Rhygyfarch ap Sulien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu, categoriau, rhyngwici
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: no:Rhygyfarch ap Sulien
Llinell 21: Llinell 21:


[[en:Rhigyfarch]]
[[en:Rhigyfarch]]
[[no:Rhygyfarch ap Sulien]]

Fersiwn yn ôl 11:20, 18 Hydref 2009

Roedd Rhygyfarch ap Sulien (1056? - 1099) (weithiau Ricemarchus; weithiau Rhigyfarch mewn ffynonellau Saesneg) yn ysgolhaig ac yn Esgob Tyddewi.

Mab oedd i Sulien, yntau yn ysgolhaig nodedig, yn Esgob Tyddewi, ond yn bennaf yn gysylltiedig â chlas Llanbadarn Fawr. Roedd yn frawd i Ieuan ap Sulien.

Ysgrifennodd Rhygyfarch y llawysgrif Ladin Sallwyr Rhygyfarch, sy'n cynnwys cyfieithiad o'r Sallwyr Hebraeg a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Lluniwyd y llawysgrif yn Llanbadarn Fawr tua'r flwyddyn 1079; gwnaethpwyd y llythrennnau lliw gan ei frawd Ieuan. Cedwir y llawysgrif yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn.

Cyfansoddodd gerdd arall yn galaru oherwydd anrheithiau'r Normaniaid yng Ngheredigion. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidis (Buchedd Dewi), a gyfansoddwyd tua'r flwyddyn 1094 i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Dilynodd ei dad fel Esgob Tyddewi yn 1088.

Llyfryddiaeth

  • D. Simon Evans, Buched Dewi (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.