Vayots Dzor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '200px|bawd|Lleoliad Vayots Dzor yn Armenia Talaith (''marz'') yn Armenia yw '''Vayots Dzor''' (Armeneg: Վայոց ...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:55, 28 Medi 2009
Talaith (marz) yn Armenia yw Vayots Dzor (Armeneg: Վայոց Ձոր, hen enw: Daralagez neu Daralagyoz). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad, gan ffinio ar Azerbaijan i'r dwyrain a'r gorllewin, ac mae ganddi arwynebedd o 2,308 km². Gyda phoglobaeth o ddim ond 53,230 (2002), dyma'r dalaith leiaf o ran poblogaeth yn Armenia. Y brifddinas yw Yeghegnadzor.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd Vayots Dzor yn dywysogaeth o fewn Teyrnas Syunik. Ystyr lythrennol yr enw yw "Dyffryn Gwae" am i'r ardal ddioddef yn drwm gan ddaeargrynfeydd mawr sawl gwaith yn ei hanes. Mae'n gyfoethog ei safleoedd hanesyddol sydd o ddiddordeb am eu pensaernïaeth, fel mynachlog Noravank, caer Smbataberd, a mynachlog Tsakhats Kar. Lleolir Jermuk, un o atyniadau twristaidd mwyaf Armenia yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd, yn y dalaith.
Taleithiau Armenia | |
---|---|
Aragatsotn | Ararat | Armavir | Gegharkunik | Kotayk | Lori | Shirak | Syunik | Tavush | Vayots Dzor | Yerevan |