Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jayvdb (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 165: Llinell 165:


Hi, could you please rename my account to "John Vandenberg". see [[meta:User_talk:John_Vandenberg#global_rename_confirmation]]. Thank you. [[Defnyddiwr:Jayvdb|John Vandenberg]] 22:17, 12 Medi 2009 (UTC)
Hi, could you please rename my account to "John Vandenberg". see [[meta:User_talk:John_Vandenberg#global_rename_confirmation]]. Thank you. [[Defnyddiwr:Jayvdb|John Vandenberg]] 22:17, 12 Medi 2009 (UTC)
:No problem - I'll do it now. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 22:18, 12 Medi 2009 (UTC)

Fersiwn yn ôl 22:18, 12 Medi 2009

Croeso i fy nhudalen Sgwrs. Os gadewch neges i mi yma byddaf yn ei hateb ar y dudalen hon (efallai yr hoffech roi'r dudalen ar eich rhestr gwylio, dros dro). Os gadawaf neges ar eich tudalen chwi byddaf yn gwylio'r dudalen a chewch roi'r ateb i mi yno.

I gychwyn trafodaeth newydd yma cliciwch ar y tab gyda chroes ("+") arno uchod yn hytrach na'r tab "Golygu" wrth ei ymyl, os gwelwch yn dda.


Bwrdd yr Iaith

Henffych gyfaill. Gadewais neges fechan yn pwysig i ti oherwydd dy ymwneud a ByrIG ar Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl. Os cei gyfle.... Llywelyn2000 19:26, 29 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Hawddamor, Llywelyn! Dwi nôl yma yn rhy hwyr yn y dydd/gynnar yn y bore i wneud rhywbeth amdano rwan, ond mae angen "symud ymlaen" gyda hyn. Atgoffa fi eto os dwi'n anghofio. Dwi heb glywed gair gan y Bwrdd ers misoedd - typical o'n sefydliadau parchus ni! Gwell i ni drefnu ymgyrch, mae'n debyg. Beth am gysylltu ag UCAC, er enghraifft? Basa ti'n fodlon gwneud hynny? Mae gennym dudalen gwe yn rhad ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru, mond iddyn nhw eu "mabwysiadu" (a'u trefi/pentrefi/cymunedau lleol hefyd, fel prosiectau?)
Un syniad sy gen i ydy ceisio perswadio'r Bwrdd i noddi'r Wicipedia yn anuniongyrchol trwy dalu am gyfres o hysbysebion i ni yn y papurau bro, pob wan jac o nhw am flwyddyn gron. Ydy hynny'n syniad da neu ydw i'n bod yn rhy optimistig o lawer? Bychan fyddai'r gost iddyn nhw mewn gwirionedd. Amser i fod yn ddigywilydd o hy efallai? Pwysleisio dro ar ôl tro: 23,000 o erthyglau Cymraeg, mwy nag a fu erioed mewn unrhyw wyddionadur neu gyfeirlyfr Cymraeg, ac ar bob pwnc dan haul... Hwyl, Anatiomaros 23:37, 29 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Syniad da. Mi ffoniai Emrys, Llywydd UCAC fory. Tithau: fwrdd yr iaith a'r papurau bro. Cyhoeddusrwydd ydy hyn, yn te. Mae ei angen. Mae angen y niferoedd arnom; arbenigwyr yn eu maes i ofalu am eu maes. Oes yna bobl eraill yn darllen y llith hwn y medran nhw WNEUD rhywbeth tebyg? Mae CBAC wedi arwain y ffordd ar eu tudalen nhw. Un pwynt bach ynglyn a'r cymal am niferoedd yr erthygl, Anatiomaros: efallai fod mireinio a chywiro'r erthyglau bychan, gwan, yn bwysicach na dim, bellach. Mi drof at erthygl arall yn y Caffi rwan, ysgogi'r Blaid i greu deddfwriaeth newydd. Llywelyn2000 21:54, 30 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Ardderchog Llywelyn. Mi sgwenna i at y Bwrdd eto a chodi'r cwestiwn. Efallai wnes i bentyrru gormod o bethau ar ben ei gilydd y tro dwetha a'i bod yn well i ganolbwyntio ar un peth ar y tro. Rhaid i mi gyfadde 'mod i'n siomedig braidd yn eu hagwedd hyd yn hyn - wedi gaddo cysylltu "yn y flwyddyn newydd" ond heb wneud, ac yn wir heb wneud rhyw lawer o gwbl. Fel 'na mae hi. Dwi ddim yn disgwyl gwyrthiau dros nos ond mae 'na bethau wnes i awgrymu na fyddai'n golygu aberth mewn amser nac arian o'u rhan nhw ac mae nhw heb wneud dim. Hoffi dy syniad o drafod gyda'r Blaid, gadewais nodyn yn y Caffi. Hwyl, Anatiomaros 22:46, 30 Mai 2009 (UTC)[ateb]
ON Rwyt ti'n iawn am yr eginau, wrth gwrs, ond dyna pam 'dan ni angen fwy o bobl.... Anatiomaros 22:47, 30 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Gwych. Ymlaen! Llywelyn2000 23:05, 30 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi sgwennu at y Bwrdd eto i ofyn iddyn nhw ystyried o ddifri y posiblrwydd o noddi'r Wicipedia yn aniongyrchol trwy dalu am gyfres o hysbysebion yn y papurau bro a/neu Golwg. Rhy gynnar eto i ddisgwyl ateb ond mi roddaf y manylion yn yr atodiad i'r Caffi (25,000 erthygl) pan ddaw. Anatiomaros 16:44, 1 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]


