Deian a Loli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Nofel fer gan Kate Roberts yw '''''Deian a Loli''''', a gyhoeddwyd yn 1927. Dyma'r ail lyfr gan yr awdures i gael ei gyhoeddi, yn dilyn y gyfrol o str...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Mae'r nofel yn darlunio'r berthynas rhwng dau efaill, mab a merch, sy'n glos ill dau ond yn meddu ar gymeriadau gwahanol iawn. Mae'r nofel yn dilyn eu datblygiad emosiynol o'u plentyndod cynnar hyd at adael yr ysgol elfennol a gorfod dechrau wynebu bywyd fel oedolion. Lleolir y stori mewn ardal chwarelyddol dychmygol sy'n seiliedig ar fro gogledd [[Arfon]].
Mae'r nofel yn darlunio'r berthynas rhwng dau efaill, mab a merch, sy'n glos ill dau ond yn meddu ar gymeriadau gwahanol iawn. Mae'r nofel yn dilyn eu datblygiad emosiynol o'u plentyndod cynnar hyd at adael yr ysgol elfennol a gorfod dechrau wynebu bywyd fel oedolion. Lleolir y stori mewn ardal chwarelyddol dychmygol sy'n seiliedig ar fro gogledd [[Arfon]].


Mae ''[[Laura Jones]]'', pedwerydd llyfr Kate Roberts, yn ddilyniant i'r nofel. Mae ''Laura Jones'' yn gorffen mewn gwagle, fel petai, sy'n awgrymu y bwriadai'r awdures ysgrifennu dilyniant arall, ond ni chafwyd un.
Mae ''[[Laura Jones (nofel)|Laura Jones]]'', pedwerydd llyfr Kate Roberts, yn ddilyniant i'r nofel. Mae ''Laura Jones'' yn gorffen mewn gwagle, fel petai, sy'n awgrymu y bwriadai'r awdures ysgrifennu dilyniant arall, ond ni chafwyd un.





Fersiwn yn ôl 17:43, 16 Hydref 2009

Nofel fer gan Kate Roberts yw Deian a Loli, a gyhoeddwyd yn 1927. Dyma'r ail lyfr gan yr awdures i gael ei gyhoeddi, yn dilyn y gyfrol o straaon byrion O Gors y Bryniau (1925). Cyfeirir ato weithiau fel llyfr plant, ond stori am blant ydyw, yn hytrach nag un ar gyfer plant.

Mae'r nofel yn darlunio'r berthynas rhwng dau efaill, mab a merch, sy'n glos ill dau ond yn meddu ar gymeriadau gwahanol iawn. Mae'r nofel yn dilyn eu datblygiad emosiynol o'u plentyndod cynnar hyd at adael yr ysgol elfennol a gorfod dechrau wynebu bywyd fel oedolion. Lleolir y stori mewn ardal chwarelyddol dychmygol sy'n seiliedig ar fro gogledd Arfon.

Mae Laura Jones, pedwerydd llyfr Kate Roberts, yn ddilyniant i'r nofel. Mae Laura Jones yn gorffen mewn gwagle, fel petai, sy'n awgrymu y bwriadai'r awdures ysgrifennu dilyniant arall, ond ni chafwyd un.



Llyfrau Kate Roberts
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.