Dinas Efrog Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB |
|||
Llinell 48: | Llinell 48: | ||
Yn ystod y [[1960au]], dioddefodd Efrog Newydd o broblemau economaidd, cynnydd mewn trais a gwrthdaro [[hiliaeth|hiliol]], a gyrhaeddodd uchafbwynt yn y [[1970au]]. Gwellodd sefyllfa economaidd y ddinas yn y [[1980au]] wrth i'r diwydiant ariannol ail-sefydlu ei hun. Erbyn y [[1990au]] roedd gwrthdaro hiliol wedi lleihau, cyfradd troseddau wedi gostwng yn sylweddol a thon newydd o [[mewnlifiad|fewnfudwyr]] wedi cyrraedd o [[Asia]] ac [[America Ladin]]. Ymddangosodd sectorau newydd, megis [[Dyffryn Silicon]], yn economi'r ddinas a chyrhaeddodd poblogaeth y ddinas record newydd yng [[cyfrifiad|nghyfrifiad]] [[2000]]. |
Yn ystod y [[1960au]], dioddefodd Efrog Newydd o broblemau economaidd, cynnydd mewn trais a gwrthdaro [[hiliaeth|hiliol]], a gyrhaeddodd uchafbwynt yn y [[1970au]]. Gwellodd sefyllfa economaidd y ddinas yn y [[1980au]] wrth i'r diwydiant ariannol ail-sefydlu ei hun. Erbyn y [[1990au]] roedd gwrthdaro hiliol wedi lleihau, cyfradd troseddau wedi gostwng yn sylweddol a thon newydd o [[mewnlifiad|fewnfudwyr]] wedi cyrraedd o [[Asia]] ac [[America Ladin]]. Ymddangosodd sectorau newydd, megis [[Dyffryn Silicon]], yn economi'r ddinas a chyrhaeddodd poblogaeth y ddinas record newydd yng [[cyfrifiad|nghyfrifiad]] [[2000]]. |
||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:North face south tower after plane strike 9-11.jpg|bawd|180px|Mae hedfan United Airlines 175 yn cwympo i [[Ganolfan Masnach y Byd]] ar 11 Medi, 2001]] Ar yr [[11 Medi|11eg o Fedi]], [[2001]], bu ymosodiad terfysgol ar y ddinas pan drawodd dwy awyren [[Canolfan Fasnach y Byd|Ganolfan Fasnach y Byd]]. Bu farw bron i 3,000 o bobl yn yr ymosodiad. Bwriedir adeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd (a adwaenid yn flaenorol fel y Tŵr Rhyddid), ynghŷd â chofeb a thri tŵr newydd o swyddfeydd ar y safle, a dylai fod yn gyflawn erbyn 2013. Ar y [[19 Rhagfyr|19eg o Ragfyr]], [[2006]], gosodwyd y colofnau [[dur]] cyntaf yn sylfeini'r adeilad. Mae tri adeilad uchel arall wedi'u cynllunio ar gyfer y safle ar hyd Stryd Greenwich, a byddant yn amgylchynu Cofeb Canolfan Fasnach y Byd, sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Bydd y safle hefyd yn gartref i amgueddfa a fydd yn olrhain hanes y safle. |
||
== Daearyddiaeth == |
== Daearyddiaeth == |
Fersiwn yn ôl 00:52, 6 Hydref 2018
Dinas Efrog Newydd | |
---|---|
Lleoliad o fewn Talaith Efrog Newydd | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Ardal | Efrog Newydd |
Llywodraeth | |
Awdurdod Rhanbarthol | Awdurdod Dinas Efrog Newydd |
Maer | Bill de Blasio |
Pencadlys | New York City Hall |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 1,214.4 km² |
Uchder | 10 m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 8,336,697 (Cyfrifiad 2012) |
Dwysedd Poblogaeth | 10,482 /km2 |
Metro | 18,815,988 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | EST (UTC-5) |
Cod Post | 212, 718, 917, 347, 646 |
Gwefan | http://www.nyc.gov |
Dinas yn Nhalaith Efrog Newydd yw Dinas Efrog Newydd (Saesneg: New York City). Hi yw'r ddinas fwyaf poblog yn Unol Daleithiau America tra bod ardal fetropolitanaidd Efrog Newydd ymysg ardaloedd mwyaf poblog y byd. Dinas ryngwladol flaenllaw ydyw, gyda dylanwad sylweddol yn fyd-eang ar fasnach, economi, diwylliant, ffasiwn ac adloniant. Yma hefyd ceir pencadlys y Cenhedloedd Unedig, ac felly mae'n ganolfan bwysig o safbwynt materion rhyngwladol.
