Llywelyn ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dadwneud y dwli o 193.39.172.70 |
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau) svg available (GlobalReplace v0.6.5) |
||
Llinell 58: | Llinell 58: | ||
Cafwyd buddugoliaeth arall ger [[Afon Menai]] a llwyddodd y Cymry yng Ngheredigion a [[Dyffryn Tywi]]. Mentrodd Llywelyn ddod o'i loches yn [[Eryri]] a mynd i'r Canolbarth. Yno, mewn cynllwyn Seisnig, lladdwyd Llywelyn yng [[Cilmeri|Nghilmeri]] / [[Pont Irfon]] ger [[Llanfair ym Muallt]]. Torrwyd ei ben er mwyn ei arddangos ar bolyn a'i gludo o amgylch Cymru ac yna yn [[Llundain]]; claddwyd ei gorff yn [[Abaty Cwm-hir]]. |
Cafwyd buddugoliaeth arall ger [[Afon Menai]] a llwyddodd y Cymry yng Ngheredigion a [[Dyffryn Tywi]]. Mentrodd Llywelyn ddod o'i loches yn [[Eryri]] a mynd i'r Canolbarth. Yno, mewn cynllwyn Seisnig, lladdwyd Llywelyn yng [[Cilmeri|Nghilmeri]] / [[Pont Irfon]] ger [[Llanfair ym Muallt]]. Torrwyd ei ben er mwyn ei arddangos ar bolyn a'i gludo o amgylch Cymru ac yna yn [[Llundain]]; claddwyd ei gorff yn [[Abaty Cwm-hir]]. |
||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Arms of Llywelyn.svg|bawd|150px|Arfbais ap Gruffudd]] |
||
[[Delwedd:Personal arms of Llywelyn ap Gruffudd.svg|bawd|150px|Arfbais rhyfel Llywelyn]] |
[[Delwedd:Personal arms of Llywelyn ap Gruffudd.svg|bawd|150px|Arfbais rhyfel Llywelyn]] |
||
Fersiwn yn ôl 11:03, 10 Hydref 2018
- Gweler hefyd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn (gwahaniaethu).
Llywelyn ap Gruffudd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Tywysog Cymru | |||||
Llywelyn ap Gruffudd; cerflun gan Henry Pegram, 1913 | |||||
Tywysog Cymru | |||||
1246–1282 | |||||
Rhagflaenydd | Dafydd ap Llywelyn | ||||
Olynydd | Dafydd ap Gruffudd | ||||
Ganwyd | c. 1223/5 | ||||
Bu farw | 11 Rhagfyr 1282 Cilmeri, Aberedw, Powys | ||||
Claddwyd | Ei gorff: Abaty Cwm-hir Ei ben: Tŵr Llundain | ||||
Tywysoges | Eleanor de Montfort | ||||
Plant | Y Dywysoges Gwenllian | ||||
| |||||
Llinach | Aberffraw a Theyrnas Gwynedd | ||||
Tad | Gruffudd ap Llywelyn Fawr | ||||
Mam | Senana ferch Caradog |
Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) (tua 1225 – 11 Rhagfyr 1282), oedd Tywysog Cymru a Gwynedd cyn i Gymru gael ei goresgyn gan Edward I, Brenin Lloegr. Roedd yn ail fab i Ruffudd ap Llywelyn ac yn ŵyr i Lywelyn Fawr, Tywysog Cymru. Ymddengys ei enw am y tro cyntaf, mewn cofnodion, yn 1243.[1] Mae'r 11 o Ragfyr yn cael ei ystyried gan lawer fel Gŵyl i'w gofio.
Ar farwolaeth ei ewyrth Dafydd ap Llywelyn yn 1246, ef oedd yr olynydd amlwg ond yn ôl Cytundeb Woodstock yn 1247 rhannwyd Gwynedd rhwng y tri brawd: Llywelyn, Owain (ei frawd hŷn) a Dafydd. Yn 1255 gorchfygodd Llywelyn ei ddau frawd a sefydlodd ei hun yn unig reolwr Gwynedd Uwch Conwy.[1] Y flwyddyn wedyn roedd y Berfeddwlad o dan ei arweiniaeth ac o fewn dwy flynedd roedd y rhan fwyaf o'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant.
Hanes
Sylweddolodd Llywelyn mai'r unig obaith i Gymru oedd iddo ef fod yn Dywysog Cymru cydnabyddiedig, a chasglodd ynghyd fyddin gref. Roedd rhaid i bethau ddod i ben ac fe gafwyd brwydr hir a ffyrnig rhwng Llywelyn ag Owain, Dafydd a Rhodri ei frodyr. Llywelyn fu'n fuddugol ym Mrwydr Bryn Derwin.
Aeth Llywelyn o nerth i nerth ar ôl Brwydr Bryn Dewin. Enillodd yn ôl y Berfeddwlad, a meddiannu Ceredigion ac yna aeth yn ei flaen i Ddyffryn Tywi ac enillodd dir y Normaniaid hyd at Sir Benfro. Yn ffodus i Lywelyn roedd y barwniaid wedi codi yn erbyn y brenin Harri III o Loegr. Erbyn 1263 daeth yn ryfel cartref dan arweiniad Simon de Montfort. Pan ddaeth y gwrthryfel i ben sylweddolodd Llywelyn y gallai brenin Lloegr fod yn fygythiad eto ac felly arwyddodd Cytundeb Trefaldwyn.
Fe wnaeth brenin Lloegr gydnabod Cymry am y tro cyntaf a'r tro olaf yn Dywysog Cymru yn y cytundeb hwn (yn ddiweddarach cafodd Owain Glyn Dŵr ei gydnabod gan Ffrainc ond nid gan Loegr). Cafodd Llywelyn hefyd gadw'r tiroedd yr oedd wedi eu hennill, ac fe wnaeth y brenin ganiatáu priodas rhwng Llywelyn ac Eleanor de Montfort er ei bod hi a'i theulu yn Ffrainc ar y pryd, mewn alltudiaeth. Cytunodd Llywelyn i dalu gwrogaeth a'i deyrngarwch i'r brenin.
Yn 1272 bu farw Harri III. Cododd Llywelyn Gastell Dolforwyn ger Trefaldwyn. Ar ôl i Edward I gael ei goroni yn frenin Lloegr gwysiodd Llywelyn i dalu teyrngarwch iddo ond gwrthododd Llywelyn sawl gwaith am, meddai ef, fod ei frawd Dafydd a Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys yn cael lloches gan Edward ac y byddai'r daith yn beryglus iddo oherwydd hynny. Daeth cyfle i'r brenin ddial yn fuan iawn. Roedd darpar wraig Llywelyn, Eleanor de Montfort yn hwylio i Gymru er mwyn priodi, ond fe ymosododd morladron yn nhâl Edward arnynt gan gymryd hi a'i brawd yn garcharorion.
Arweiniodd yr holl ddrwgdeimlad at ryfel ym 1276 ac erbyn gaeaf 1276 dim ond Gwynedd oedd yn eiddo iddo fe. Ildiodd Llywelyn a bu raid iddo dderbyn telerau Cytundeb Aberconwy 1277.
Blwyddyn ar ôl Cytundeb Aberconwy fe gytunodd Edward I i Lywelyn briodi Eleanor yn 1279 a bu heddwch rhyngddynt am gyfnod.
Ar 21 Mawrth 1282 ymosododd Dafydd ap Gruffudd, brawd ieuengaf Llywelyn ar Gastell Penarlâg, oedd ym meddiant y Saeson, gan ei feddiannu. Bu raid i Lywelyn gefnogi'r ymosodiad, gan fod y Cymry yn anesmwytho gan fod Edward wedi penodi Saeson i fod mewn grym yng Nghymru.
Cafwyd buddugoliaeth arall ger Afon Menai a llwyddodd y Cymry yng Ngheredigion a Dyffryn Tywi. Mentrodd Llywelyn ddod o'i loches yn Eryri a mynd i'r Canolbarth. Yno, mewn cynllwyn Seisnig, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri / Pont Irfon ger Llanfair ym Muallt. Torrwyd ei ben er mwyn ei arddangos ar bolyn a'i gludo o amgylch Cymru ac yna yn Llundain; claddwyd ei gorff yn Abaty Cwm-hir.
Llinach
Llywelyn Fawr 1173-1240 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd ap Llywelyn Fawr 1200-1244 | Dafydd ap Llywelyn 1215-1246 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Goch ap Gruffydd d. 1282 | Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn yr Ail) 1223-1282 | Dafydd ap Gruffydd 1238-1283 | Rhodri ap Gruffudd 1230-1315 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Dywysoges Gwenllian 1282-1337 | Llywelyn ap Dafydd 1267-1287 | Owain ap Dafydd 1265-1325 | Gwladys (m. 1336 yn Sixhills) | Tomas ap Rhodri 1300-1363 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Lawgoch 1330-1378 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ar ôl ei farwolaeth
Ar ôl marwolaeth Llywelyn bu ei frawd Dafydd yn rheoli Gwynedd am gyfnod byr cyn iddo gael ei ddal a'i ddienyddio, ond gellid dadlau does erioed arweinydd cyn gryfed â Llywelyn wedi bod ar Gymru ac eithrio Owain Glyn Dŵr efallai. Daeth cyfnod y tywysogion Cymreig annibynnol i ben gyda marwolaeth Llywelyn a'i frawd.
Bu Gwenllian, merch Llywelyn, farw yn 1337, ar ôl cael ei charcharu gan y Saeson am weddill ei hoes mewn lleiandy yn Sempringham er mwyn ceisio sicrhau difodiant Llinach Gwynedd.
Does neb yn gwybod i sicrwydd lle cafodd corff Llywelyn ei gladdu ar ôl i'r Saeson dorri ei ben a'i ddwyn i Lundain. Yn ôl traddodiad, dugpwyd ei gorff i'r abaty Sistersaidd yn Abaty Cwm Hir, lle cafodd ei gladdu'n ddirgel ond anrhydeddus. Yn ddiweddar awgrymwyd mai yn Neuadd Llanrhymni yng Nghaerdydd y'i claddwyd,[2] ond mae hynny yn groes i bob traddodiad ac yn anhebygol iawn dan yr amgylchiadau, am sawl rheswm (porthladd bychan ym Morgannwg oedd Caerdydd, a byddai ei gyrraedd dan drwyn y gelyn yn siwrnai hir a pheryglus o gyffiniau Buellt).
Etifeddiaeth
Heddiw coffeir marwolaeth Llywelyn ar safle ei gwymp yng Nghilmeri gan wladgarwyr ar Ddiwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf (11 Rhagfyr) bob blwyddyn. Er gwaethaf pwysau ar y Post Brenhinol yn 1982 i ryddhau stamp arbennig ar gyfer yr achlysur, ni chafwyd stamp i nodi 700 mlwyddiant ei farw, ond cyhoeddwyd stamp answyddogol.
Dyfernir Gwobr Goffa'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd gan Brifysgol Cymru i'r traethawd gorau ar gyfer gradd MPhil neu PhD.
-
Llywelyn ap Gruffudd
-
Stamp answyddogol yn nodi 700 mlwyddiant marw Llywelyn (1282-1982)
-
Clawr llyfr ar y Tywysog
-
Llywelyn yn 1267
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Gwyddoniadur Cymru; gol: John Davies; Gwasg Prifysgol Cymru 2008; tud. 582.
- ↑ Williams, Tryst. "Last true Welsh prince buried under pub?", Western Mail, Awst 8 2005. Casglwyd ar 18 Medi 2007.
Gweler hefyd
- Maesmynnan un o'i aneddau yn Nyfrryn Clwyd
Llyfryddiaeth
- A. D. Carr, Llywelyn ap Gruffudd (Caerdydd, 1982)
- J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). ISBN 0-7083-0884-8
Llywelyn ap Gruffudd Ganwyd: 1223 Bu farw: 11 Rhagfyr 1282
| ||
Rhagflaenydd: - |
Tywysog Cymru 1267–1282 |
Olynydd: Edward o Gaernarfon |
Rhagflaenydd: Dafydd ap Llywelyn |
Tywysog Gwynedd 1246-1282 |
Olynydd: Diddymwyd |
Rhagflaenydd: Dafydd ap Llywelyn |
Tywysog Gwynedd mewn enw — |
Olynydd: Dafydd ap Gruffudd |