Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: sw:Quimper |
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: uk:Кемпе |
||
Llinell 61: | Llinell 61: | ||
[[sv:Quimper]] |
[[sv:Quimper]] |
||
[[sw:Quimper]] |
[[sw:Quimper]] |
||
[[uk: |
[[uk:Кемпе]] |
||
[[vi:Quimper, Finistère]] |
[[vi:Quimper, Finistère]] |
||
[[vo:Quimper]] |
[[vo:Quimper]] |
Fersiwn yn ôl 19:18, 22 Hydref 2009
Cymuned a thref Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas département Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.
Mae kemper yn air Llydaweg sy'n cyfateb i'r gair "cymer" (afon) yn Gymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.
Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith. Mae ysgolion Diwan yn y dref.
Mae'n un o'r drefi ar lwybr pererindod y Tro Breizh.
-
Siop cerdd a llyfrau Ar Bed Keltiek
-
Siop Keltia Musique
Pobl enwog o Kemper
- Dan Ar Braz, cerddor