Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]].
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]].


Ystyrid [[Oracl]] y duw [[Zeus]] yn Dodona fel un o'r rhai hynaf Gwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groeogwyr. Mae'r bardd Groeg [[Homer]] yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn [[yr Iliad]] a'r [[Yr Odyssey|Odyssey]]. Dywed [[Strabo]] fod yr oracl wedi cael ei symud yno o [[Skotoussa]] yn [[Thessaly]] ar orchymyn y duw [[Apollo]], ond yn ôl [[Herodotus]] sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.
Ystyrid [[Oracl]] y duw [[Zeus]] yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg [[Homer]] yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn [[yr Iliad]] ac yn yr [[Yr Odyssey|Odyssey]]. Dywed y daearyddwr [[Strabo]] fod yr oracl wedi cael ei symud yno o [[Skotoussa]] yn [[Thessaly]] ar orchymyn y duw [[Apollo]], ond yn ôl yr hanesydd [[Herodotus]] sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] (yn [[yr Aifft]]) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.


Yn ôl Homer eto gwasanethid yr oracl gan offeiriaid, y ''selloi'', nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasnaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y [[Pythones|bythones]] yn [[Delphi]]. Mae Herodotus yn dweud bod yr oracl yn siarad trwy sibrydion dail y dderwydden.
Yn ôl Homer eto gwasanethid yr oracl gan offeiriaid, y ''selloi'', nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasnaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y [[Pythones|bythones]] yn [[Delphi]]. Mae Herodotus yn dweud bod yr oracl yn siarad trwy sibrydion dail y dderwydden.

Fersiwn yn ôl 23:30, 6 Medi 2006

Temenos Zeus yn Dodona
Map o'r safle

Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.

Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.

Yn ôl Homer eto gwasanethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasnaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud bod yr oracl yn siarad trwy sibrydion dail y dderwydden.

Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.

Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 C.C.-272 C.C.), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).

Llyfryddiaeth

  • Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)