Tom.G.Cartwright - Llun Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy

Helo Cefaid dy neges ond ga i ofyn os y caf roi fy enw ar y llun oherwydd llun a dynnwyd gannyf fi oedd hi.

Plis ymatebwch Diolch

Sori i dorri ar draws, ond rhag ofn nad yw Anatimaros yn gweld hwn am sebl, mi geisiaf ateb dy gwestiwn. Pan yn uwchlwytho llun, mae cyfle i osod unrhyw wybodaeth yn y blwch sylw, sydd wedyn i'w weld ar dudalen y ddelwedd (uwchlwythais y llun yma gyda chaniatad Emma Rees a'i dynnodd, a nodais hynny yn y sylw). Dyna'r unig fan ble fyddai'r enw yn ymddangos. Dim ond delweddau rhydd (h.y. dim hawlfraint) sy'n cael eu gosod ar y wicipedia.--Ben Bore 20:15, 17 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am ymateb, Ben. Dwi'n meddwl fod hynny'n esbonio'r sefyllfa. Hefyd, fel wnes i ddweud wrth Tom ar ei dudalen sgwrs, hyd yn oed pe bai'n iawn yn ôl ein rheolau dydy hi ddim yn syniad da i roi ei enw a'i gyfeiriad i bawb yn y byd eu gweld. Anatiomaros 20:21, 17 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Oce Felly. Ond ydy hi'n bosib i ddileu y tudalen gyda llun y neuadd ac yr ysgol i mi gael ei uwchlwytho eto oherwydd mae un llun wedi cael ei uwchlwytho yn ddamweinil ar y dudalen gyda llun yr neuadd.
Diolch.

Dileu y llun ei hun, rwyt ti'n feddwl? Iawn, dim problem, wna'i edrych rwan. Anatiomaros 19:03, 19 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
A, mae 'na broblem. Am fod dau lun yno ni fedraf ddileu'r un diweddaraf heb ddileu'r un cyntaf hefyd. Y peth gorau i'w wneud ydy i ti lwytho dy fersiwn newydd; dylai neges dod i fyny yn gofyn os wyt ti isio i'r llun newydd gymryd lle'r hen un. Gwna hynny a dylai popeth fod yn iawn, dwi'n meddwl (dwi ddim wedi trio hyn o'r blaen chwaith!). Anatiomaros 19:09, 19 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Helo

Helo Anatiomaros,

Ia, sori am hyn. Pan wnes i gofrestru am y Wiki Saesneg, roedd popeth yn iawn, ac roeddwn i'n meddwl roeddwn i'n gallu defnyddio'r cyfrif "xxglennxx" fel cyfrif inter-Wici, ond doedd e ddim yn gweithio, felly cofrestrais i am y Wici-Cymraeg efo enw defnyddiwr arall. Oes modd cadw'r dau, fel cyfuno nhw? Os nid, bydd rhaid imi ddileu'r cyfrif "Wiccan1" a defnyddio "xxglennxx" ar y Wici yma. Wiccan1 22:36, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

