Canolbarth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
|||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
*[[Powys]] |
*[[Powys]] |
||
*[[Rhanbarthau Cymru]] |
*[[Rhanbarthau Cymru]] |
||
{{Rhanbarthau Cymru}} |
{{Rhanbarthau Cymru}} |
||
Llinell 35: | Llinell 36: | ||
[[Categori:Canolbarth Cymru| ]] |
[[Categori:Canolbarth Cymru| ]] |
||
[[Categori:Rhanbarthau Cymru]] |
[[Categori:Rhanbarthau Cymru]] |
||
{{eginyn Cymru}} |
{{eginyn daearyddiaeth Cymru}} |
||
[[en:Mid Wales]] |
[[en:Mid Wales]] |
Fersiwn yn ôl 16:52, 14 Medi 2009
Un o ranbarthau answyddogol Cymru sydd yng nghanol y wlad yw Canolbarth Cymru. Mae'n ffinio â Gogledd Cymru i'r gogledd, Gororau Lloegr i'r dwyrain, De a Gorllewin Cymru i'r de a Bae Ceredigion i'r gorllewin. Mae'n cynnwys bryniau'r Elenydd, Fforest Faesyfed a rhan o'r Berwyn, a'r afonydd Teifi, Gwy, Hafren ac Ystwyth.
Disgrifiad
Yn hanesyddol, roedd Canolbarth Cymru yn cynnwys Teyrnas Powys a gogledd-ddwyrain Teyrnas Deheubarth. Heddiw, mae'n cynnwys siroedd Ceredigion a Phowys.
Ceir ymraniadau sylweddol yn ddaearyddol a diwylliannol o fewn y rhanbarth. I'r gorllewin o fynydd Pumlumon a bryniau Elenydd ceir Ceredigion, sir sy'n wynebu ar Fae Ceredigion ac yn perthyn yn agosach, yn hanesyddol, i Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin (de-orllewin Cymru) nag i Bowys. Mae Powys yntau, sef dwyrain y rhanbarth, yn llawer mwy Cymraeg yn y parthau gorllewinol nag yn yr ardaloedd ar hyd y ffin â Lloegr a fu'n rhan o'r Mers canoloesol. Mae cryn wahaniaeth rhwng gogledd a de Powys hefyd.
Unedau gweinyddol, hen a newydd
Siroedd presennol
Creuwyd y siroedd presennol fel awdurdodau unedol yn 1996.
Siroedd cadwedig
Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.
- Dyfed (gorwedd Ceredigion yng ngogledd yr hen sir)
- Powys (mae Powys heddiw yn dal i gyfrif fel 'sir gadwedig' yn ogystal â bod yn awdurdod unedol cyfoes)
Siroedd cyn 1974
Creuwyd y siroedd hyn dan y drefn Seisnig rhwng 1284 a 1536. Cawsont eu dileu neu eu hail-lunio yn 1974.
- Sir Aberteifi (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i sir Ceredigion heddiw)
- Sir Frycheiniog
- Sir Faesyfed
- Sir Faldwyn
Gweler hefyd
Rhanbarthau Cymru | |
---|---|
Canolbarth | De | Gogledd | Gorllewin |