Fe'i lleolir ar arfordir Gogledd-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau ar lannau Môr Iwerydd. Mae yno bum mwrdeisdref: Y Bronx, Brooklyn, Manhattan, Queens, ac Ynys Staten. Mae yno boblogaeth amcangyfrifol o 8,274,527 o bobl mewn ardal ychydig ynllai na 305 milltir sgwâr (790 km2).[1] Poblogaeth amcangyfrifol ardal fetropolitanaidd Efrog newydd yw 18,815,988 o bobl dros ardal o 6,720 milltir sgwâr (17,400 km2).[2]
Mae Efrog Newydd fwyaf adnabyddus ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau am ei threfnidaeth 24 awr, ac am ei dwysedd a'r amrywiaeth o bobl sy'n trigo yno. Yn 2005, roedd bron 170 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y ddinas a ganwyd 36% o'i phoblogaeth y tu allan i'r Unol Daleithiau. Weithiau cyfeirir at y ddinas fel "Y Ddinas sydd Byth yn Cysgu", tra bod ei ffugenwau eraill yn cynnwys "Gotham" a'r "Big Apple".
Sefydlwyd Efrog Newydd fel canolfan fasnachu gan y Dutch East India Company ym 1624. Galwyd y lleoliad newydd yn Amsterdam Newydd tan 1664 pan ddaeth y drefedigaeth o dan reolaeth Brydeinig. Bu Efrog Newydd yn brifddinas yr Unol Daleithiau o 1785 tan 1790, ac ers hynny dyma yw dinas fwyaf y genedl ers 1790.
Erbyn heddiw, mae gan y ddinas nifer o gymdogaethau a chofadeiladau byd enwog. Cyfarchodd y Cerflun Rhyddid filiynau o fewnlifwyr wrth iddynt ddod i'r Amerig ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae Wall St. ym Manhattan Isaf wedi bod yn ganolfan ariannol byd-eang ers yr Ail Ryfel Byd ac yno y lleolir Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd. Mae'r ddinas hefyd wedi bod yn gartref i nifer o adeiladau talaf y byd, gan gynnwys yr Empire State Building a'r ddau dŵr yng Nghanolfan Fasnach y Byd.
Hanes
Dechreuodd gwladychiad Ewropeaidd cyntaf o'r ardal yn 1614 a sefydlodd yr Iseldirwyr Amsterdam Newydd ym 1626, ar ran deheuol Manhattan. Ymsefydlodd nifer o Huguenotiaid yno hefyd, yn chwilio am ryddid crefyddol. Cipwyd y ddinas gan y Saeson yn 1664, a'i hail-enwi'n 'Efrog Newydd' ar ôl Dug Caerfrog.
Datblygodd pwysigrwydd Dinas Efrog Newydd fel porthladd masnachol tra'r oedd o dan reolaeth Brydeinig. Cynhaliodd y ddinas achos llys arloesol John Peter Zenger ym 1735, a geisiodd sefydlu rhyddid y wasg yng Ngogledd America. Ym 1754, sefydlwyd Prifysgol Columbia gan siarter George II o'r DU fel Coleg y Brenin ym Manhattan Isaf. Cyfarfu Cynghrair y Ddeddf Stamp yn Efrog Newydd ym mis Hydref 1765.
Daeth y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer cyfres o frwydrau mawrion a adwaenid fel Ymgyrch Efrog Newydd yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America. Ar ôl Brwydr Ffort Washington ym Manhattan Uchaf ym 1776, daeth yn ddinas yn ganolbwynt gwleidyddol a milwrol Prydain yng Ngogledd America tan ddaeth y meddianaeth milwrol i ben ym 1783. Yn fuan ar ôl hyn, gwnaed Dinas Efrog Newydd yn brifddinas cenedlaethol gan Gynghrair y Conffederasiwn; cadarnhawyd Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau ac ym 1789, urddwyd George Washington yn Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yno; cyfarfu Cynghrair cyntaf yr Unol Daleithiau yno am y tro cyntaf ym 1789, a draffiwyd Mesur Hawliau a hyn oll yn y Neuadd Ffederal ar Wall St. Erbyn 1790, roedd Dinas Efrog Newydd wedi goddiweddyd Philadelphia fel dinas fwyaf yr Unol Daleithiau.
Yn ystod y 19g gweddnewidwyd y ddinas gan fewnlifiad a datblygiad. Ehangwyd y grid strydoedd i gynnwys holl ardaloedd Manhattan gan Gynllun y Comisiynnydd ym 1811, a phan agorodd Camlas Erie, cysylltodd porthladd Môr Iwerddon gyda marchnadoedd amaethyddol eang mewndirol Gogledd America. Aeth gwleidyddiaeth lleol o dan ddylanwad Neuadd Tammany, peiriant gwleidyddol a gefnogwyd gan fewnfudwyr Gwyddelig. Ymgyrchoedd hen aristocratiaid morol am sefydlu parc ganolog, "Central Park", a ddatblygodd i fod y parc tir-luniedig cyntaf mewn dinas Americanaidd ym 1857. Roedd poblogaeth o dduon-rhydd hefyd yn bodoli ym Manhattan, yn ogystal ag yn Brooklyn. Daliwyd caethweision yn Efrog Newydd tan 1827, ond yn ystod y 1830au daeth yn ganolbwynt yr ymgyrch i ddiweddu caethwasiaeth aml-hil yn y Gogledd.
Arweiniodd ddicter at orfodaeth milwrol yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America (1861-1865) at Derfysgoedd Drafftio 1863, un o ddigwyddiadau mwyaf cythryblus yn hanes America. Ym 1898, ffurfiwyd dinas fodern Efrog Newydd drwy gyfuno â Brooklyn (a oedd yn ddinas annibynnol cyn hyn), Swydd Efrog Newydd (a oedd yn cynnwys rhannau o'r Bronx), Swydd Richmond a rhan orllewinol o Swydd Queens. Pan agorodd rheilffordd danddaearol Dinas Efrog Newydd ym 1904, llwyddodd hyn i ddod a'r ddinas newydd at ei gilydd. Trwy gydol hanner gyntaf yr 20g, roedd y ddinas yn ganolbwynt y byd o ran diwydiant, masnach a chyfathrebu. Fodd bynnag, roedd pris i'w dalu am y datblygiad hwn. Ym 1904, bu tân ar long-stêm y General Slocum yn yr Afon Ddwyreiniol, gan ladd 1,021 o bobl a oedd ar fwrdd y llong. Ym 1911, bu farw 146 o weithwyr dillad yn nhrychineb diwydiannol gwaethaf y ddinas, pan fu tân yn Ffatri Triangle Shirtwaist. Arweiniodd hyn at sefydlu Undeb Rhyngwladol y Gweithwragedd Dillad a gwnaed gwelliannau mewn safonau diogelwch ffatrïoedd.
Yn ystod y 1920au, roedd Dinas Efrog Newydd yn gyrchfan boblogaidd i Americanwyr-Affricanaidd yn ystod yr Ymfudo Mawr o Dde America. Erbyn 1916, roedd Dinas Efrog Newydd yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o Affricaniaid dinesig yng Ngogledd America. Blodeuodd Dadeni Harlem yn ystod cyfnod y Gwaharddiad, ynghŷd â thŵf economaidd a welodd y ddinas yn cystadlu i adeiladu'r wybren-grafwyr uchaf. Erbyn dechrau'r 1920au, Dinas Efrog Newydd oedd yr ardal ddinesig fwyaf poblog yn y byd, gydag ardal fetropolitanaidd o dros 10 miliwn o drigolion erbyn dechrau'r 1930au. Yn sgîl yr amodau byw caled a ddaeth ar ôl y Dirwasgiad Mawr, etholwyd y diwygiwr Fiorello LaGuardia yn faer y ddinas.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dychwelodd y milwyr a mewnfudwyr o Ewrop ac arweiniodd hyn yn ei dro at dŵf economaidd arall a datblygiadau enfawr o dai yn nwyrain Queens. Prin iawn oedd effaith y rhyfel ar Efrog Newydd a chyda Wall Street yn arwain y wlad at ddominyddiaeth economaidd, pencadlys y Cenhedloedd Unedig (a gwblhawyd ym 1950), yn pwysleisio dylanwad gwleidyddol y ddinas, a thŵf celf mynegiannol yn y ddinas, dadleolwyd Paris fel canolbwynt y byd celfyddydol.