S'mae Wiccan1? Roeddwn i'n siwr mai camgymeriad bach diniwed oedd hyn, wrth gwrs, ond mae'r rheolau yn gadarn: does neb yn fod i gael dau gyfrif ar yr un wicipedia "lleol" a dydyn nhw ddim yn fod i gael mwy nag un cyfrif traws-wici chwaith, wrth gwrs (mae rhai pobl yn gwneud hynny er mwyn chwarae castiau o bob math, bod yn fandaliaid ayyb). Dwi ddim yn siwr os dwi'n deall yn iawn. Ydy "xxglennxx" yn gyfrif rhyngwici neu beidio, felly? Os ydy o, bydd rhaid dileu'r cyfrif "Wiccan1" ar y wici Cymraeg a defnyddio'r llall. Os nad ydy o, mi gei di'r dewis pa un i'w gadw yma. Dwi'n defnyddio enw arall ar 'en:', er enghraifft, achos roedd rhywun yn defnyddio'r enw Anatiomaros yno yn barod (ond Anatiomaros yw fy enw cyfrif ar 'fr:' ac ambell un arall hefyd): mae hynny'n iawn ond yn dipyn o niwsans achos fedra'i ddim creu cyfrif rhyngwici wrth yr enw 'Anatiomaros' (drap!). I fyny i ti, felly. Hwyl, Anatiomaros 00:12, 19 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Heia, dwi'n iawn diolch. Chdithau? Na, rwyt yn iawn - dwi'n meddwl bod cyfrif "xxglennxx" yn rhyngwici, oherwydd dwi'n gallu ychwanegu ac newid erthyglau ym mhob iaith (Saesneg, Saesneg Syml, Cymraeg ayyb) efo'r cyfrif hwnnw, ond dwi'n gallu defnyddio'r cyfrif hwn (Wiccan1) efo'r Wici Cymraeg. Ai fydd yn dileu'r cyfrif hwn ddileu fy ychwanegiadau? Wiccan1 22:17, 19 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n drwg gen i am fod mor hir yn ymateb. Diolch am egluro'r sefyllfa. Dwi'n meddwl mai dileu'r cyfrif 'Wiccan1' sydd orau, felly. Y dewis arall fyddai blocio'r cyfrif (gyda nodyn i esbonio'r sefyllfa). Wna'i ofyn i Deb be sydd orau; mae ganddi fwy o brofiad na fi. Beth bynnag, fydd y naill peth na'r llall ddim yn effeithio ar dy gyfraniadau. Gyda llaw, ai un cyfrif yn unig sy gen ti ar y wici Saesneg? Rhaid bod yn ofalus fan 'na! Hwyl am rwan, Anatiomaros 19:29, 20 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Heia, 'sdim ots mun. Dwi newydd geisio dileu'r cyfrif hwn, ond does dim hawl imi - dwi wedi edrych ym mhob man, ond dyw e ddim yna i ddileu'r cyfrif. Efallai gwnaf i roi nodyn ar fy nhudalen Wiccan1 ar y Wici Cymraeg o ddweud rhywbeth fel 'dwi ddim yn defnyddio'r cyfrif hwn yn bellach . . . .' yn Saesneg hefyd, jyst rhag ofn. Oes, mae gen i un gyfrif yn unig ar y Wici Saesneg, sef Xxglennxx, ond dwi'n defnyddio'r enw hwnnw ar y Saesneg Syml hefyd. Wiccan1 20:04, 20 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Na, dydy hyd yn oed gweinyddwr ddim yn medru dileu cyfrif rhywun (er mwyn diogelwch). Dwi wedi gadael nodyn i Deb. Rhag ofn ei bod hi ar y wici Saesneg rwan wna'i ofyn iddi fan 'na hefyd. Dwi erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hyn. Hyd yn oed fel biwrocrat does gen i ddim hawl i ddileu cyfrif a basa'n rhaid gofyn i rywun ar 'metawiki', dwi'n meddwl: ond mi fedra'i ddychymygu'r broses biwrocrataidd! Mi fedra'i symud cyfrif (h.y. ei symud i enw newydd), ond dwi ddim yn meddwl fod hynny'n help yma gan fod dy gyfrif trawswici yn bod yma yn barod. Dryswch! Ond paid a phoeni, wnawn ni sortio pethau allan i ti. Hwyl, Anatiomaros 20:12, 20 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Helo 'to. Do, gwnes i adael neges bach yn barod yno, ond mi roedd creoso'n barod i ti ailosod neges dy hun, felly diolch. Ni gwnaf i ddefnyddio'r cyfrif hwnnw'n bellach, OND mi roddaf neges ddwyeithiog yno, jyst rhag ofn. Diolch eto :D Xxglennxx 00:33, 23 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Card Penblwydd Hapus

