Rhythm a blŵs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: th:รึทึมแอนด์บลูส์ |
SpBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: scn:Rhythm and blues |
||
Llinell 81: | Llinell 81: | ||
[[ru:Ритм-н-блюз]] |
[[ru:Ритм-н-блюз]] |
||
[[sah:R&B]] |
[[sah:R&B]] |
||
[[scn:Rhythm and blues]] |
|||
[[simple:Rhythm and blues]] |
[[simple:Rhythm and blues]] |
||
[[sk:Rhythm and blues]] |
[[sk:Rhythm and blues]] |
Fersiwn yn ôl 08:06, 30 Medi 2009
(Gweler hefyd : Blŵs, Rhestr cerddorion R&B, Cerddoriaeth roc a Cerddoriaeth boblogaidd)
Beth yw Rhythm a blŵs?
Mae'r ymadrodd Rhythm a blŵs (Rhythm and blues yn Saesneg) yn cael ei fyrhau yn aml iawn i R&B neu weithiau R'n'B.
Mae R&B mor boblogaidd heddiw ac yr oedd pan ddechreuodd e yn y 1940au cynnar. Mae R&B yn cynnwys jump blues, doo-wop, soul, y twist, Motown, disco, funk, rap a hip-hop. Gan fod R&B wedi newid llawer dros y blynyddoedd gellir cyfeirio at yr arddull cynnar fel "rhythm a blŵs traddodiadol" a'r ddiweddar fel "rhythm a blŵs cyfoesol".
Fe ddechreuodd R&B yn ystod yr Ail Rhyfel Byd pan roedd mudiad llawer o bobl dduon o dde'r Unol Daleithiau i weithio yn y dinasoedd mawr.
Fe ddefnyddiwyd yr ymadrodd "Rhythm and Blues" yn gyntaf yn 1949 gan Jerry Wexler o gylchgrawn "Billboard" (ac "Atlantic Records" nes ymlaen). Fel mae'r ymadrodd yn awgrymu, mae rhythm a blŵs yn ddisgynnydd o'r blŵs. Mae'r gerddoriaeth yn debyg iawn i'r blŵs ond gyda rhythm cryf a chaled. Mae gan y rhan fwyaf o ganeuon R&B bedwar curiad i'r bar gyda'r acen ar yr ail a'r bedwaredd curiad.
R&B cynnar
Fe recordiodd Louis Jordan "G. I. Jive" yn 1944, "Caldonia" yn 1945 a "Choo Choo Ch'Boogie" yn 1946, mewn arddul a elwir jump blues.
Y 1950au
Yn 1949 fe recordiodd Fats Domino "The Fat Man" ac yn 1956 fe recordiodd fersiwn o'r gân "Blueberry Hill".
Fe recordiodd Chuck Berry "Maybellene" yn 1955 a "Roll Over Beethoven" yn 1956. Gelwir Chuck Berry yn frenin R&B.
Un arall oedd Little Richard a recordiodd "Tutti Frutti" yn 1955, "Long Tall Sally" a "Good Golly Miss Molly" yn 1958.
Yn y 1950au fe ddatblygodd R&B i roc a rôl pan osododd gerddorion gwynion fel Bill Haley ac Elvis Presley alawon gwlad i rhythmau R&B. Gelwir R&B yn "roc a rôl ddu" weithiau ac mae cerddorion fel Fats Domino, Chuck Berry a Little Richard ymhlith arloeswyr roc a rôl.
Soul
Ystyr soul yw "enaid". Dywedir mae'r canwr a phianydd Ray Charles a ddyfeisiodd soul. Dechreuodd e recordio yn 1951.
Un arall i ddechrau yr un adeg oedd James Brown a ddatblygodd funk. Mae funk yn debyg i soul ond bod yr acen ar guriad cyntaf y bar a bod ganddo rhythm wedi ei drawsacennu.
Y 1960au
Y Twist
Yn 1959 fe recordiodd Hank Ballard and the Midnighters "Teardrops on Your Letter". Ar gefn y record roedd yna gân o'r enw "The Twist". Yn 1960 fe recordiodd Chubby Checker fersiwn ei hunan o "The Twist" ac fe ddyfeisiodd ddawns fach i fynd gyda'r gân. Daeth y ddawns yn boblogaidd dros ben o gwmpas y byd-eang. Y flwyddyn ganlynnol fe ysgrifennodd a recordiodd Chubby Checker y gân "Let's Twist Again".
Motown
Yn 1959 fe sefydlodd Berry Gordy gwmni recordio "Motown" yn Detroit. Canwyr mwyaf poblogaidd Motown ydy Diana Ross, Smokey Robinson, Stevie Wonder a Michael Jackson.
R&B ym Mhrydain
Yn y 1960au roedd bandiau fel y Rolling Stones, Manfred Mann a'r Kinks yn arfer gwrando ar hen recordiau R&B a chwarae arddull drydanol o R&B.
Enwogion eraill R&B
Mae enwogion eraill R&B yn cynnwys Booker T and the MG's, Sly & The Family Stone, Ike Turner, Tina Turner, Whitney Houston, Destiny's Child (yn cynnwys Beyoncé), Luther Vandross a Mary J Blige.
Mae yna gymaint o gerddorion R&B rhaid gweld rhestr cerddorion R&B.