Yn ystod y 1960au, dioddefodd Efrog Newydd o broblemau economaidd, cynnydd mewn trais a gwrthdaro hiliol, a gyrhaeddodd uchafbwynt yn y 1970au. Gwellodd sefyllfa economaidd y ddinas yn y 1980au wrth i'r diwydiant ariannol ail-sefydlu ei hun. Erbyn y 1990au roedd gwrthdaro hiliol wedi lleihau, cyfradd troseddau wedi gostwng yn sylweddol a thon newydd o fewnfudwyr wedi cyrraedd o Asia ac America Ladin. Ymddangosodd sectorau newydd, megis Dyffryn Silicon, yn economi'r ddinas a chyrhaeddodd poblogaeth y ddinas record newydd yng nghyfrifiad 2000.
Ar yr 11eg o Fedi, 2001, bu ymosodiad terfysgol ar y ddinas pan drawodd dwy awyren Ganolfan Fasnach y Byd. Bu farw bron i 3,000 o bobl yn yr ymosodiad. Bwriedir adeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd (a adwaenid yn flaenorol fel y Tŵr Rhyddid), ynghŷd â chofeb a thri tŵr newydd o swyddfeydd ar y safle, a dylai fod yn gyflawn erbyn 2013. Ar y 19eg o Ragfyr, 2006, gosodwyd y colofnau dur cyntaf yn sylfeini'r adeilad. Mae tri adeilad uchel arall wedi'u cynllunio ar gyfer y safle ar hyd Stryd Greenwich, a byddant yn amgylchynu Cofeb Canolfan Fasnach y Byd, sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Bydd y safle hefyd yn gartref i amgueddfa a fydd yn olrhain hanes y safle.
Daearyddiaeth
Lleolir Dinas Efrog Newydd yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau, yn ne-ddwyrain Talaith Efrog Newydd, oddeutu hanner ffordd rhwng Washington, D.C. a Boston. Saif y ddinas ger aber yr Afon Hudson, sy'n bwydo harbwr cysgodol ac yna Mor Iwerddon, ac mae'r lleoliad hwn wedi cynorthwyo'r ddinas i dyfu fel tref masnachol. Adeiladwyd rhannau helaeth o Efrog Newydd ar dair ynys Manhattan, Ynys Staten a Long Island a achosodd prinder tir a dwysedd poblogaeth uchel.
Llifa'r Afon Hudson drwy Ddyffryn Hudson ac i mewn i Fae Efrog Newydd. Rhwng Dinas Efrog Newydd a Troy, Efrog Newydd, mae'r afon yn aber. Gwahana'r Hudson y ddinas o New Jersey. Mae Afon y Dwyrain yn llifo o Long Island Sound ac yn gwahanu'r Bronx a Manhattan o Long Island. Mae'r Afon Harlem yn gwahanu Manhattan o'r Bronx.
Mae tir y ddinas wedi newid yn sylweddol oherwydd ymyrraeth dynol, gyda rhannau helaeth o dir wedi'u had-ennill ar hyd y glannau ers cyfnod y trefidigaethau Iseldireg. Gwelwyd yr enghraifft amlycaf o ad-ennill tir ym Manhattan Isaf, gyda datblygiadau fel Dinas Battery Park yn ystod y 1970au a'r 1980au. Mae rhai o amrywiadau naturiol topograffeg wedi cael eu llyfnhau, yn enwedig ym Manhattan.
Amcangyfrifir fod arwynebedd y ddinas yn mesur 304.8 milltir sgwâr (789 km²). Cyfanswm arwynebedd Dinas Efrog Newydd yw 468.9 milltir sgwâr (1,214 km²). Mae 164.1 milltir sgwâr (425 km²) o hyn yn ddwr a 304.8 milltir sgwâr (789 km²) yn dir. Man uchaf y ddinas yw Todt Hill ar Ynys Staten, sydd 409.8 troedfedd (124.9 m) uwchlaw lefel y mor a dyma yw'r man uchaf ar y glannau dwyreiniol, i'r de o Maine. Mae copa'r mynydd wedi'i orchuddio gan goedwig fel rhan o dir gwyrdd Ynys Staten.
