Morris Kyffin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dyddiad marw |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata |
|||
| fetchwikidata=ALL |
|||
| onlysourced=no |
|||
| suppressfields= cenedl |
|||
| dateformat = dmy |
|||
| nationality = {{banergwlad|Cymru}} |
|||
}} |
|||
[[Delwedd:Maurice Kyffin.jpg|bawd|Clawr ''Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr...''; argraffwyd yn Llundain, 1595 gan Richard Field.]] |
[[Delwedd:Maurice Kyffin.jpg|bawd|Clawr ''Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr...''; argraffwyd yn Llundain, 1595 gan Richard Field.]] |
||
Milwr a llenor o [[Cymry|Gymro]] yn yr iaith [[Gymraeg]] a'r iaith [[Saesneg]] oedd '''Morris Kyffin''' (c.[[1555]] |
Milwr a llenor o [[Cymry|Gymro]] yn yr iaith [[Gymraeg]] a'r iaith [[Saesneg]] oedd '''Morris Kyffin''' (c.[[1555]] – [[2 Ionawr]] [[1598]]<ref>[http://wbo.llgc.org.uk/cy/c-KYFF-MOR-1555.html Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein]; [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]; awdur: Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe; |
||
Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54)</ref>). Roedd yn frawd i'r bardd [[Edward Kyffin]] ac yn ddisgybl i [[Wiliam Llŷn]]. |
Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54)</ref>). Roedd yn frawd i'r bardd [[Edward Kyffin]] ac yn ddisgybl i [[Wiliam Llŷn]]. |
||
Fersiwn yn ôl 21:15, 6 Hydref 2018
Morris Kyffin | |
---|---|
Ganwyd | 1555 |
Bu farw | 2 Ionawr 1598 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Milwr a llenor o Gymro yn yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg oedd Morris Kyffin (c.1555 – 2 Ionawr 1598[1]). Roedd yn frawd i'r bardd Edward Kyffin ac yn ddisgybl i Wiliam Llŷn.
Bywgraffiad
Ganwyd Morris Kyffin tua 1555 yn ardal Croesoswallt, Swydd Amwythig, ar adeg pan oedd yn ardal Gymraeg. Dyma filltir sgwâr y beirdd Cymraeg Rhys Cain a Wiliam Llŷn a daeth Morris yn ddisgybl barddol i'r olaf. Roedd yn hannu o hen deuluoedd uchelwrol Powys.[2]
Aeth i Lundain pan oedd yn ifanc. Yn 1578 roedd yn athro yn nheulu'r Arglwydd Buckhurst. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd Groeg a Lladin, ond ni wyddom ble. Gwasanaethodd fel trysorydd a swyddi eraill gyda'r fyddin am gyfnod. Bu farw yn Iwerddon ar yr ail o Ionawr 1598 a chafodd ei gladdu yn Eglwys Crist yn Nulyn.[2]
Gwaith llenyddol
Yn Llundain daeth i adnabod rhai o lenorion mawr yr oes, pobl fel Edmund Spenser, William Camden a'r Cymro David Powel. Cyfieithodd un o ddramau Terens o'r Lladin i Saesneg (1588). Ceir penillion annerch i Morris gan y Dr William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac mae'n bur debygol felly eu bod yn adnabod eu gilydd.[2]
Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur Deffynniad Ffydd Eglwys Lloegr a orffenwyd ganddo yn 1594 ac sy'n gyfieithiad rhydd neu addasiad o waith Saesneg gwreiddiol.[2]
Llyfryddiaeth
- The Blessedness of Britayne (1587)
- Deffyniad Ffydd Eglwys Lloegr (1594).
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; awdur: Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe; Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560 (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,