A. A. Milne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: nn:Alan Alexander Milne
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ca:A.A. Milne
Llinell 123: Llinell 123:


[[bg:Алън Милн]]
[[bg:Алън Милн]]
[[ca:A.A. Milne]]
[[cs:Alan Alexander Milne]]
[[cs:Alan Alexander Milne]]
[[da:A.A. Milne]]
[[da:A.A. Milne]]

Fersiwn yn ôl 12:09, 14 Hydref 2009

Awdur Seisnig oedd Alan Alexander Milne (ganwyd 18 Ionawr 1882 – bu farw 31 Ionawr 1956). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lyfrau am arth o'r enw Winnie-the-Pooh a cherddi plant. Roedd yn lenor nodedig, yn bennaf fel dramodydd cyn i lwyddiant Pooh wthio ei lwyddiant cynt i'r cysgodion.

Bywgraffiad

Ganwyd Milne yn Hampstead, Llundain a thyfodd i fyny yn Henley House School, 6/7 Mortimer Road, Kilburn, Llundain, ysgol annibynol fechan a gynhaliwyd gan ei dad, John V. Milne. Un o'i athrawon oedd H. G. Wells. Mynychodd Westminster School a Coleg y Drindod, Caergrawnt lle astudiodd mathemateg gyda ysgoloriaeth. Tra yno, ysgrifennodd a golygodd y cylchgrawn myfyrwyr Grants, cyd-weithiodd gyda'i frawd, Kenneth, ac ymddangosodd eu erthyglau o dan y llythrennau AKM. Daeth gwaith Milne i sylw'r cylchgrawn hiwmor Prydeinig, Punch a daeth yn gyfrannwr i'r cylchgrawn ac yn ddiweddarach yn olygydd cynorthwyol.

Ymunodd Milne â'r Fyddin Brydeinig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd fel swyddog yn y Royal Warwickshire Regiment, ac yn ddiweddarach ar ôl dioddedd o salwch a'i wanychodd, gyda'r Royal Corps of Signals. Ar ôl y rhyfel, ysgrifennodd Peace with Honour (1934) a wrthododd y syniad o ryfel; cymerodd hyn yn ôl i ryw raddau gyda War with Honour yn yr 1940au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Milne yn un o feirniaid mwyaf blaengar o'r llenor P.G. Wodehouse, a gafodd ei ddal yn ei gartref gwledig yn Ffrainc gan y Natsiaid ai garcharu am flwyddyn. Darlledodd Wodehouse ar y radio o Ferlin ynglyn ai garchariad. Er eu bod yn ddarllediadau ysgafn a wnaeth hwyl o'r Almaenwyr, cyhuddodd Milne ef o draddodi brad gan gyd-weithio gyda gelyn ei wlad. (Ond fe gafodd Wodehouse ddial i rhyw raddau gan greu parodiau yn gwneud hwyl o gerddi Christopher Robin Milne yn ei storiau diweddarach.)

Yn ystod yr ail-ryfel byd, roedd yn gapten ar y Home Guard yn Hartfield a Forest Row, a mynodd fod aelodau o'r platŵn yn cyfeirio ato'n syml fel 'Mr Milne'.

Priododd Milne Dorothy "Daphne" de Selincourt yn 1913, a ganwyd eu unig fab, Christopher Robin Milne, yn 1920. Yn 1925, prynodd A. A. Milne ei gartref gwledig, Cotchford Farm, yn Hartfield, Dwyrain Sussex. Ymddeolodd i'r fferm ar ôl i strôc a llawdriniaeth ar ei ymenydd yn 1952 ei adael yn fethedig. Roedd Cotchford Farm hefyd yn gartref i prif gitarydd y Rolling Stones, Brian Jones a'i ganfwyd wedi ei foddi yno yn 1969. Mae Cotchford Farm eisioes wedi cael ei ddymchwel oherwydd y gôst trwsio a chynnal aruthrol, ac adeiladwyd tŷ newydd ar y safle.

Gyrfa Lenyddol

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Llyfryddiaeth

Nofelau

Ffeithiol

Erthyglau Punch:

Dewisiad o erthyglau a chyflwyniadau i lyfrau eraill:

Casgliadau Straeon ar gyfer plant

Barddoniaeth

Ar gyfer y Luncheon Interval (cerddi o Punch)

Dramâu

Ysgrifenood Milne dros 25 o ddramâu gan gynnwys:

Llyfrau am Pooh a Milne

Ffilmiau

References

  • Ann Thwaite, Oxford Dictionary of National Biography: Milne, Alan Alexander 2004