Hinsawdd
Mae gan Ddinas Efrog Newydd hinsawdd is-drofannol llaith[3] ac ar gyfartaledd ceir yno 234 o ddiwrnodau o heulwen yn flynyddol.[4]
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 79 – 84 °F (26 – 29 °C) a thymheredd isaf o 63 – 69 °F (17 – 21 °C). Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 90 °F (32 °C) am tua 16 -19 diwrnod bob haf.[5]
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda'r lleoliadau arfordirol ychydig yn gynhesach, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 38 – 43 °F (3 – 6 °C) a thymheredd isaf o 26 – 32 °F (−3 i 0 °C), ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r 10au i'r 20au °F (−12 i −6 °C) am rai dyddiau. Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 50au neu 60au °F (~10 i 15 °C) yn ystod y gaeaf.[6] Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y Gwanwyn a'r Hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.[7]
Mis | Ion | Chwe | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tach | Rhag | Cyfartaledd Blwyddyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Uchafbwynt cyfartalog °F (°C) | 72 (22) | 75 (24) | 86 (30) | 96 (36) | 99 (37) | 101 (38) | 106 (41) | 104 (40) | 102 (39) | 94 (34) | 84 (29) | 75 (24) | 106 (41) |
Cyfartaledd °F (°C) | 38 (3) | 41 (5) | 50 (10) | 61 (16) | 71 (22) | 79 (26) | 84 (29) | 82 (28) | 75 (24) | 64 (18) | 53 (12) | 43 (6) | 62 (17) |
Isafbwynt cyfartalog °F (°C) | 26 (-3) | 28 (-2) | 35 (2) | 44 (7) | 54 (12) | 63 (17) | 69 (21) | 68 (20) | 60 (16) | 50 (10) | 41 (5) | 32 (0) | 48 (9) |
Dyodiad modfeddi (mm) | 4.13 (104.9) | 3.15 (80) | 4.37 (111) | 4.28 (108.7) | 4.69 (119.1) | 3.84 (97.5) | 4.62 (117.3) | 4.22 (107.2) | 4.23 (107.4) | 3.85 (97.8) | 4.36 (110.7) | 3.95 (100.3) | 49.7 (1262.4) (Cyfanswm dyodiad) |
Ffynonellau:"Average Weather for New York, NY - Temperature and Precipitation". Weather.com |
Amgylchedd
Y defnydd o drafnidiaeth yn Ninas Efrog Newydd yw'r uchaf yn yr Unol Daleithiau ac mae'r defnydd o danwydd yno yn gyfatebol i'r cyfartaledd cenedlaethol yn ystod y 1920au.[8] Mae allyriannau nwyon sy'n achosi'r effaith tŷ gwydr yn Ninas Efrog Newydd yn 7.1 tunnell metrig i bob person o'i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 24.5 tunnell metrig.[9] Mae holl drigolion Efrog Newydd yn gyfrifol am 1% o holl allyriannau nwyon effaith tŷ gwydr er mai 2.7% o holl boblogaeth y wlad maent yn cynrychioli. Mae person cyffredin sy'n trigo yn Efrog Newydd yn defnyddio hanner y trydan a ddefnyddir gan drigolion San Francisco a bron i chwarter o'r trydan a ddefnyddir gan berson o Dallas, Texas.[10]
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ddinas wedi bod yn canolbwyntio ar leihau ei heffaith ar yr amgylchedd. Arweiniodd llygredd y ddinas at lefelau uchel o asma a chyflyrrau resbiradol eraill ymysg trigolion y ddinas.[11] Rhaid i lywodraeth y ddinas brynu'r offer mwyaf effeithiol o ran ynni yn unig ar gyfer swyddfeydd a thai cyhoeddus yn y ddinas. Mae gan Efrog Newydd y fflyd mwyaf o fysiau awyr lan hybrid-diesel yn y wlad, a rhai tacsis hybrid cyntaf.
Dinaswedd
Pensaernïaeth
Y math o adeilad a gysylltir â Dinas Efrog Newydd gan amlaf yw'r wybrengrafwr, a gwelwyd adeiladau'r ddinas yn newid o adeiladau llai o faint, Ewropeaidd yr olwg, i dyrrau enfawr yr ardaloedd busnes. Erbyn mis Awst 2008, roedd gan Ddinas Efrog Newydd 5,538 o adeiladau tal, gyda 50 o wybregrafwyr a oedd yn dalach na 656 troedfedd (200m). Mae hyn yn fwy nag unrhyw ddinas arall yn yr Unol Daleithiau, ac yn ail y byd ar ôl Hong Kong. Am fod y ddinas wedi'i hamgylchynu i raddau helaeth gan ddŵr, dwysedd poblogaeth uchel y ddinas a phrisiau uchel ar adeiladau yn yr ardaloedd masnachol, gwelodd y ddinas y casgliad mwyaf o dyrrau unigol o swyddfeydd a chartrefi yn y byd.
Mae gan Efrog Newydd adeiladau nodedig o safbwynt pensaernïol ac mae eu harddulliau'n amrywio. Mae'r adeiladau hyn yn cynnwys yr Adeilad Woolworth (1913), gwybrengrafwr gothig cynnar a adeiladwyd gyda nodweddion gothig y gellir eu gweld o'r stryd sawl can troedfedd yn îs. Mae cynllun art deco yr Adeilad Chrysler (1930), gyda'i thŵr dur yn adlewyrchu'r cyfyngiadau a gyflwynwyd er mwyn sicrhau fod digon o oleuni naturiol yn cyrraedd y strydoedd. Ystyria nifer o haneswyr a phenseiri y tŵr hwn fel adeilad mwyaf godidog Efrog Newydd, gyda'i addurniadau cywrain. Mae'r Adeilad Condé Nast (2000) yn enghraifft bwysig o'r cynllunio amgylcheddol a gyflwynwyd yn ddiweddarach i wybrengrafwyr Americanaidd.
Adeiladau a chofadeiladau
- Adeilad Condé Nast (2000)
- Adeilad Chrysler (1930)
- Adeilad Seagram (1957)
- Adeilad Woolworth (1913)
- Amgueddfa Guggenheim
- Canolfan Masnach y Byd (1972)
- Canolfan Rockefeller (1939)
- Cerflun Rhyddid
- Eglwys Gadeiriol Sant Padrig (1878)
- Empire State Building (1931)
- Pont Brooklyn
- Yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan
Chwaer ddinasoedd
Dyddiad | Chwaer ddinas | |
---|---|---|
1960 | Tokyo, Siapan | |
1980 | Beijing, Tsieina | |
1982 | Cairo, Yr Aifft | |
1982 | Madrid, Sbaen | |
1983 | Santo Domingo, Gweriniaeth Dominica | |
1992 | Budapest, Hwngari | |
1992 | Rhufain, Eidal | |
1993 | Jerusalem, Israel | |
2001 | Llundain,1 Prydain | |
2003 | Johannesburg, De Affrica | |
1. Llundain Fwyaf a Dinas Llundain |
Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Cyngor y Ddinas
Cyfeiriadau
- ↑ NYC Profile" (PDF). Adran Gynllunio Dinas Efrog Newydd. Adalwyd 2008-05-22.
- ↑ Amcangyfrifau Blynyddol Poblogaeth Ardaloedd Metropolitanaidd: Ebrill 1, 2000 tan Gorffennaf 1, 2007. U.S. Census Bureau. Adalwyd ar 2008-12-30.
- ↑ World Map of the Köppen-Geiger climate classification University of Veterinary Medicine Vienna. Adalwyd 2009-01-31
- ↑ http://www.weatherbase.com
- ↑ Swyddfa Hinsawdd Dinas Efrog Newydd Adalwyd 2008-11-11
- ↑ The Climate of New York Swyddfa Hinsawdd Talaith Efrog Newydd. Adalwyd 2008-09-01
- ↑ Weatherbase Swyddfa Hinsawdd Talaith Efrog Newydd. Adalwyd 2008-09-01
- ↑ Jervey, Ben (2006). The Big Green Apple: Your Guide to Eco-Friendly Living in New York City. Globe Pequot Press. ISBN 0-7627-3835-9.
- ↑ "Inventory of New York City Greenhouse Gas Emissions" (PDF). New York City Office of Long-term Planning and Sustainability. Ebrill 2007. Adalwyd 2008-09-01.
- ↑ "Global Warming and Greenhouse Gases". PlaNYC/The City of New York. 2006-12-06. Adalwyd 2008-09-01.
- ↑ Coburn, Jason, Jeffrey Osleeb, Michael Porter (June 2006). "Urban Asthma and the Neighbourhood Environment in New York City". Health & Place 12(2): td. 167–179. doi:10.1016/j.healthplace.2004.11.002. PMID 16338632.