Y Lôn Wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
dolen i lun |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan [[Gwasg Gee]] yn 1960. |
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan [[Gwasg Gee]] yn 1960. |
||
==Dolen allanol== |
|||
* [http://www.caergors.org/lluniau/llun09.html Llun o'r Lôn Wen] ar wefan Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts |
|||
Fersiwn yn ôl 17:11, 21 Medi 2009
Cyfrol hunangofiannol gan Kate Roberts yw Y Lôn Wen (cyhoeddwyd 1960). Is-deitl: 'Darn o hunangofiant'.
Y ffordd "sy'n mynd dros Foel Smatho i'r Waunfawr ac i'r nefoedd" yw Lôn Wen y teitl. Ganed Kate Roberts yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan yn rhanbarth Arfon, Gwynedd. Roedd ei thad yn chwarelwr. Mae'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir holl-bwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar ac mae Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal a'i chymdeithas Gymraeg glos ar droad yr 20fed ganrif.
Mae'r gyfrol yn dangos adwaith plentyn synhwyrus a theimladwy i amgylchiadau bywyd ar yr aelwyd teuluol, yn y capel ac yn gymdeithas y chwarelwyr ar adeg bwysig yn hanes diwydiant llechi Cymru. Gwelir hefyd sut y daeth y profiadau hynny yn sail i lawer o'i nofelau a straeon yn ddiweddarach. Mae'n llyfr unigryw felly, sy'n cofnodi yn gofiadwy cymdeithas Gymraeg arbennig mewn cyfnod allweddol, cyn y chwalfa fawr a ddaeth gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n gyfrol o bwys i efrydwyr llên gwerin Cymru am ei bod yn cofnodi pethau fel yr afer o adrodd straeon o bob math o gwmpas y pentan a manylion eraill am ddiwylliant y tyddynwyr.
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan Gwasg Gee yn 1960.
Dolen allanol
- Llun o'r Lôn Wen ar wefan Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts