Arwisgiad Tywysog Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Vermont (sgwrs | cyfraniadau) rv |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Emoji Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Roedd yn arferol trefnu'r arwisgiad yn y Senedd yn [[Llundain]]. Ar un adeg roedd seremoni debyg ar gyfer Arglwyddi, ond gwnaed i ffwrdd a hyn yn [[1621]], wrth i'r nifer o Arglwyddi gynyddu. |
Roedd yn arferol trefnu'r arwisgiad yn y Senedd yn [[Llundain]]. Ar un adeg roedd seremoni debyg ar gyfer Arglwyddi, ond gwnaed i ffwrdd a hyn yn [[1621]], wrth i'r nifer o Arglwyddi gynyddu. |
||
Hi guys, my nanes ali a, and today, were playing some fortnite😎😎 |
|||
Yn [[1911]], gwelwyd newid, pan ddaeth Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach [[Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig|Edward VIII]], yn seremoni gyhoeddus yng [[Castell Caernarfon|Nghastell Caernarfon]]. Credir mai [[David Lloyd George]] oedd tu ôl i'r newid yn y trefniadau. |
Yn [[1911]], gwelwyd newid, pan ddaeth Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach [[Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig|Edward VIII]], yn seremoni gyhoeddus yng [[Castell Caernarfon|Nghastell Caernarfon]]. Credir mai [[David Lloyd George]] oedd tu ôl i'r newid yn y trefniadau. |
||
Fersiwn yn ôl 13:17, 4 Hydref 2018
Arwisgiad Tywysog Cymru yw'r seremoni o arwisgo mab hynaf teyrn Lloegr a'r teitl Tywysog Cymru, teitl a roddir i fab hynaf y teyrn ers 1301, er i nifer yng Nghymru ymwrthod rhag ei alw'n hynny, gan deimlo i linach gwir dywysogion Cymru gael ei ddifa gan goron Lloegr.
Roedd yn arferol trefnu'r arwisgiad yn y Senedd yn Llundain. Ar un adeg roedd seremoni debyg ar gyfer Arglwyddi, ond gwnaed i ffwrdd a hyn yn 1621, wrth i'r nifer o Arglwyddi gynyddu. Hi guys, my nanes ali a, and today, were playing some fortnite😎😎 Yn 1911, gwelwyd newid, pan ddaeth Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach Edward VIII, yn seremoni gyhoeddus yng Nghastell Caernarfon. Credir mai David Lloyd George oedd tu ôl i'r newid yn y trefniadau.
Cafwyd Arwisgiad arall yng Nghastell Caernarfon yn 1969, pan arwisgwyd Y Tywysog Siarl fel Tywysog Cymru. Yn wahanol i'r seremoni yn 1911, bu cryn dipyn o wrthwynebiad i'r Arwisgiad yma gan genedlaetholwyr Cymreig. Roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969.
Ymhlith y mudiadau oedd yn gwrthwynebu'r Arwisgiad, roedd Mudiad Amddiffyn Cymru. Ar 30 Mehefin 1969, y noson cyn yr Arwisgiad, lladdwyd dau aelod o MAC, Alwyn Jones a George Taylor, yn Abergele pan ffrwydrodd bom yn gynamserol.
Cafwyd ymateb gan feirdd Cymru hefyd. Mae rhai o'r cerddi mwyaf adnabyddus yn y gyfrol Cerddi'r Cywilydd gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ymateb cenedlaetholgar i'r Arwisgiad a "gwaseidd-dra" rhai Cymry, ym marn y bardd. Mynegir y teimlad hwn yn gofiadwy yn y gerdd Fy Ngwlad, er enghraifft, sy'n agor a'r llinellau:
- Wylit, wylit, Lywelyn,
- Wylit waed pe gwelit hyn.
- Ein calon gan estron ŵr,
- Ein coron gan gwncwerwr,
- A gwerin o ffafrgarwyr
- Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gerallt Lloyd Owen, 'Fy Ngwlad', yn Cerddi'r Cywilydd (Gwasg Gwynedd, 1972; sawl argraffiad ers hynny).