Brechdan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 11: Llinell 11:


==Defnydd o'r Brechdan==
==Defnydd o'r Brechdan==
Y defnydd mwyaf cyffredin o'r gair, fodd bynnag, yn cyfeirio at ddwy dafell o fara, yn frown neu'n wyn, (yn arferol wedi cael [[menyn]] neu daeniad arall wedi taenu arnynt) gyda bwyd blasus rhngddynt. Ymysg y llenwadau mwyaf poblogaidd mai ham, wŷ wedi stwnsio gyda [[mayonnaise]], [[eog]], [[caws]] gyda (neu heb) [[siytni]]/[[catwad]], [[salad]] plaen, [[corgimychiaid]], neu diwna. Dros y blynyddoedd mae mathau mwy egsotig wedi dod i ffasiwn, megis [[cyw iar coroni]], [[cyw tikka]] a llysiau rhôst. Mae rhai pobl yn hoffi brechdan fwy melys gyda jam, mêl, [[menyn cnau]] neu fanana wedi'i stwnsio ymysg y ffefrynnau. Mae rhai mannau bwyta'n ychwanegu trydedd tafell i'r frechdan ac ail lenwad, a elwir y frechdan wedyn yn ''frechdan glwb'' neu ''frechdan ddwbl''.
Y defnydd mwyaf cyffredin o'r gair, fodd bynnag, yn cyfeirio at ddwy dafell o fara, yn frown neu'n wyn, (yn arferol wedi cael [[menyn]] neu daeniad arall wedi taenu arnynt) gyda bwyd blasus rhngddynt. Ymysg y llenwadau mwyaf poblogaidd mai ham, wŷ wedi stwnsio gyda [[mayonnaise]], [[eog]], [[caws]] gyda (neu heb) [[siytni]]/[[catwad]], [[salad]] plaen, [[corgimwch|corgimychiaid]], neu diwna. Dros y blynyddoedd mae mathau mwy egsotig wedi dod i ffasiwn, megis [[cyw iar coroni]], [[cyw tikka]] a llysiau rhôst. Mae rhai pobl yn hoffi brechdan fwy melys gyda jam, mêl, [[Menyn cnau mwnci|menyn cnau mwnci]] neu fanana wedi'i stwnsio ymysg y ffefrynnau. Mae rhai mannau bwyta'n ychwanegu trydedd tafell i'r frechdan ac ail lenwad, a elwir y frechdan wedyn yn ''frechdan glwb'' neu ''frechdan ddwbl''.


Wedi gwneud y frechdan, arferir ei thorri ar ei hanner o gornel i gornel unwaith neu ddwy, ac ystyrir ei fod yn fwy crand torri'r crystiau i ffwrdd.
Wedi gwneud y frechdan, arferir ei thorri ar ei hanner o gornel i gornel unwaith neu ddwy, ac ystyrir ei fod yn fwy crand torri'r crystiau i ffwrdd.

Fersiwn yn ôl 17:56, 1 Hydref 2018

Delwedd:BLT sandwich on toast.jpg
Brechdan bacwn, letys a thomato

Mae brechdan yn fwyd y gellir ei fwyta heb orfod aros am bryd mwy ffurfiol. Gall yr enw gyfeirio at naill ai tafell o fara neu nifer o dafelli gyda bwyd mwy blasus rhyngddynt. Gellir sôn am frechdan i olygu sleisen/tafell o fara menyn blaen. Os taenir rhywbeth ar frechdan blaen, cyfeirir at frechdan jam, brechdan fêl, brechdan Marmite ac ati. Gellir defnyddio tafelli o dorth fara brown neu wyn.

Etymoleg

Er i'r Saeson honni i'r Iarll Sandwich ddyfeisio'r frechdan, mae iddo hanes llawer hŷn, yn sicr yn y Gymraeg.

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru daw'r gair "brechdan" o'r gair Wyddeleg, brechtán yn golygu menyn neu saim ayyb.

Daw'r cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf i'r gair o tua 1400;

kymer vara arall, a chud bob wyneb y’r bara ac emenyn, ac ysgriuenna y wers honn ym pob wyneb y’r vrechdan honno a ro y’r ki".[1]

Defnydd o'r Brechdan

Y defnydd mwyaf cyffredin o'r gair, fodd bynnag, yn cyfeirio at ddwy dafell o fara, yn frown neu'n wyn, (yn arferol wedi cael menyn neu daeniad arall wedi taenu arnynt) gyda bwyd blasus rhngddynt. Ymysg y llenwadau mwyaf poblogaidd mai ham, wŷ wedi stwnsio gyda mayonnaise, eog, caws gyda (neu heb) siytni/catwad, salad plaen, corgimychiaid, neu diwna. Dros y blynyddoedd mae mathau mwy egsotig wedi dod i ffasiwn, megis cyw iar coroni, cyw tikka a llysiau rhôst. Mae rhai pobl yn hoffi brechdan fwy melys gyda jam, mêl, menyn cnau mwnci neu fanana wedi'i stwnsio ymysg y ffefrynnau. Mae rhai mannau bwyta'n ychwanegu trydedd tafell i'r frechdan ac ail lenwad, a elwir y frechdan wedyn yn frechdan glwb neu frechdan ddwbl.

Wedi gwneud y frechdan, arferir ei thorri ar ei hanner o gornel i gornel unwaith neu ddwy, ac ystyrir ei fod yn fwy crand torri'r crystiau i ffwrdd.

Yn gynyddol mae pobl yn defnyddio torthau gyda hadau ac ati ynddynt neu fathau mwy ecsotig o fara, baguette neu bara pita. Mae'n arferol erbyn hyn creu brechdanau wedi'u tostio gyda rhywbeth fel caws neu facwn y tu mewn iddynt.

Mae brechdan yn ffurfio rhan gyntaf hanfodol y te pnawn sydd yn ffasiynol erbyn hyn, ynghyd â scôns a jam, cacennau bach a phaned o de.

Y frechdanau cyntaf oedd tafelli o gig eidion wedi'i halltu rhwng dwy dafell o dôst. Dywedir mai 4ydd Iarll Sandwich a grëodd y frechdan gyntaf er mwyn cario ymlaen gyda'i ddyletswyddau milwrol wrth fwyta, a dyna a roddodd yr enw Saesneg i'r saig - er mai rhai yn honni mai bwyta rhywbeth nad oedd yn ei orfodi i adael bwrdd gamblo oedd ei arfer - a phobl eraill wedyn yn ordro "run peth ag y mae Iarll Sandwich yn ei fwyta"!

Mae'r iaith Ffrangeg wedi mabwysiadu'r gair i ddisgrifio darn o ffon fara Ffrengig wedi ei sleisio trwy ei chanol, gyda menyn a naill ai ham neu gaws rhwng y ddau hanner. Gelwir hwn un sandwich (gyda'r 'w' yn cael ei ynghanu fel y 'f' Cymraeg. Dyna, ynghyd â croque Monsieur yw'r bwydydd sydd fel arafer ar gael mewn bariau cyffredin yn Ffrainc.

Yng Nghymru, cedwir y gair sandwich, a ynghenir fel sangwidj i ddisgrifio cacel felen neu gacen sbwng siocled gyda jam neu hufen yn ei chanol.

Gellir hefyd defnyddio'r gair brechdan yn y dywediad teimlo fel bechdan, sef teimlo'n wan a di-egni.

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html