Llangwyllog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Slorp777 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
| gwleidyddiaeth = Gwleidyddiaeth
| aelodcynulliad = {{Swits Ynys Môn‎ i enw'r AC}}
| aelodseneddol = {{Swits Ynys Môn‎ i enw'r AS}}
}}

[[Delwedd:Eglwys Cwyllog Sant from the east - geograph.org.uk - 1394818.jpg|bawd|Eglwys Llangwyllog.]]
[[Delwedd:Eglwys Cwyllog Sant from the east - geograph.org.uk - 1394818.jpg|bawd|Eglwys Llangwyllog.]]
[[Delwedd:The former station at Llangwyllog - geograph.org.uk - 1210514.jpg|bawd|Yr hen Orsaf.]]
[[Delwedd:The former station at Llangwyllog - geograph.org.uk - 1210514.jpg|bawd|Yr hen Orsaf.]]

Fersiwn yn ôl 12:58, 18 Hydref 2018

Llangwyllog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2824°N 4.3453°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH437788 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Eglwys Llangwyllog.
Yr hen Orsaf.

Pentref bychan gwledig a phlwyf yng nghanol Ynys Môn yw Llangwyllog ("Cymorth – Sain" ynganiad ).

Fe'i lleolir tair milltir i'r gogledd o dref Llangefni a dwy filltir o Lyn Cefni. Cofnodir poblogaeth o 277 yn 1821, ond erbyn 1971 dim ond 75 o bobl oedd yn byw yno.

Mae'r eglwys yn weddol hen gyda rhannau yn dyddio o'r 15g efallai. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y Santes Cwyllog (Cywyllog) yn y 6g ar dir a roddwyd iddi gan y brenin Maelgwn Gwynedd.[1]

Yn yr Oesoedd Canol gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Menai. Bu brwydr yn y cyffiniau yn y flwyddyn 1134 rhwng byddin Owain Gwynedd, brenin Teyrnas Gwynedd, a llu o Northmyn a Manawyr a geisiodd oresgyn yr ynys. Enillodd gwŷr Gwynedd y dydd.

Rhoddodd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth Eglwys Gwyllog a'i degwm i Briordy Penmon.[2]

Roedd gan Lein Amlwch (Rheilffordd Canolbarth Môn) orsaf yn Llangwyllog nes i'r lein gau yn 1993. Mae'n dŷ preifat heddiw.

Cyfeiriadau

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
  2. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 272.