Hi Fôn, Dw i wedi prynu card Cymraeg i fy nai. Mae o'n un oed y Gorffennaf hon. Dw i'n eisiau ysgrifnnu neges Cymraeg, ond dw i'n eisiau i fod cywir yn llwyr efo fy ngeiriau. Please could you translate these two lines [or the Welsh equivalents] as they would naturally be written by a North Walian to a child:

  • To [name]
  • Love from [name]

I know these lines are simple to translate, but I do want to make sure I'm accurate. Diolch yn fawr iawn, Paul-L 22:28, 11 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Hi Paul, sut mae? Sorry for taking so long to reply but I've only just noticed this now. What I would suggest is:
  • I [enw]
  • Gyda chariad i ti, oddi wrth [enw] (or 'gyda chariad i ti ar dy benblwydd, oddi wrth'; many people would use 'gan' instead of 'oddi wrth', which is a bit formal)
Hope that helps and that your nephew has a great birthday: Penblwydd Hapus iddo! Anatiomaros 19:22, 13 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr iawn! Paul-L 09:06, 16 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
My nephew enjoyed the card... well, I say 'enjoyed', but he was more interested in playing with a cushion. The printed message in the card was 'Penblwydd Hapus a Hywl Fawr', which, as a sender and receiver of English-language cards for years, did seem a bit unusual to me! Paul-L 19:02, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Glad to hear that, Paul. Great when they're that age: just give them the wrapping paper rather than the present and they're happy! (My nephew's about the same age).
That's so true! He got lots of new toys for Christmas, and the only thing he wanted to play with?... the TV remote control!
Re: Vocab etc. I'm not sure you're missing too much. Basically we can't get the b** script to work, so it seems we're stuck. The WLB and Vocab have been in touch again but I really don't know what to say. I think the links given at Sgwrs nodyn:Vocab have English versions available: do you have any clue about adapting the script found there? I've just about given up on it but I'll have to respond to WLB and Vocab soon. I had hoped for more, but it's still an important step forward for us and it seems a pity to have to pass it over (and give the impression we're a bunch of amateurs at the same time - true of course, but...). Don't worry if you can't help. Hwyl, Anatiomaros 20:02, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Programming is one of the weaker points in my knowledge of computing, so I can't work it out. Perhaps a good solution would be to write something like "Please Note: At the present time BBC Vocab can only be used when not logged in." under the 'Troi Ymlaen' in the Vocab box. This should satisfy the WLB & BBC Vocab, and give somebody here more time to work it out. Paul-L 22:04, 26 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
P.S. I could try to work it out, as I've now got a fixed Internet connection, but I'll be going away for a week in the next few days, so using the above solution means I could look at it again when I get back. Paul-L 22:04, 26 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr i ti, Paul. Paid a phoeni amdano - we'll sort something out. Mwynhea dy wyliau! Anatiomaros 22:31, 26 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
I haven't been on holiday, I have been staying with a relative (with no Internet connection), and I will be going back there tomorrow (Dydd Gwener). I've had another quick look at Vocab, and still can't work anything out, so I'll go back to formatting pages. Paul-L 19:22, 6 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Cyfieithu

Thanks for that Mtaylor848 17:36, 16 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

You're welcome. If you can think of any other useful "formulas" let me know! Anatiomaros 17:38, 16 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

I do agree in principle - it's just that I feel I don't have sufficient understanding to give any guidance. Deb 18:23, 19 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Treigladau

Dw'i wedi rhoi'r taflenni treiglad i mewn i'r erthygl Treiglad. Gobeithio bod y Gymraeg yn gwyir - s'gen i ddim Cymraeg rhugl. -- Shimmin Beg 21:19, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr i ti am hynny, Shimmin Beg. Paid â phoeni o gwbl am safon dy Gymraeg - mae'n well o lawer na llawer o'r cyfranwyr sy'n dod yma, yn Gymry a dysgwyr! Wna' i fwrw golwg dros y taflenni yn nes ymlaen. Diolch eto, Anatiomaros 21:23, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Daily Post - y diweddaraf

Beth ydy'r diweddaraf:

Bydd Dafydd Wigley yn cyfrannu blog rheolaidd ar y safle a bydd gan Ieuan Wyn Jones, arweinydd presennol Plaid Cymru, flog ar faterion sy'n ymwneud â byd busnes. Bwriedir sefydlu blogiau eraill gan ffigyrau amlwg ar y safle.

