Æthelfrith o Northumbria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Brenin [[Brynaich]] a [[Deira]] oedd '''Æthelfrith''' (bu farw tua 616). Teyrnasodd ym Mrynaich (''Bernicia'') o tua 593 hyd tua 616; ef hefyd, o tua 604 ymlaen, oedd y brenin cyntaf o Frynaich i reoli teyrnas Deira, i'r de o Frynaich. Gan mai Deira a Brynaich oedd y ddwy uned sylfaenol yn yr hyn a ddaeth yn [[Northumbria]] yn ddiweddarach, ystyrir Æthelfrith yn frenin cyntaf - ''[[de facto]]'' - teyrnas Northumbria gan haneswyr. Enillodd sawl brwydr yn erbyn [[Brythoniaid]] yr [[Hen Ogledd]], a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]], a chafodd fuddugoliaeth bwysig dros [[Gael]] [[Dál Riata]]. Er iddo gael ei orchyfygu a'i ladd mewn brwydr ac i'w orsedd gael ei chipio gan un o'i elynion, adferwyd ei linach yn y 630au.
Brenin [[Brynaich]] a [[Deifr]] oedd '''Æthelfrith''' (bu farw tua 616). Teyrnasodd ym Mrynaich (''Bernicia'') o tua 593 hyd tua 616; ef hefyd, o tua 604 ymlaen, oedd y brenin cyntaf o Frynaich i reoli teyrnas Deifr (''Deira''), i'r de o Frynaich. Gan mai Deifr a Brynaich oedd y ddwy uned sylfaenol yn yr hyn a ddaeth yn [[Northumbria]] yn ddiweddarach, ystyrir Æthelfrith yn frenin cyntaf - ''[[de facto]]'' - teyrnas Northumbria gan haneswyr. Enillodd sawl brwydr yn erbyn [[Brythoniaid]] yr [[Hen Ogledd]], a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]], a chafodd fuddugoliaeth bwysig dros [[Gael]] [[Dál Riata]]. Er iddo gael ei orchyfygu a'i ladd mewn brwydr ac i'w orsedd gael ei chipio gan un o'i elynion, adferwyd ei linach yn y 630au.


Roedd Æthelfrith yn fab i [[Æthelric]] ac felly'n ŵyr i [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], ac ymddangos iddo olynu [[Hussa]] fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym [[Brwydr Catraeth|Mrwydr Catraeth]] (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr [[Gododdin]] a goffeir yn y gerdd arwrol ''[[Y Gododdin]]]'', gan [[Aneirin]].
Roedd Æthelfrith yn fab i [[Æthelric]] ac felly'n ŵyr i [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], ac ymddangos iddo olynu [[Hussa]] fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym [[Brwydr Catraeth|Mrwydr Catraeth]] (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr [[Gododdin]] a goffeir yn y gerdd arwrol ''[[Y Gododdin]]]'', gan [[Aneirin]].
Llinell 9: Llinell 9:
[[Categori:Marwolaethau 616]]
[[Categori:Marwolaethau 616]]
[[Categori:Brenhinoedd Brynaich]]
[[Categori:Brenhinoedd Brynaich]]
[[Categori:Brenhinoedd Deifr]]


{{eginyn hanes}}
{{eginyn hanes}}

Fersiwn yn ôl 22:51, 17 Medi 2009

Brenin Brynaich a Deifr oedd Æthelfrith (bu farw tua 616). Teyrnasodd ym Mrynaich (Bernicia) o tua 593 hyd tua 616; ef hefyd, o tua 604 ymlaen, oedd y brenin cyntaf o Frynaich i reoli teyrnas Deifr (Deira), i'r de o Frynaich. Gan mai Deifr a Brynaich oedd y ddwy uned sylfaenol yn yr hyn a ddaeth yn Northumbria yn ddiweddarach, ystyrir Æthelfrith yn frenin cyntaf - de facto - teyrnas Northumbria gan haneswyr. Enillodd sawl brwydr yn erbyn Brythoniaid yr Hen Ogledd, a Gwynedd a Phowys, a chafodd fuddugoliaeth bwysig dros Gael Dál Riata. Er iddo gael ei orchyfygu a'i ladd mewn brwydr ac i'w orsedd gael ei chipio gan un o'i elynion, adferwyd ei linach yn y 630au.

Roedd Æthelfrith yn fab i Æthelric ac felly'n ŵyr i Ida, ac ymddangos iddo olynu Hussa fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym Mrwydr Catraeth (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr Gododdin a goffeir yn y gerdd arwrol Y Gododdin], gan Aneirin.

Rhwng 613 a 616, ymosododd Æthelfrith deyrnas Powys ac enillodd Frwydr Caer; lladdwyd Selyf ap Cynan, brenin Powys yno. Ymsododd ar fynachod clas Brythonig Bangor Is Coed hefyd, a oedd wedi ymgynull i weddïo dros fuddugoliaeth i'r Cymry, yn ôl yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda, ac eraill. Dywedir fod 1200 wedi eu lladd gan filwyr Æthelfrith ac mae dim ond 50 a ddihangodd. Ystyrir y frwydr hon fel un dyngedfennol yn hanes Cymru, Lloegr a Phrydain, a wahanodd Brythoniaid Cymru oddi ar eu cymdogion yn yr Hen Ogledd.

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.