Teyrnas Morgannwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
cantrefi a chymydau |
||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
*[[Caradog ap Gruffudd]] ( - 1081) |
*[[Caradog ap Gruffudd]] ( - 1081) |
||
*[[Iestyn ap Gwrgant]] (c. 1081 - 1093) |
*[[Iestyn ap Gwrgant]] (c. 1081 - 1093) |
||
==Cantrefi a chymydau== |
|||
Fel y nodir uchod, amrywiodd ffiniau'r deyrnas. Rhoddir yma gantrefi Morgannwg yng nghyfnod y Normaniaid. |
|||
*[[Gwrinydd|Cantref Gwrinydd]] |
|||
**[[Afan (cwmwd)|Cwmwd Afan]] |
|||
**[[Coety|Cwmwd y Coety]] |
|||
**[[Cynffig (cwmwd)|Cwmwd Cynffig]] |
|||
**[[Glyn Ogwr|Cwmwd Glyn Ogwr]] |
|||
**[[Nedd (cwmwd)|Cwmwd Nedd]] (Glyn Nedd) |
|||
**[[Tir Iarll|Cwmwd Tir Iarll]] |
|||
*[[Gorfynydd|Cantref Gorfynydd]] |
|||
*[[Penychen|Cantref Penychen]] |
|||
**[[Glyn Rhondda|Cwmwd Glyn Rhondda]] (Glynrhondda) |
|||
**[[Meisgyn|Cwmwd Meisgyn]] |
|||
*[[Senghennydd (cantref)|Cantref Senghennydd]] (neu'r [[Cantref Breiniol]]) |
|||
**[[Cibwr|Cwmwd Cibwr]] |
|||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 18:25, 3 Medi 2009
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Yr oedd Teyrnas Morgannwg yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Cymerodd y deyrnas ei henw oddi wrth un o'i brenhinoedd cynnar, Morgan Mwynfawr (fl tua 730). Enw arall arni oedd "Gwlad Morgan", a roddodd Glamorgan.
Cnewyllyn y deyrnas oedd Glywysing, ond ar adegau gallai hefyd gynnwys Gwent a dau o gantrefi Ystrad Tywi, sef fwy neu lai y cyfan o dde-ddwyrain Cymru.
Daeth y deyrnas i ben pan ddiorseddwyd y brenin olaf, Iestyn ap Gwrgant, gan y Norman Robert Fitz Hammo yn 1093. Llwyddodd disgynyddion Iestyn i gadw gafael ar ran o'r diriogaeth fel Arglwyddi Afan. O hynny allan, cyfyngwyd Morgannwg fel uned i'r ardal sy'n gorwedd rhwng afonydd Nedd a Thaf. Ychwanegwyd arglwyddiaeth Gŵyr i greu sir newydd Forgannwg trwy Ddeddf Uno 1536.
Llenyddiaeth
Ychydig iawn a wyddom am fywyd llenyddol y Forgannwg gynnar. Ym Muchedd Sant Gwynllwg (ysgrifenwyd tua 1100), dywedir bod bardd o Forgannwg wedi cyfansoddi cerddi'n ymwneud â hanes Morgannwg a Chymru a mawl i'r sant. Yn y Mabinogi disgrifir Gwydion a Lleu Llaw Gyffes yn ymweld ag Arianrhod "yn rhith beirdd o Forgannwg", sy'n awgrymu fod beirdd y deyrnas yn arfer teithio i lysoedd mewn rhannau eraill o Gymru cyn cyfnod y Normaniaid. Yn ogystal, gwyddom fod gan Berddig, bardd y brenin Gruffudd ap Llywelyn, dir "ar gyffiniau Gwent", sef yn nwyrain Morgannwg yn ôl pob tebyg.[1]
Mae nifer o ffugiadau hynafiaethol Iolo Morganwg yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth Morgannwg yn yr Oesoedd Canol ac rhaid bod yn ofalus wrth ddewis ffynonellau am y cyfnod gan fod sawl awdur sy ddim yn hanesydd proffesiynol yn dal i ddyfynu yn anfeirniadol o waith Iolo.
Brenhinoedd
- Tewdrig (c. 580 - c. 630)
- Meurig ap Tewdrig c. 650
- Morgan Mwynfawr (c. 730)
- Ithel ap Morgan (c. 750)
- Owain ap Hywel (fl, c 920)
- Morgan Hen ab Owain (daeth i'r orsedd tua 930)
- Owain ap Morgan
- Ithel Ddu ab Owain
- Gwrgant ab Ithel
- Rhydderch ab Iestyn ( - 1033)
- Meurig ap Hywel ( - 1055) rhan
- Gruffudd ap Rhydderch ( - 1055) rhan
- Gruffudd ap Llywelyn (1055 - 1063)
- Cadwgan ap Meurig (1063 - 1073)
- Caradog ap Gruffudd ( - 1081)
- Iestyn ap Gwrgant (c. 1081 - 1093)
Cantrefi a chymydau
Fel y nodir uchod, amrywiodd ffiniau'r deyrnas. Rhoddir yma gantrefi Morgannwg yng nghyfnod y Normaniaid.
- Cantref Gwrinydd
- Cantref Gorfynydd
- Cantref Penychen
- Cwmwd Glyn Rhondda (Glynrhondda)
- Cwmwd Meisgyn
- Cantref Senghennydd (neu'r Cantref Breiniol)
Cyfeiriadau
- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 1.
Llyfryddiaeth
- J. S. Corbett, Glamorgan (1925)
- T. B. Pugh (gol.), Glamorgan County History (1971)
- G. Williams, Glamorgan County History (1974)
- G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948). Pennod I.
Gweler hefyd
|