Gwain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ie:Vágine |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ga:Faighin; cosmetic changes |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Tiwb sy'n arwain o'r [[organau cenhedlu]] allanol i'r [[croth|groth]] mewn [[mamal]] benywaidd yw'r '''wain''' neu'r '''fagina''' (o'r [[Lladin]] ''uāgīna''). Ar lafar: 'cont'. |
Tiwb sy'n arwain o'r [[organau cenhedlu]] allanol i'r [[croth|groth]] mewn [[mamal]] benywaidd yw'r '''wain''' neu'r '''fagina''' (o'r [[Lladin]] ''uāgīna''). Ar lafar: 'cont'. |
||
==Anatomeg== |
== Anatomeg == |
||
Mae gwain dynes oddeutu 10[[cm]] o hir, a 25mm mewn diamedr (er fod llawer o amrywiaeth o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na'r [[pidyn|phidyn]] cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o hyblyg, sy'n galluogi [[genedigaeth]] a [[cyfathrach rywiol|chyfathrach rywiol]]. Mae'n cysylltu gyda'r fwlfa ar y tu allan, a [[ceg y groth|cheg y groth]] ar y tu fewn. Pan fo dynes yn sefyll mae'r fagina a'r [[croth|groth]] yn ffurfio [[ongl]] o tua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'r [[clitoris]] ac agoriad yr [[wrethra]]. Tu allan i'r wain, mae'r [[labia]] a churn frasderog a elwir [[Mons Veneris|Mwnt Gwener]]. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg i [[pilen mwcws|bilenni mwcws]] mewnol eraill megis tu fewn y geg. |

Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Mewn merched ifanc, mae'r [[hymen]] yn gorchuddio rhan o agoriad y wain, nes iddi gael ei rhwygo drwy [[cyfathrach rywiol|gyfathrach rywiol]], ymarfer corff brwysg, neu rhyw weithgaredd arall megis marchogaeth. Dylid nodi nad yw cyfathrach rywiol yn rhwygo'r hymen o reidrwydd, felly mae'r cysylltiad traddodiadol rhwng yr hymen a gwyryfdod (e.e. yr hen enw [[Cymraeg]], pilen forwyn) yn ofergoel. |

==Swyddogaeth== |
== Swyddogaeth == |
||
O safbwynt [[bioleg |
O safbwynt [[bioleg]]ol, mae'r swyddogaethau canlynol gan y wain: |
||
*Galluogi i'r [[mislif|hylifau mislifol]] adael y corff |
*Galluogi i'r [[mislif|hylifau mislifol]] adael y corff |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
*[[Genedigaeth]] |
*[[Genedigaeth]] |
||
==Gweithgaredd Rhywiol== |
== Gweithgaredd Rhywiol == |
||
[[Delwedd:Vagina -- A vaginal opening B clitoris.png|bawd|A: agoriad y fagina, B: y [[clitoris]]]] |
[[Delwedd:Vagina -- A vaginal opening B clitoris.png|bawd|A: agoriad y fagina, B: y [[clitoris]]]] |
||
Fe all y crynhoad o derfyniadau [[nerf |
Fe all y crynhoad o derfyniadau [[nerf]]ol o gwmpas agoriad y wain darparu ymdeimlad pleserus yn ystod gweithgareddau rhywiol. Gall gweithgaredd o'r fath fod yn [[cyfathrach rywiol|gyfathrach anghyfunrhyw]], symyliad gyda'r dwylo neu gyda [[ffugbidlen]]. Lleolir ardal a gelwir y [[man-G]] ar fur blaen y wain, oddeutu 5[[cm]] o'r agoriad; gall rhai merched brofi pleser angerddol wrth i'r man-G cael ei gosi. Honir fod [[orgasm]] man-G yn gallu arwain at [[alldafliad]] benywaidd. |
||
==Iechyd a hylendid faginaidd== |
== Iechyd a hylendid faginaidd == |
