Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Osian (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 22: Llinell 22:
*''[[Gyda'r Glannau]]'' (Llandybïe, 1941). Nofel fer.
*''[[Gyda'r Glannau]]'' (Llandybïe, 1941). Nofel fer.
*''[[Rhyfedd o Fyd]]'' (1950). Ysgrifau.
*''[[Rhyfedd o Fyd]]'' (1950). Ysgrifau.
*''[[Y Foel Faen]]'' (1951). Ysgrifau.
*''[[Y Foel Faen]]'' (Lerpwl, 1951). Ysgrifau.
*''[[Gyda'r Blynyddoedd]] (1951). Hunangofiant.
*''[[Gyda'r Blynyddoedd]] (1951). Hunangofiant.
*''[[Ar Ddisberod]]'' (1954). Ysgrifau.
*''[[Ar Ddisberod]]'' (1954). Ysgrifau.

Fersiwn yn ôl 14:16, 7 Medi 2006

Edward Tegla Davies

Llenor, a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (1880-1967) oedd Edward Tegla Davies. Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.

Bywyd

Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlch Gwyn, ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog Wesleaidd am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, ac Yr Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.

Gwaith Llenyddol

Ysgrifenodd ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.

Llyfrau i blant yn bennaf

Llyfrau eraill

Llyfryddiaeth

  • Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
  • Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
  • Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
  • Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
  • Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372



 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.