Dwi'n meddwl fod un neu ddau o bethau sydd angen eu diweddaru yma. Diolch rhen goes. Llywelyn2000 16:40, 1 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Felly hefyd: Llyfrgell Ganolog Caerdydd Gobeithir agor yr adeilad newydd ym Medi 2008. Llywelyn2000 16:48, 1 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Un arall: Afon Menai - Gobeithir troi'r rhan fwyaf o'r Fenai yn Warchodfa Morwrol yn y dyfodol agos. Ydy hynny wedi digwydd? Rho wybod i mi os wyt ti isio cymorth i ddiweddaru'r pethau yma. Llywelyn2000 16:55, 1 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Chwifiwn ein baneri...

Diolch am dy waith ar y baneri a'r testun. Buost wych, fel arfer! Un mater bach: cymer olwg yn y caffi; sgin ti sylwadau ar fy awgrym am y dyddiadau? Tipyn o waith, ond mae'n well cysoni rwan nac ar ol 40,000 o erthyglau! Llywelyn2000 21:10, 2 Awst 2009 (UTC)[ateb]

OCe. Ie, Bot ydy'r ffordd ymlaen. Mae hwnnw wedi'i sefydlu ar Scgript Peithon, ac mae gen i tipyn o hwnnw (neu mi oedd!). OND, mae'n rhaid i Fiwrocrat roi ei ganiatad, Mr Anatiomaros, Syr... Wnei di gymryd cip ar Steward requests/Bot status a mi weli ddolen o'r enw Special:UserRights. Bydd yn rhaid aros wythnos, rhag ofn fod unrhyw un o'r criw'n gwrthwynebu. Llywelyn2000 22:57, 2 Awst 2009 (UTC)
Unrhyw newydd am hyn, Llywelyn? Cofia bydd angen botwm mawr coch gyda STOP! arno i'w ddiffodd mewn argyfwng, rhag ofn... Anatiomaros 23:00, 4 Awst 2009 (UTC)
Disgwyl i ti fel Biwrocrat (a phawb arall) i roi sel dy / eich bendith ydw i. Fel y gweli uchod, y drefn ydy disgwyl am wythnos cyn bwrw ymlaen. Tydw i ddim yn siwr os wneith y bot y gwaith efo'r dyddiadau ond mae 'na ddigon o jobsys eraill iddo. Ac mae'n bryd i ni Wici gael un! Llywelyn2000 23:17, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Os oes gen ti un sy'n barod i redeg, gwna arbrawf bach ar bob cyfri. Mae'r 'bot status requests' ar gyfer rhoi statws bot ar ôl cyfnod o redeg y bot fel arbrawf, felly does dim problem hyd y gwelaf i, ond wna'i siecio'r manylion eto (fel arfer mae bot o rywle neu'i gilydd yn troi i fyny ac yn dechrau golygu, dim ond wedyn, os ydy o'n gweithio'n iawn, mae'n cael statws bot). Anatiomaros 23:24, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Grant or revoke bot status : A local bureaucrat can use this page to grant or revoke bot status to another user account. Bot status hides a user's edits from recent changes and similar lists, and is useful for flagging users who make automated edits. This should be done in accordance with applicable policies. Anatiomaros 23:26, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]

24,000

Nice to get to 24,000th article. Cheers for the template on which I have based the pages. Mtaylor848 22:06, 6 Awst 2009 (UTC)[ateb]

You're welcome. Sorry we don't give out prizes! Anatiomaros 22:12, 6 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Seibiant i'r Bot Wici

Oherwydd yr anghydfod diweddar penderfynais mai cael seibiant am ychydig o ddyddiau oedd y peth gorau i'w wneud yn yr amgylchiadau, rhag ofn i bethau fynd o ddrwg i waeth. Mae 'ychydig o ddyddiau' wedi troi'n wythnos gron, ond dwi am ailgydio yn y gwaith wici unwaith yn rhagor rwan. Roedd yn hen bryd i mi gael brêc bach, beth bynnag. Dwi wedi bod yn cyfrannu yma yn rheolaidd am dros dair blynedd erbyn hyn ac mae pawb yn cyrraedd y pwynt lle mae angen newid am sbel. Ers peth amser rwan dwi wedi bod yn meddwl am deithio - am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd - a rhoddodd y seibiant o wythnos y cyfle i mi feddwl am hynny a chwilio am ffleit am bris rhesymol. Y canlyniad : byddaf yn mynd ar daith i Foroco (neu'n hytrach 'Moroc-co', chwedl "arbenigwyr" mawr eu parch Bwrdd yr Iaith Gymraeg?!) am saith wythnos yn dechrau ddiwedd mis Hydref gan dychwelyd i Wlad y Gân ganol Rhagfyr. Falle bydd cyfle i daro ambell erthygl i mewn o fynyddoedd yr Atlas neu babell yn y Sahara, pwy a ŵyr, er bod caffi rhyngrwyd modern ym Marrakech neu Gasablanca yn fwy ymarferol ;-)

Gobeithio wnes i ddim digaloni neb. Un peth dwi wedi sylweddoli dros yr wythnos ddwetha ydy bod y Wicipedia yn fy ngwaed erbyn hyn, felly ymlaen â ni! Anatiomaros 22:11, 22 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi bod yn poeni braidd, ac yn falch iawn o dy weld yn ôl. Allwn ni ddim fforddio dy golli. Pob hwyl yn "y lle yna yng ngogledd Affrica"! Mi fyddaf fi i ffwrdd yn Seland Newydd am fis yn ail hanner Medi a hanner cyntaf Hydref. Rhion 06:19, 23 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Le Roi Est Mort, Vive Le Roi! Ac roedd y tawelwch fel bwcediad o ddwr oer am fy mhen! Croeso'n ol, gyfaill. Mae gen i lawer i ddysgu gen ti. Llywelyn2000 09:42, 23 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch o'r galon! Anatiomaros 16:22, 23 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Croeso 'nôl, roedd Wicipedia'n dlotach yn dy absenoldeb. :) --Adam (Sgwrs) 19:38, 24 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Adam. Mae'n braf bod yn ôl yma hefyd, yn yr hen gynefin! Anatiomaros 19:45, 24 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Bonjour, Pourriez-vous transférer sur commons la belle photographie de Chimtou afin que nous puissions l'utiliser dans les articles francophones ? Merci d'avance. Pradigue 22:19, 23 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Bonjour, Pradigue. Soyez le bienvenu au wicipédia gallophone! La photographie de Chimtou s'est transferée sur commons sous le même nom - File:Chimtou0505-03-Forum.jpg. Cordialement, Anatiomaros 20:20, 24 Awst 2009 (UTC)[ateb]

[dim teitl]

wyt ti'n foslem? Jjabertawe 17:40, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Nac ydwyf. "Annibynwr" go iawn, heb berthyn i unrhyw enwad neu gredo grefyddol arbennig. Pam? Anatiomaros 17:53, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]
wyt ti'n gwerthfawrogi'r rhyddid i wneud y penderfyniad 'na, neu, a fyddai well gen ti fyw mewn theocratiaeth islamaidd? Jjabertawe 18:00, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Tyrd o 'na. Be 'dy'r pwynt mewn hyn? Os wyt ti'n cyfeirio at yr erthygl am Lain Gaza, roedd pobl eraill wedi cyfrannu i'r drafodaeth - a'r erthygl - a'r dudalen Sgwrs ydy'r lle i drafod hynny. Os wyt ti isio gwybod, baswn i ddim yn dymuno byw mewn unrhyw theocratiaeth, Islamaidd, Gristnogol neu beth bynnag. Dwi'n parchu pob crefydd, yn cynnwys Iddewiaeth. Wyt ti? Anatiomaros 18:10, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]
odw, dwi'n parchu pob crefydd. y rheswm dwi'n gofyn yw oherwydd wi'n Iddew yn abertawe, ac mae nghymuned iddewig yn diodde erledigaeth ddyddiol gan y gymuned foslemiaid a phan ŷnni'n mynd i'r heddlu, sonhw'n neud dim byd achos maen nhw'n ofni'r moslemiaid. dwi'm yn cefnogi israel yn fawr ond dwi di cael digon o glywed pa mor fendigedig yw'r byd islamaidd a pha mor ddrygionus ŷnni iddewon a dyna pam dwi'n gwylltio pan dwi'n gweld tuedd ar gyfryngau rhyddfryddol fel wicipedia sy'n hyrwyddo amlddiwylliant eithafol a fydd yn arwain at chwyldro Islamaidd ym Mhrydain mewn rhyw 50 mlynedd. Jjabertawe 18:28, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Jayvdb rename request

Hi, could you please rename my account to "John Vandenberg". see meta:User_talk:John_Vandenberg#global_rename_confirmation. Thank you. John Vandenberg 22:17, 12 Medi 2009 (UTC)[ateb]

No problem - I'll do it now. Anatiomaros 22:18, 12 Medi 2009 (UTC)[ateb]