Charles de Gaulle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: hif:Charles de Gaulle
Llinell 93: Llinell 93:
[[he:שארל דה גול]]
[[he:שארל דה גול]]
[[hi:शार्ल डु गोल]]
[[hi:शार्ल डु गोल]]
[[hif:Charles de Gaulle]]
[[hr:Charles de Gaulle]]
[[hr:Charles de Gaulle]]
[[hu:Charles de Gaulle]]
[[hu:Charles de Gaulle]]

Fersiwn yn ôl 13:32, 29 Medi 2009

Arlywydd Charles de Gaulle
Charles de Gaulle

Charles de Gaulle


Cyfnod yn y swydd
8 Ionawr 1959 – 28 Ebrill 1969
Prif Weinidog Michel Debré
Georges Pompidou
Maurice Couve de Murville
Rhagflaenydd René Coty
Olynydd Georges Pompidou

Geni 22 Tachwedd 1890
Lille
Marw 9 Tachwedd 1970
Colombey-les-Deux-Églises
Plaid wleidyddol UDR
Priod Yvonne de Gaulle

Gwleidydd a chadfridog o Ffrainc oedd Charles André Joseph Marie de Gaulle (22 Tachwedd, 1890 - 9 Tachwedd, 1970). Fe'i ganwyd yn Lille. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau gwleidyddol pwysicaf yr 20fed ganrif.

Gyrfa gynnar

Roedd yn swyddog galluog a daeth i'r amlwg yn y 1930au pan gyhoeddodd ei lyfr Vers l'armeé de métier (1934), lle mae'n dadlau dros greu byddin fodern broffesiynol. Cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn 1940 pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Roedd yn aelod o gabinet Paul Reynaud ond gwrthwynebai'r cytundeb armistis a gadwai Ffrainc allan o'r rhyfel.

Yr Ail Ryfel Byd

Yn dilyn cwymp Ffrainc i fyddin yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, bu'n cynnal o Loegr lywodraeth alltud o'r enw Ffrainc Rydd. Yn y cyfnod anodd hwnnw daeth de Gaulle i fod yn symbol o wladgarwch i nifer o Ffrancod. Ond roedd tensiynau yn bodoli eisoes ym mherthynas de Gaulle â llywodraethau Prydain Fawr ac America. Teimlai de Gaulle fod y Cynghreiriad yn ei ddefnyddio. Yn 1943 fe'i penodwyd yn llywydd y Pwyllgor dros Ryddhad Cenedlaethol, a oedd newydd ei sefydlu, yn Algiers. Ar ddiwedd y rhyfel ffurfiodd lywodraeth dros dro; ef oedd yr arlywydd o 1945 hyd ei ymddeoliad ohono yn 1946.

Y cyfnod ôl-ryfel

Yn 1947 sefydlodd y Rassemblement du Peuple Français ond nid oedd yn llwyddianus iawn ac fe'i diddymwyd ganddo yn 1953. Ymddeolodd o wleidyddiaeth am gyfnod ond cafodd ei alw i arwain ei wlad oherwydd yr argyfwng yn Algeria yn 1958. Roedd nifer o'r ymsefydlwyr Ffrengig yn y wlad honno yn gwrthryfela yn erbyn llywodraeth Ffrainc am eu bod yn ofni annibyniaeth.

Diwrnod y Siacal

Ym Medi 1961 ceisiodd y mudiad terfysgol asgell dde, yr Organisation de l'Armée secrète (OAS), ei lofruddio am ei fod yn barod i ildio annibyniaeth ar Ffrainc i Algeria. Seiliodd y nofelydd Frederick Forsyth ei nofel Day of the Jackal ar y digwyddiad a chafwyd ffilm enwog o'r un enw yn 1973 yn ogystal.

Ar lwyfan y byd

Wedi i Algeria gael ei hannibyniaeth yn 1962, canolbwyntiodd de Gaulle ar safle Ffrainc ar y llwyfan ryngwladol. Roedd Ffrainc wedi colli nifer o'i drefedigaethau, neu ar fin eu colli, a theimlai fod Prydain ac America yn ceisio gwthio'r wlad o'r neilltu. Gweithiodd yn galed o blaid ei weledigaeth o Ewrop o wledydd annibynnol ond cydweithredol a fyddai'n rhydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau. Gwrthododd lofnodi'r Cytundeb Gwahardd Profi Arfau Niwcliar yn 1963 a thynnodd Ffrainc allan o NATO yn 1966. Gwrthwynebai gais Prydain i ymuno â'r EEC.

Problemau domestig

Ond wynebai densiynau cynyddol yn Ffrainc ei hun. Roedd protestiadau anferth Mai, 1968 gan fyfyrwyr a gweithwyr yn argyfwng iddo. Ymddeolodd yn 1969 yn sgîl colli refferendwm ar ddiwygiad cyfansoddiadol.

Ei ddylanwad

Am flynyddoedd lawer ar ôl ei farwolaeth yn 1970 roedd ei polisïau Gaullist yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Mae'n parhau'n ffigwr dadleuol heddiw.

Roedd ei ewyythr, hefyd o'r enw Charles de Gaulle, yn fardd Llydaweg ac yn un o arloeswyr Pan-Geltigiaeth.


Rhagflaenydd:
Michel Debré
Prif Weinidog Ffrainc
1 Mehefin 19588 Ionawr 1959
Olynydd:
Michel Debré
Rhagflaenydd:
René Coty
Arlywydd Ffrainc
8 Ionawr 195928 Ebrill 1969
Olynydd:
Georges Pompidou
Rhagflaenydd:
René Coty a Ramon Iglesias i Navarri
Hanner-Tywysog Andorra
19591969
gyda Ramon Iglesias i Navarri
Olynydd:
Georges Pompidou a
Ramón Malla Call
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol