Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Ystyrid [[Oracl]] y duw [[Zeus]] yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg [[Homer]] yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn [[yr Iliad]] ac yn yr [[Yr Odyssey|Odyssey]]. Dywed y daearyddwr [[Strabo]] fod yr oracl wedi cael ei symud yno o [[Skotoussa]] yn [[Thessaly]] ar orchymyn y duw [[Apollo]], ond yn ôl yr hanesydd [[Herodotus]] sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] (yn [[yr Aifft]]) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. |

Yn ôl Homer eto |
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y ''selloi'', nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y [[Pythones|bythones]] yn [[Delphi]]. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden. |
||
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol. |
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol. |
Fersiwn yn ôl 23:37, 6 Medi 2006
Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.
Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 C.C.-272 C.C.), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).
Llyfryddiaeth
- Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)