Falls Road: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|de|Murlun i goffa [[Bobby Sands yn y Falls Road.]] Lleolir y '''Falls Road''' (o'r enw [[Gwyddeleg]...'
 
Llinell 15: Llinell 15:
[[Categori:Ffyrdd Gogledd Iwerddon]]
[[Categori:Ffyrdd Gogledd Iwerddon]]
[[Categori:Hanes Gogledd Iwerddon]]
[[Categori:Hanes Gogledd Iwerddon]]

{{eginyn Gogledd Iwerddon}}


[[en:Falls Road]]
[[en:Falls Road]]

Fersiwn yn ôl 22:11, 2 Medi 2009

Murlun i goffa Bobby Sands yn y Falls Road.

Lleolir y Falls Road (o'r enw Gwyddeleg: Bóthar na bhFál sef "ffordd y cloddiau") yng ngorllewin Belffast, Gogledd Iwerddon. Dyma'r brif ffordd yng ngorllewin Belffast, sy'n rhedeg o Stryd Divis (Divis Street) yng nghanol y ddinas i Andersonstown yn y maesdrefi. Mae ei enw yn gysylltiedig â chyfnod Helyntion Gogledd Iwerddon a chymunedau Catholig a Gweriniaethol y ddinas. Mae'r ardal gyfagos o gwmpas Ffordd Shankill (Shankhill Road) yn ardal Brotestannaidd yn bennaf, a wahanir o'r Falls gan 'linellau heddwch'. Dyma'r rhan o Felffast lle ceir y nifer uchaf o siaradwyr Gwyddeleg.

Mae pobl a gysylltir â'r Falls Road yn cynnwys James Connolly, a arosodd yno am gyfnod ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac Eamon De Valera, a sefyllodd fel ymgeisydd y Falls yn etholiad cyffredinol 1918.

Ar ddiwedd y 1960au, dechreuodd nifer o Gatholigion Gogledd Iwerddon ymgyrchu dros gael hawliau sifil. Roedd hyn yn cynnwys galw am ddiwedd i'r gwahaniaethu ar sail crefydd yn achos tai a gwaith. Gwrthwynebwyd Mudiad Hawliau Sifil Gogledd Iwerddon gan rhai Unoliaethwyr. Ymosodwyd ar ardaloedd Catholig. Llosgwyd sawl stryd o gwmpas y Falls Road gan 'teyrngarwyr' yn Awst 1969 ac anfonodd llywodraeth y DU y Fyddin Brydeinig i strydoedd y Falls Road. Cawsont groeso i gychwyn gan drigolion y Falls, yn y gobaith o gael amddiffyn rhag yr ymosodiadau, ond newidiodd ei hagwedd wrth iddynt farnu fod y Fyddin yno yn eu herbyn nhw. Yn 1970 cafwyd yr hyn a alwyd y 'Falls Curfew'. Yn dilyn ymosodiad gan y Provisional IRA, amgylchynwyd strydoedd y Falls, sy'n gartref i tua 10,000, gan 3000 o filwyr Prydeinig, a ollyngodd nwy CS. Dilynodd brwydr ffyrnig rhwng yr IRA Swyddogol a'r Fyddin Brydeinig. Lladdwyd pedwar o sifiliaid Catholig gan y Fyddin mewn penwythnos. Am 30 mlynedd ar ôl hynny bu gan y Fyddin Brydeinig bresenoldeb sylweddol yn y Falls Road, gyda gwersyll ar loriau uchaf y Tŵr Divis a wasanaethid gan hofrenyddion: cafodd hyn ei symud yn Awst 2005.

Dolenni allanol