്ട്രങ്ങളുടെ പട്ടിക]]
[[ml:ജനസംഖ്യ അനുസരിച്ചുള്ള മുസ്ലീം രാഷ്ട്രങ്ങളുടെ പട്ടിക]]

Fersiwn yn ôl 22:04, 25 Hydref 2009

Islam - canran Mwslimiaid yn ôl gwlad

Islam yw'r ail grefydd fwyaf yn y byd ar ôl Cristnogaeth gyda 1.3-1.8 biliwn o gredadwyr, sy'n cynnwys 20-25% o boblogaeth y byd[1] gyda'r rhan fwyaf o ffynonellau yn amcangyfrif fod tua 1.5 biliwn o Fwslimiaid yn y byd.[2][3]

Islam yw'r brif grefydd yn y Dwyrain Canol, rhai rhannau o Affrica[4][5] ac Asia.[6] Ceir cymunedau sylweddol o Fwslimiaid yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina, Bosnia a Herzegovina, Dwyrain Ewrop a Rwsia hefyd. Mewn rhai rhannau eraill o'r byd, ceir poblogaethau o fewnfudwyr Mwslimaidd; yng Ngorllewin Ewrop Islam yw'r ail grefydd fwyaf ar ôl Cristnogaeth.

Mewn tua 30 i 40 o wledydd y byd mae Mwslimiaid yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth. De Asia a De-ddwyrain Asia yw'r rhanbarthau lle ceir y gwledydd Mwslim mwyaf; Ceir dros 100 miliwn o Fwslimiaid ym mhob un o'r gwledydd hyn: Indonesia, Pacistan, India (lleiafrif), a Bangladesh.[7] Yn ôl llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd yna dros 20 miliwn Mwslim yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 2006 (canran isel o'r boblogaeth er hynny, yn byw yng ngorllewin y wlad yn bennaf).[8] Yn y Dwyrain Canol, Twrci ac Iran, sydd ddim yn wledydd Arabaidd, yw'r gwledydd mwyaf gyda mwyafrif Mwslimaidd; yn Affrica, ceir y cymundau Mwslim mwyaf yn Yr Aifft a Nigeria. Mae mwyafrif llethol poblogaeth gwledydd y Maghreb yn Fwslimiaid hefyd.

Cyfeiriadau

  1. Adherents.com
  2. Adherents.com
  3. Adherents.com
  4. "The Africanization of Missionary Christianity: History and Typology", Steven Kaplan, Journal of Religion in Africa 16 (3) (1986), 165-186. "In Africa, Islam and Christianity are growing - and blending". Abraham McLaughlin, The Christian Science Monitor, 26 Ionawr 2006.
  5. Encyclopedia Britannica. Britannica Book of the Year 2003. Encyclopedia Britannica, (2003) ISBN 9780852299562 tud. 306.
  6. Britannica [1], Think Quest [2], Wadsworth.com[3]
  7. Number of Muslims by country
  8. 'International Religious Freedom Report 2006—China' (yn cynnwys Tibet, Hong Kong, a Macau).

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.