||
Mae'r wain yn organ sy'n llnau ei hun, ac nid oes angen triniaeth arbennig arni. |
Mae'r wain yn organ sy'n llnau ei hun, ac nid oes angen triniaeth arbennig arni. |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
Ymysg yr afiechydon a all effeithio'r wain mae [[cancr y wain]] a [[heintiad burum]]. |
Ymysg yr afiechydon a all effeithio'r wain mae [[cancr y wain]] a [[heintiad burum]]. |
||
==Gweler hefyd== |
== Gweler hefyd == |
||
* [[Organ (bioleg)|Organau]] |
* [[Organ (bioleg)|Organau]] |
||
* [[Anatomeg ddynol]] |
* [[Anatomeg ddynol]] |
||
Llinell 58: | Llinell 58: | ||
[[fr:Vagin]] |
[[fr:Vagin]] |
||
[[fy:Fagina]] |
[[fy:Fagina]] |
||
[[ga:Faighin]] |
|||
[[gan:屄]] |
[[gan:屄]] |
||
[[gd:Faighean]] |
[[gd:Faighean]] |
Fersiwn yn ôl 03:59, 4 Medi 2009
Organau cenhedlu benywaidd |
---|
Tiwb sy'n arwain o'r organau cenhedlu allanol i'r groth mewn mamal benywaidd yw'r wain neu'r fagina (o'r Lladin uāgīna). Ar lafar: 'cont'.
Anatomeg
Mae gwain dynes oddeutu 10cm o hir, a 25mm mewn diamedr (er fod llawer o amrywiaeth o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na'r phidyn cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o hyblyg, sy'n galluogi genedigaeth a chyfathrach rywiol. Mae'n cysylltu gyda'r fwlfa ar y tu allan, a cheg y groth ar y tu fewn. Pan fo dynes yn sefyll mae'r fagina a'r groth yn ffurfio ongl o tua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'r clitoris ac agoriad yr wrethra. Tu allan i'r wain, mae'r labia a churn frasderog a elwir Mwnt Gwener. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg i bilenni mwcws mewnol eraill megis tu fewn y geg.
Mae'r chwarennau Bartholin a lleolir yn dau ben y wain yn gwlychu neu'n iro'r wain rhyw ychydig, ac mae rhywfaint o hylif yn croesi'r mur faginaidd yn ogystal (er nad oes chwarennau arno).
Mewn merched ifanc, mae'r hymen yn gorchuddio rhan o agoriad y wain, nes iddi gael ei rhwygo drwy gyfathrach rywiol, ymarfer corff brwysg, neu rhyw weithgaredd arall megis marchogaeth. Dylid nodi nad yw cyfathrach rywiol yn rhwygo'r hymen o reidrwydd, felly mae'r cysylltiad traddodiadol rhwng yr hymen a gwyryfdod (e.e. yr hen enw Cymraeg, pilen forwyn) yn ofergoel.
Swyddogaeth
O safbwynt biolegol, mae'r swyddogaethau canlynol gan y wain:
- Galluogi i'r hylifau mislifol adael y corff
- Cyfathrach rywiol
- Genedigaeth
Gweithgaredd Rhywiol
Fe all y crynhoad o derfyniadau nerfol o gwmpas agoriad y wain darparu ymdeimlad pleserus yn ystod gweithgareddau rhywiol. Gall gweithgaredd o'r fath fod yn gyfathrach anghyfunrhyw, symyliad gyda'r dwylo neu gyda ffugbidlen. Lleolir ardal a gelwir y man-G ar fur blaen y wain, oddeutu 5cm o'r agoriad; gall rhai merched brofi pleser angerddol wrth i'r man-G cael ei gosi. Honir fod orgasm man-G yn gallu arwain at alldafliad benywaidd.
Iechyd a hylendid faginaidd
Mae'r wain yn organ sy'n llnau ei hun, ac nid oes angen triniaeth arbennig arni.
Archwilir y wain weithiau am resymau meddygol.
Ymysg yr afiechydon a all effeithio'r wain mae cancr y wain a heintiad burum.