Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: lad:Iglesia Ortodoksa |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: mwl:Eigreija Ortodoxa |
||
Llinell 56: | Llinell 56: | ||
[[mk:Православие]] |
[[mk:Православие]] |
||
[[ml:ഓര്ത്തഡോക്സ് പൗരസ്ത്യ സഭ]] |
[[ml:ഓര്ത്തഡോക്സ് പൗരസ്ത്യ സഭ]] |
||
[[mwl:Eigreija Ortodoxa]] |
|||
[[nah:Iglesia Ortodoxa]] |
[[nah:Iglesia Ortodoxa]] |
||
[[nl:Oosters-orthodoxe Kerk]] |
[[nl:Oosters-orthodoxe Kerk]] |
Fersiwn yn ôl 22:09, 18 Medi 2009
ON Ni ddylid drysu'r Eglwys hon ag Eglwys y tri chyngor, a elwir yn Oriental yn Saesneg.
Ail enwad Gristnogol fwya'r byd, a'r mwyaf o'r Eglwysi Uniongred, gyda rhwng 150 a 350 o ddilynwyr, yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Fe wahanodd o Eglwys y tri chyngor ym 451, ac o'r Eglwys Gatholig Rufeinig ym 1054. Prif grefydd Belarus (89%), Bulgaria (86%), Gweriniaeth Cyprus (88%), Georgia (89%), Gwlad Groeg (98%), Macedonia (70%), Moldova (98%), Montenegro (84%), Romania (89%), Ffederasiwn Rwsia (76%), Serbia (88%), ac Wcráin (83%) ydyw, a cheir niferoedd sylweddol mewn gwledydd eraill.
Ymrannodd yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a'r Eglwys Gatholig oddi wrth ei gilydd yn y Sgism Fawr neu'r Sgism Ddwyreiniol fel y'i gelwir weithiau, (Groeg schisma). Dechreuodd yn 857 pan ysgymunwyd Photius, Patriarch Caergystennin gan y Pab Sant Nicolas I (858 - 867). Ymatebodd y patriarch drwy herio uniongrededd Eglwys Rhufain, yn arbennig yn achos cymal yng Nghredo Nicea ynglŷn â tharddiad yr Ysbryd Glân o Grist (y cymal filioque "ac o'r Mab..").
Daeth yr anghydfod i'w uchafbwynt cyntaf yn 1054 pan ysgymunwyd y patriarch Cerularius o Gaergystennin (1043 - 1058) am iddo feirniadu gwyryfdod fynachaidd orfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion hereticaidd. Er gwaethaf ymgeision i gymodi yn Ail Gyngor Lyons yn 1274 a Chyngor Fflorens yn 1439, daeth y rhwyg terfynol yn 1472. Un ffactor a arweiniodd at y rhwyg terfynol oedd ymddygiad y Croesgadwyr yn ymosod ar Gristnogion ac eglwysi uniongred yn Asia Leiaf a'r Lefant, gan gynnwys ymosod ar Gaergystennin ei hun a'i dal (1204 - 1261).