Incwnabwlwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Incunable" |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
⚫ | |||
Llyfr, pamffled neu argrafflen a argraffwyd yn Ewrop cyn y flwyddyn 1501 yw '''incwnabwlwm''' (lluosog''' incwnabwla'''). Nid yw incwnabwla yn llawysgrifau.{{As of|2014|post=,}} |
Llyfr, pamffled neu argrafflen a argraffwyd yn Ewrop cyn y flwyddyn 1501 yw '''incwnabwlwm''' (lluosog''' incwnabwla'''). Nid yw incwnabwla yn llawysgrifau.{{As of|2014|post=,}} |
||
Llinell 6: | Llinell 7: | ||
Trwy gamddealltwriaeth y priodolwyd y term i Bernhard von Mallinckrodt (1591–1664) wedi iddo ddefnyddio'r union eiriau a ddefnyddiodd Hadrianus Iunius mewn pamffled a ysgrifennodd ac a argraffwyd yn 1640.<ref>{{Cite journal|url=https://hal.archives-ouvertes.fr/hal-00791398v2|title=Le baptême inconscient de l'incunable: non pas 1640 mais 1569 au plus tard|last=Sordet|first=Yann|journal=Gutenberg Jahrbuch|year=2009|volume=84|pages=102–105|language=French}}</ref> Ar ddiwedd y 17g y daeth y term incwnabwla i ddynodi'r llyfrau argraffiedig eu hunain, heb gynnwys llawysgrifau. |

Mae'r enghreifftiau enwocaf o incwnabwla yn cynnwys dau o Mainz, sef Beibl Gutenberg (1455) ''Peregrinatio in terram sanctam'' (1486), a argraffwyd ac a ddarluniwyd gan Erhard Reuwich; Cronicl Nuremberg a ysgrifennwyd gan Hartmann Schedel ac a argraffwyd gan Anton Koberger yn 1493; a'r ''Hypnerotomachia Poliphili'' a argraffwyd gan Aldus Manutius gyda darluniau gan arlunydd anhysbys. |

Fersiwn yn ôl 21:46, 4 Hydref 2018
Llyfr, pamffled neu argrafflen a argraffwyd yn Ewrop cyn y flwyddyn 1501 yw incwnabwlwm (lluosog incwnabwla). Nid yw incwnabwla yn llawysgrifau.As of 2014[update]
Daw'r gair 'incunabwlwm' o'r Lladin am "ddillad rhwymo" neu "crud",[1] sydd yn yr achos hwn yn gyfeiriad at y camau cynharaf yn natblygiad llyfrau print.[2]
Defnyddiwyd y term incunabwla gyntaf yng nghyd-destun argraffu gan y ffisegydd a dyneiddiwr o'r Iseldiroedd Hadrianus Iunius (Adriaan de Jonghe, 1511–1575) ac mae'n ymddangos mewn gwaith a argraffwyd yn dilyn ei farwolaeth (ysgrifennwyd yn 1569.[3]
Trwy gamddealltwriaeth y priodolwyd y term i Bernhard von Mallinckrodt (1591–1664) wedi iddo ddefnyddio'r union eiriau a ddefnyddiodd Hadrianus Iunius mewn pamffled a ysgrifennodd ac a argraffwyd yn 1640.[4] Ar ddiwedd y 17g y daeth y term incwnabwla i ddynodi'r llyfrau argraffiedig eu hunain, heb gynnwys llawysgrifau.
Mae'r enghreifftiau enwocaf o incwnabwla yn cynnwys dau o Mainz, sef Beibl Gutenberg (1455) Peregrinatio in terram sanctam (1486), a argraffwyd ac a ddarluniwyd gan Erhard Reuwich; Cronicl Nuremberg a ysgrifennwyd gan Hartmann Schedel ac a argraffwyd gan Anton Koberger yn 1493; a'r Hypnerotomachia Poliphili a argraffwyd gan Aldus Manutius gyda darluniau gan arlunydd anhysbys.
Ymhlith argraffwyr incwnabwla eraill roedd Günther Zainer o Augsburg, Johannes Mentelin a Heinrich Eggestein o Strasbwrg, Heinrich Gran o Haguenau a William Caxton o Brugge a Llundain. Yr incwnabwlwm cyntaf i gynnwys torluniau pren oedd Der Edelstein gan Ulrich Boner, a argraffwyd gan Albrecht Pfister yn Bamberg yn 1461.[5]
Cyfeirnodau
- ↑ C.T. Lewis and C. Short, A Latin Dictionary, Oxford 1879, p. 930. The word incunabula is a neuter plural only; the singular incunabulum is never found in Latin and not used in English by most specialists.
- ↑ Oxford English Dictionary, 1933, I:188.
- ↑ Glomski, J (2001). "Incunabula Typographiae: seventeenth-century views on early printing". The Library 2: 336. doi:10.1093/library/2.4.336.
- ↑ Sordet, Yann (2009). "Le baptême inconscient de l'incunable: non pas 1640 mais 1569 au plus tard" (yn French). Gutenberg Jahrbuch 84: 102–105. https://hal.archives-ouvertes.fr/hal-00791398v2.
- ↑ Daniel De Simone (ed), A Heavenly Craft: the Woodcut in Early Printed Books, New York, 2004, p. 48.